Fel rhan o ddatblygiad parhaus ei ddarpariaeth cyflogadwyedd, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o garchardai er mwyn ehangu’r gefnogaeth a gynigir i gyn-droseddwyr.
Trwy ei raglen cyflogadwyedd blaenllaw sydd wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae’r Coleg wedi datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i gyn-droseddwyr sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar a’r rheini sy’n gwneud dedfrydau di-garchar yn y gymuned.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig rhaglenni unigol, penagored a hyblyg sydd yn helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib ar ôl cwblhau dedfrydau mewn carchardai. Yn ogystal, mae parhau i ddarparu cymorth i gyn-droseddwyr ar ôl iddynt ddod o hyd i waith yn ffactor bwysig iawn o’r rhaglen. Rydym yn gwneud hyn i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n ymwneud â chadw gwaith ac i hwyluso unrhyw ddarpar gynnydd i’r cyn-droseddwyr.
Hyd yma, mae’r rhaglen wedi ymgysylltu â dros 500 o unigolion sy’n adsefydlu eu hunain yn Abertawe, gan gynnwys Ashleigh a Jason. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud am y gefnogaeth a gawsant:
“Oherwydd fy euogfarn, roeddwn i’n bryderus iawn am ddod o hyd i swydd, ond rhoddodd y gefnogaeth a dderbyniais y fframwaith a’r hyder yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy ngyrfa ddelfrydol. Diolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydw i nawr yn cyflawni fy amcanion ac wedi ennill cymaint o sgiliau newydd. Rydw i wedi ennill llawer o brofiad hefyd wrth weithio mewn gyrfa gyffrous gydag elusen leol wych.”
Ashleigh
“Llwyddodd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cyfweliad i fi tra oeddwn yn y carchar. I mi, roedd hyn yn syfrdanol a theimlais ryddhad wrth ddarganfod fy mod i yn unigolyn cyflogadwy. Ar ôl cael fy rhyddhau, fe es i i’r Hyb Cyflogaeth i gwrdd â rhagor o’r tîm. Roedden nhw i gyd yn bositif iawn, ond yn bwysicach na hynny rodden nhw’n awyddus i siarad am fy sgiliau, fy mhrofiad, fy ngwybodaeth a fy amcanion ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na gweld fy euogfarn yn rhwystr. Roedd agwedd y tîm yn sicr wedi codi fy hyder, ac fe wnes i sicrhau swydd gyffrous iawn. Rydw i mor lwcus fy mod i’n gallu dweud bod fy nyfodol yn argoeli yn bositif ac yn addawol, diolch i gefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.”
Jason
Gwaith mewn carchardai
Mae’r rhaglen yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg er mwyn diwallu anghenion pob carchar a’i boblogaeth. Fel rheol, byddwn yn cyflwyno camau cyn-ymgysylltu cyn gynted a bo modd drwy gynnal sesiynau ymgynghori rhwng cleientiaid a Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig. Bwriad y sesiynau hyn yw ceisio meithrin ymddiriedaeth rhwng y cleient a’r hyfforddwr, yn ogystal â cheisio:
- ennill dealltwriaeth o anghenion cyflogadwyedd ac amcanion gyrfaol y cleient;
- trafod opsiynau a chyfleoedd cyflogaeth posib; a
- chreu cynllun unigol i bob cleient a fydd yn weithredol ar ôl eu rhyddhau
I gyd-fynd â’r gefnogaeth a gynigir mewn carchardai, mae Hyfforddwyr Gyrfa yn gweithio law yn llaw â’n Cynghorwyr Recriwtio a Gweithlu arbenigol er mwyn brocera cyfleoedd cyflogaeth priodol fel y gall cyn-droseddwyr sicrhau cyflogaeth mewn modd llyfn ar ôl cael eu rhyddhau.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda charchar HMP Parc, a dyma oedd gan Chris Roberts, Rheolwr Cyfundrefnau a Llwybrau Cyflogaeth i’w ddweud am y berthynas:
“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol (Coleg Gŵyr Abertawe) wedi bod yn cefnogi troseddwyr yn HMP Parc am ddeuddeg mis. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau cyflogadwyedd i garcharwyr sydd bron â gorffen eu dedfrydau, er mwyn eu cefnogi i ennill cyflogaeth cynialadwy ar ôl iddynt adael y carchar. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran adsefydlu troseddwyr, ac yn eu helpu i beidio â throseddu eto. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn rhoi ail gyfle i’r troseddwyr ac yn eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol a phositif i’w bywydau, er mwyn cefnogi eu cymunedau lleol.”
HMP Parc
Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu partneriaeth sefydlog gyda HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, er mwyn darparu llwybr cymorth tebyg i droseddwyr benywaidd sy’n adsefydlu yn ardal Abertawe. Dyma ddywedodd David Durrant, Pennaeth Lleihau Aildroseddu am y bartneriaeth:
“Mae’n wych ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol o Goleg Gŵyr Abertawe, ac rydyn ni’n hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r berthynas yn datblygu rhwng y ddau sefydliad. Rydyn ni’n hyderus y bydd y berthynas yn darparu cefnogaeth ychwanegol i droseddwyr benywaidd i sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth.” HMP Eastwood Park
Er gwaethaf yr heriau rydym yn eu profi oblegid Covid 19, mae’r coleg yn parhau i weithio gyda charchardai a gwasanaethau prawf i addasu dulliau darparu er mwyn sicrhau cysondeb o ran cynnig cefnogaeth i gyn-droseddwyr. Os hoffech wybod rhagor am y gefnogaeth rydym yn ei chynnig, cysylltwch â ni drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales
Craffu ar y cyfyngiadau symud!
/in Gwell Swyddi, Gwell DyfodolGyda’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, a’r Hyb Cyflogaeth yn ailagor ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb, nawr yw’r amser perffaith i edrych yn ôl ar bopeth sydd wedi cael ei gyflawni dros y misoedd diwethaf.
Addasodd yr Adran Gyflogadwyedd yn gyflym i weithio o bell, ac fe gyrhaeddodd a chefnogodd y gwasanaeth dros 3000 o unigolion. Ymatebodd cleientiaid a busnesau yn gadarnhaol iawn i’r newidiadau hyn, ac fe wnaethant elwa o’r gefnogaeth barhaus a oedd ar gael iddynt. Trwy gydol y cyfnod clo fe sicrhaodd nifer o gleientiaid rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol amrywiaeth o gyfleoedd gwych, ac fe wnaeth unigolion eraill barhau i wneud cynnydd parhaus mewn perthynas â’u ceisiadau. Fe wnaeth unigolion Reach+ wella eu sgiliau iaith a chyflogadwyedd drwy ein technegau dysgu rhithwir, ac fe barhaodd unigolion ‘Dyfodol Mentrus’ i wneud cynnydd gwych ar eu cynlluniau entrepreneuraidd.
Roedd ein cleientiaid newydd a’n cleientiaid presennol yn ddiolchgar iawn bod ein gwasanaeth wedi parhau trwy’r cyfnod hwn, oherwydd roedd lawer ohonynt yn ddi-waith ac yn dymuno cael gafael ar gymorth i’w helpu nhw i symud ymlaen i sicrhau swyddi. Roedd gan Lowrie, cleient Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol rhwystrau o ran sicrhau ei swydd delfrydol oherwydd nad oedd ganddi’r profiad, y cymwysterau na’r hyder i gwblhau cais. Derbyniodd gefnogaeth gan ei Hyfforddwr gyrfa Lynsey, i ddatblygu ei hyder yn ei gallu ac i ymgeisio ar gyfer rolau, cyn symud ymlaen i sicrhau ei swydd ddelfrydol.
Roedd hi hefyd yn galonogol i weld nifer o’n myfyrwyr coleg yn sicrhau swyddi a phrentisiaethau gwych o ganlyniad i’n cefnogaeth cyflogadwyedd. Roedd y myfyriwr Jade yn chwilio am y cyfle cywir i gydfynd â’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygodd wrth astudio cwrs mewn Bwyd a Diod.
Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol, mae nifer o sefydliadau wedi parhau i dyfu trwy gydol y cyfod clo, ac mae ein tîm o Ymgynghorwyr Gweithlu wedi bod yn barod i gefnogi cyflogwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau recriwtio a gweithlu.
Mae Order Uniform UK yn un sefydliad a welodd galw cynyddol am eu cynnyrch, sy’n golygu roedd angen iddynt gyflogi staff arbenigol ychwanegol mewn bach iawn o amser. Er i’r tîm rhoi nifer o’u gweithwyr ar gynllun ffyrlo (oherwydd roeddent yn meddwl y byddai llai o bobl yn prynu eu nwyddau), fe welwyd cynnydd mewn archebion, wrth i’w cystadleuwyr orfod cau dros dro. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu dod â staff yr oedd ar ffyrlo yn ôl i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl. Yn ogystal, roedd angen iddynt recriwtio aelodau tîm ar unwaith, a phrynu offer cynhyrchu newydd er mwyn ateb y galw o ran archebion.
Kelly Jenkins
Cyfarwyddwr Order Uniform UK.
Wrth i Abertawe weld cynnydd o ryw 70% yn y niferoedd sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra, a 20% o weithluoedd lleol yn gorfod rhoi eu staff ar ffyrlo, rydym yn paratoi ar gyfer cynnydd sylweddol mewn graddfa a sgôp yr unigolion a fydd angen ein cefnogaeth. Wrth i’r economi ailagor yn araf, rydym yn rhagweld galw cynyddol hefyd gan gyflogwyr i ddefnyddio ein gwasanaeth cymorth recriwtio, er mwyn inni helpu busnesau i fynd i’r afael â’u heriau gweithlu ac i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i unigolion rydym yn eu cefnogi i gael gwaith newydd neu well.
Os ydych chi’n chwilio am gyflogaeth newydd neu wahanol, neu os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cael gafael ar gymorth ar recriwtio neu’r gweithlu, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales neu ffoniwch 01792 284450.
Gwirfoddoli – rhowch gynnig arni!
/in CVsBydd unrhyw un sydd wedi rhoi o’i amser er budd achos da yn gwybod pa mor wych mae’n gallu teimlo i wneud cyfraniad gwerthfawr. Ond wyddech chi y gall gwirfoddoli gynnig nifer o fanteision personol a phroffesiynol eraill i bobl? Rydym ni wedi llunio rhestr gyflym o’r hyn a allai gwirfoddoli ei wneud i chi a’ch gyrfa, felly darllenwch ymlaen a rhowch gynnig arni! Read more
Beth mae’ch Olion Rhithiol yn dweud amdanoch chi?
/in Chwilio am swyddP’un ai’ch bod yn aficionado sy’n ymroddedig i gyfryngau cymdeithasol, neu rydych chi ond yn defnyddio rhai llwyfannau, gall y ffordd rydych chi’n portreadu’ch hun ar-lein gael mwy o effaith na fyddwch chi’n meddwl! Mae pob fideo rydych yn ei uwchlwytho, pob llun rydych yn ei ‘hoffi’ neu neges mae’ch post yn arwain at lunio darlun o bwy ydych chi, sef darlun y gall cyflogwyr gael mynediad hawdd iddo pan fyddant yn ceisio deall mwy am ddarpar weithiwr. Ond peidiwch â phoeni, mae bod yn graff ar gyfryngau cymdeithasol yn rhwydd os ydych chi’n gwybod pa faglau i’w hosgoi, ac rydym wedi casglu awgrymiadau euraidd i sicrhau bod eich olion rhithiol chi yn amlwg am y rhesymau iawn. Read more
Ailagor yr Hyb Cyflogaeth
/in Dyfodol, Fusnes, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, Newyddion, Uncategorized, Ymchwil a dadansoddiadRydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ac yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’r adeilad ac wedi rhoi ar waith yr holl ragofalon a’r mesurau angenrheidiol er mwyn darparu ein gwasanaeth mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a hamddenol.
I ddarganfod sut y gallwn ni helpu eich taith cyflogaeth chi, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales
Craffu ar … cyn-droseddwyr
/in NewyddionFel rhan o ddatblygiad parhaus ei ddarpariaeth cyflogadwyedd, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o garchardai er mwyn ehangu’r gefnogaeth a gynigir i gyn-droseddwyr.
Trwy ei raglen cyflogadwyedd blaenllaw sydd wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae’r Coleg wedi datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i gyn-droseddwyr sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar a’r rheini sy’n gwneud dedfrydau di-garchar yn y gymuned.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig rhaglenni unigol, penagored a hyblyg sydd yn helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib ar ôl cwblhau dedfrydau mewn carchardai. Yn ogystal, mae parhau i ddarparu cymorth i gyn-droseddwyr ar ôl iddynt ddod o hyd i waith yn ffactor bwysig iawn o’r rhaglen. Rydym yn gwneud hyn i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n ymwneud â chadw gwaith ac i hwyluso unrhyw ddarpar gynnydd i’r cyn-droseddwyr.
Hyd yma, mae’r rhaglen wedi ymgysylltu â dros 500 o unigolion sy’n adsefydlu eu hunain yn Abertawe, gan gynnwys Ashleigh a Jason. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud am y gefnogaeth a gawsant:
“Oherwydd fy euogfarn, roeddwn i’n bryderus iawn am ddod o hyd i swydd, ond rhoddodd y gefnogaeth a dderbyniais y fframwaith a’r hyder yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy ngyrfa ddelfrydol. Diolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydw i nawr yn cyflawni fy amcanion ac wedi ennill cymaint o sgiliau newydd. Rydw i wedi ennill llawer o brofiad hefyd wrth weithio mewn gyrfa gyffrous gydag elusen leol wych.”
Ashleigh
“Llwyddodd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cyfweliad i fi tra oeddwn yn y carchar. I mi, roedd hyn yn syfrdanol a theimlais ryddhad wrth ddarganfod fy mod i yn unigolyn cyflogadwy. Ar ôl cael fy rhyddhau, fe es i i’r Hyb Cyflogaeth i gwrdd â rhagor o’r tîm. Roedden nhw i gyd yn bositif iawn, ond yn bwysicach na hynny rodden nhw’n awyddus i siarad am fy sgiliau, fy mhrofiad, fy ngwybodaeth a fy amcanion ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na gweld fy euogfarn yn rhwystr. Roedd agwedd y tîm yn sicr wedi codi fy hyder, ac fe wnes i sicrhau swydd gyffrous iawn. Rydw i mor lwcus fy mod i’n gallu dweud bod fy nyfodol yn argoeli yn bositif ac yn addawol, diolch i gefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.”
Jason
Gwaith mewn carchardai
Mae’r rhaglen yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg er mwyn diwallu anghenion pob carchar a’i boblogaeth. Fel rheol, byddwn yn cyflwyno camau cyn-ymgysylltu cyn gynted a bo modd drwy gynnal sesiynau ymgynghori rhwng cleientiaid a Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig. Bwriad y sesiynau hyn yw ceisio meithrin ymddiriedaeth rhwng y cleient a’r hyfforddwr, yn ogystal â cheisio:
I gyd-fynd â’r gefnogaeth a gynigir mewn carchardai, mae Hyfforddwyr Gyrfa yn gweithio law yn llaw â’n Cynghorwyr Recriwtio a Gweithlu arbenigol er mwyn brocera cyfleoedd cyflogaeth priodol fel y gall cyn-droseddwyr sicrhau cyflogaeth mewn modd llyfn ar ôl cael eu rhyddhau.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda charchar HMP Parc, a dyma oedd gan Chris Roberts, Rheolwr Cyfundrefnau a Llwybrau Cyflogaeth i’w ddweud am y berthynas:
“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol (Coleg Gŵyr Abertawe) wedi bod yn cefnogi troseddwyr yn HMP Parc am ddeuddeg mis. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau cyflogadwyedd i garcharwyr sydd bron â gorffen eu dedfrydau, er mwyn eu cefnogi i ennill cyflogaeth cynialadwy ar ôl iddynt adael y carchar. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran adsefydlu troseddwyr, ac yn eu helpu i beidio â throseddu eto. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn rhoi ail gyfle i’r troseddwyr ac yn eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol a phositif i’w bywydau, er mwyn cefnogi eu cymunedau lleol.”
HMP Parc
Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu partneriaeth sefydlog gyda HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, er mwyn darparu llwybr cymorth tebyg i droseddwyr benywaidd sy’n adsefydlu yn ardal Abertawe. Dyma ddywedodd David Durrant, Pennaeth Lleihau Aildroseddu am y bartneriaeth:
“Mae’n wych ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol o Goleg Gŵyr Abertawe, ac rydyn ni’n hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r berthynas yn datblygu rhwng y ddau sefydliad. Rydyn ni’n hyderus y bydd y berthynas yn darparu cefnogaeth ychwanegol i droseddwyr benywaidd i sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth.” HMP Eastwood Park
Er gwaethaf yr heriau rydym yn eu profi oblegid Covid 19, mae’r coleg yn parhau i weithio gyda charchardai a gwasanaethau prawf i addasu dulliau darparu er mwyn sicrhau cysondeb o ran cynnig cefnogaeth i gyn-droseddwyr. Os hoffech wybod rhagor am y gefnogaeth rydym yn ei chynnig, cysylltwch â ni drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales
Sylw arbennig i Dyfodol
/in NewyddionFel rhan o raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu ystod eang o gymorth cyflogadwyedd i’w fyfyrwyr drwy’r prosiect ‘Dyfodol’. Mae tîm Dyfodol yn gweithio gyda myfyrwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o lwybrau cyflogaeth a phrentisiaethau i’r rhai nad ydynt am ddilyn llwybr addysg uwch. Mae’r tîm yn gweithio gyda’r dysgwyr trwy gydol eu cwrs i’w cefnogi i symud ymlaen i’r llwybr y maen nhw’n dewis. Yn ogystal, mae’r tîm yn cynnig mynediad i ystod o gyfleoedd i ddysgwyr sy’n chwilio am swyddi rhan-amser i redeg ochr yn ochr â’u hastudiaethau, er mwyn eu hannog i ennill sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn fuddiol iawn iddynt ym myd gwaith.
Eleni, ar draws y coleg, mae Dyfodol wedi cefnogi dros 4,000 o fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u gwerthfawrogiad o’r farchnad lafur leol. Maent hefyd wedi bod yn archwilio cyfleoedd gyrfa ac wedi ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr, ac mae llawer ohonynt wedi sicrhau swydd am y tro cyntaf erioed. Mae’r gefnogaeth yma hefyd wedi galluogi’r coleg y flwyddyn hon i gyflwyno ‘Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe’, sy’n gwarantu dilyniant i ddysgwyr amser llawn i un o’r pum llwybr canlynol (ar ôl iddynt gwblhau eu cwrs): swydd, prentisiaeth, cymorth cyflogadwyedd parhaus, addysg uwch neu addysg bellach barhaus.
Ffair Yrfaoedd
I ychwanegu at gysylltiadau gwych y coleg gyda chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, bydd y tîm Dyfodol yn gallu cynnig mynediad i fusnesau at gronfa amrywiol o dalent er mwyn eu helpu i ddatblygu eu gweithlu ar gyfer y dyfodol. Mae cadw cysylltiadau o’r fath yn galluogi’r coleg i gynnal Ffeiriau Gyrfaoedd yn rheolaidd, sy’n denu cwmnïau o ystod eang o sectorau. Roedd ein digwyddiad diweddaraf ym mis Chwefror yn llwyddiant ysgubol, a phrofodd i fod yn brofiad amhrisiadwy i dros 2,000 o fyfyrwyr, gyda llawer ohonynt yn derbyn cynigion swydd o ganlyniad i’r cysylltiadau y gwnaethon nhw ar y diwrnod. Roedd adborth y sefydliadau a fynychodd y digwyddiad yr un mor bositif:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o Ffair Recriwtio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ac roedd hi’n wych i weld cymaint o fyfyrwyr eiddgar yn ymgysylltu ag ystod eang o gyflogwyr.” Yswiriant Admiral
“Rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi cymryd rhan yn y Ffair Recriwtio. Cawsom gyfle i roi mewnwelediad i’r myfyrwyr o’r cyfloedd cyflogaeth sydd ym maes y Gyfraith. Diolch.” Cyfreithwyr Gomer Williams
Academi Dyfodol
Rhaglen gymorth yw Academi Dyfodol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch nad ydynt am symud ymlaen i Addysg Uwch. Maent yn derbyn cymorth er mwyn llunio cynllun dilyniant clir o ran eu camau nesaf. Mae’r cynllun arloesol hwn, a gefnogir gan gyflogwyr y rhanbarth, yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu llwybr cyflogaeth unigol wrth iddynt ymgymryd â gweithdai a sesiynau mentora pwrpasol sy’n yn eu helpu i symud ymlaen i gyflogaeth neu brentisiaeth ar ôl cwblhau’r cwrs.
Mae Demi Clement yn enghraifft o fyfyriwr a wnaeth y mwyaf o’i phrofiad yn yr Academi. Hi oedd ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ yn 2018, ac mae hi bellach yn brentis gyda chwmni cyfrifwyr Bevan and Buckland. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud:
“Mae Demi yn unigolyn weithiwr proffesiynol ifanc, brwdfrydig ac angerddol sy’n llwr ymroddedig i’w nod o weithio fel Cyfrifydd Siartredig. Oherwydd ei brwdfrydedd, ei pharodrwydd i ennill profiad, ei pherfformiad academaidd rhagorol a chymorth Coleg Gŵyr Abertawe, mae hi wedi symud ymlaen o fod yn fyfyriwr profiad gwaith i fod yn Gynorthwyydd Cyfrifon Iau” – Vanessa Thomas Parry, Rheolwr Dysgu a Datblygu, Bevan and Buckland.
Beth sydd nesaf?
Yn unol â ddarpariaeth parhaus ein Gwarant Coleg Gŵyr Abertwe, ac yn sgil newidiadau i’r farchnad lafur oblegid Covid 19, disgwlir i raglen Dyfodol chaware rhan fwy blaenllaw wrth gynghori dysgwyr ar eu cyflogaeth / cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Dros y misoedd nesaf bydd y rhaglen yn ceisio darparu sgiliau i’r dysgwyr a fydd angen arnynt i lwyddo yn eu llwybrau dewisiedig. Os ydych chi’n fyfyriwr, neu’n ddarpar fyfyriwr sydd eisiau gwybod rhagor am y cymorth y gallen ei gynnig, neu os ydych yn gyflogwr sydd am weithio gyda ni i ddarparu cyfleoedd i’n dysgwyr, e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales
Creu Llythyr Llwyddiannus i Gyd-fynd â Chais
/in CeisiadauMae llythyrau’n gyfle i chi werthu eich hun i gyflogwr, ond beth ddylech chi ei gynnwys i gael yr effaith fwyaf? Read more
Sylfeini cyfweliad
/in CyfweliadauRydych chi wedi’i wneud e; rydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad! Nawr mae’n amser gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gael y swydd. Read more
Dyddiadur yr Hyb Cyflogaeth – #1
/in NewyddionEwch i gael golwg ar ein dyddiadur Hyb Cyflogaeth ddiweddaraf i gael diweddariad gan yr Adran Gyflogadwyedd
Byddwch ar y blaen – gwnewch eich gwaith ymchwil
/in CyfweliadauMae dangos eich bod chi wedi gwneud eich gwaith ymchwil ar gwmni yn hollbwysig ar gyfer unrhyw gyfweliad, ond ni fydd gwybod pryd y cafodd y cwmni ei sefydlu yn ddigon da yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni. Dyma dri o’r cynghorau gorau a fydd yn sicrhau bod eich gwaith ymchwil yn eich helpu i sefyll allan.
Dylech ystyried agweddau fel maint y cwmni, pwy yw ei gwsmeriaid a phwy yw ei brif gystadleuwyr. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i ymchwilio’n ddyfnach a chael hyd i’r atebion i gwestiynau megis ydy’r cwmni yn cefnogi mentrau lleol? Ydy’r cwmni yn arwain y farchnad yn ei faes? Oes polisi “masnach deg” gan y cwmni? Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan y cwmni felly neilltuwch amser i ddarllen trwy’r wybodaeth yn fanwl; mae deall gweledigaeth a gwerthoedd yn dangos bod gennych chi wir ddiddordeb yn y cwmni sydd y tu ôl i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Mae pawb yn hoffi brolio am eu llwyddiannau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n debyg na fydd y cwmni rydych yn gwneud cais i ymuno ag ef yn wahanol yn hynny o beth. Boed yn llun “dydd Gwener gwisgo dillad eich hun” ar Instagram neu ymgyrch codi arian ar Twitter, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o weld sut mae’r cwmni yn gweithredu. Edrychwch ii weld pa sianeli cyfryngau cymdeithasol y mae’r cwmni yn eu defnyddio, y tôn a’r math o neges sydd fel petai’n cael ei chyfleu. Bydd hyn yn helpu i lunio eich atebion yn y cyfweliad i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â syniadau’r cwmni ac yn eu hadlewyrchu’n briodol.
Gall y math o gyfweliad amrywio o gwmni i gwmni ac mae mathau gwahanol o gyfweliad yn gofyn am ddulliau gwahanol. Boed yn gyfweliad grŵp neu un-i-un, bydd pob cyfweliad yn gofyn am wahanol fath o baratoi. Fel arfer caiff y math o gyfweliad ei esbonio i chi ymlaen llaw, ond gall gofyn am ragor o wybodaeth wneud argraff dda. Gall awydd i wybod cynifer o fanylion â phosibl roi’r argraff eich bod chi’n frwdfrydig ynghylch cael y swydd, a gwneud argraff gyntaf gadarnhaol ar unrhyw ddarpar gyflogwr.
Os hoffech chi gael cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliad neu unrhyw gymorth arall sy’n gysylltiedig â gyrfa, cymerwch y cam cyntaf a ffoniwch ni ar 01792 284450.