Creu Llythyr Llwyddiannus i Gyd-fynd â Chais
Mae llythyrau’n gyfle i chi werthu eich hun i gyflogwr, ond beth ddylech chi ei gynnwys i gael yr effaith fwyaf? Read more
Mae llythyrau’n gyfle i chi werthu eich hun i gyflogwr, ond beth ddylech chi ei gynnwys i gael yr effaith fwyaf? Read more
Mae profion Crebwyll Sefyllfaol yn cael eu defnyddio gan rai cyflogwyr fel rhan o’u proses recriwtio ac maent yn debyg i brofion personoliaeth/seicometreg. Maent yn asesu sgiliau a medrusrwydd ymgeiswyr yn seiliedig ar ymatebion aml-ddewis i sefyllfaoedd, ac mae disgwyl i chi wneud un o’r canlynol:
Ni fyddwch yn gwybod beth yw’r sefyllfaoedd ymlaen llaw ac efallai eich bod yn meddwl ei bod yn amhosib paratoi ar eu cyfer, ond dyma rai camau syml ddylai eich helpu i fod ar eich gorau.
Gwnewch ymchwil ar ei wefan fel byddech yn gwneud wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd ei ddatganiad o werthoedd a chenhadaeth yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau gweithredu y byddai’n disgwyl i’w staff eu cymryd yn y sefyllfaoedd yma.
Edrychwch ar y disgrifiad swydd a manyleb y person. Ystyriwch y sgiliau sy’n ofynnol a’r math o unigolyn mae’r cwmni’n chwilio amdano.
Bydd gwneud amser i ymarfer profion crebwyll sefyllfaol yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae’r cwestiynau’n cael eu geirio o leiaf, neu eu cynllun, a’r mathau o atebion a ddisgwylir.
Os hoffech gael cefnogaeth gyda pharatoi ac ymarfer ar gyfer profion barn sefyllfaol, ffoniwch ni ar 01792 284450.
Ydych chi erioed wedi hedfan drwy gais am swydd dim ond i rewi pan fyddwch yn cyrraedd y rhan ‘datganiad cefnogi’? Mae wedi digwydd i bawb! Yn ffodus, mae gan yr arbenigwyr yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ychydig o ganllawiau hawdd a allai eich helpu i ysgrifennu datganiad cefnogi disglair sy’n eich gwerthu fel y person gorau ar gyfer y rôl.
Darllenwch ein canllawiau euraidd i sicrhau bod eich datganiad cefnogi yn disgleirio ac yn eich helpu chi i gael swydd eich breuddwydion!
Byddwch yn gryno ond sicrhewch eich bod yn rhoi argraff gref a chadarnhaol ohonoch chi eich hunan o’r dechrau un. Rhowch grynodeb cryno o bwy ydych chi a pham eich bod yn ddelfrydol am y rôl, ond peidiwch â bod ofn dangos eich personoliaeth! Defnyddiwch ddigon o ddatganiadau cadarnhaol ond gwnewch yn siŵr eich bod unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei hychwanegu’n rhoi mwy o werth i’ch cais.
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at ofynion y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb swydd, gan roi enghreifftiau penodol yn seiliedig ar eich sgiliau a’ch profiad. Lle bo’n bosib, defnyddiwch ffeithiau a ffigurau i ddangos eich rhan chi mewn tasg benodol ac amlinellu’r effaith a gawsoch. Bydd rhoi tystiolaeth fesuradwy’n atgyfnerthu unrhyw ddatganiad a wnewch ynghylch eich galluoedd ac yn helpu cyflogwyr i weld eich effaith bosib yn y rôl.
Byddwch yn frwdfrydig a manylwch ar bâm yr hoffwch weithio i’r sefydliad penodol hwn. Mae ymchwil gefndirol yn hanfodol er mwyn i chi allu esbonio sut mae eich gwerthoedd chi’n cyd-fynd ag amcanion y cwmni a’r hyn a wnaeth eich denu at y rôl yn effeithiol. Peidiwch â bod ofn dangos pa mor frwdfrydig ydych chi i weithio iddynt – mae pob cyflogwr yn dwlu ar glywed pethau gwych am ei gwmni ac nid oes unrhyw beth gwell na gwybod bod pobl am ymuno â’ch tîm, felly gwnewch yn siŵr nad oes modd iddynt amau eich brwdfrydedd a’ch ysgogiad!
Gall ddilyn y canllawiau syml hyn ddangos i ddarpar gyflogwr eich bod wedi deall natur y rôl rydych yn ymgeisio ar ei chyfer yn llawn ac y gallwch fodloni gofynion y swydd yn hyderus. Yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, gallwn gynnig digonedd o gyngor ar gyflogaeth a gyrfaoedd, fellwch os hoffwch chi gymorth wrth ysgrifennu’r datganiad cefnogi perffaith, ffoniwch y tîm ar 01792 284450.