Bod ar flaen y gad: sut i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y cyfweliad hollbwysig ‘na

Symud rhwng rolau, wedi bod allan o waith ers tro, neu oes gennych ormod o gymwysterau ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani? Trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd rydych yn gwneud cais am rolau gallech osgoi gwneud rhai camgymeriadau cyffredin a sicrhau bod eich cais ar ben y pentwr ‘Ie’.

Symud rhwng rolau

Gall recriwtwyr fod yn ochelgar o bobl sy’n newid rolau swyddi yn rheolaidd, ond mae’n dod yn fwyfwy cyffredin yn y farchnad gyflogaeth wrth i weithwyr chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu a dangos amrywiaeth o sgiliau ac i ychwanegu at eu profiad. Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae’n hanfodol bod eich CV wedi’i deilwra i’ch set sgiliau amrywiol: byddwch yn benodol a defnyddio ffeithiau a ffigurau i dynnu sylw at yr hyn rydych wedi’i gyflawni. Rydych am argyhoeddi’r cyflogwr nad ydych yn risg ac, i wneud hynny, rhaid i chi ganolbwyntio ar werth diriaethol eich cyflogaeth mewn rolau blaenorol a’r sgiliau a’r profiad y gallwch eu cynnig.

Amser allan o waith

Po hiraf ydych chi allan o waith, y mwyaf anodd fydd hi i gael swydd eto. Mae’n hawdd ymgyfarwyddo â chylch o ysgrifennu ceisiadau yn yr un arddull ond, er mwyn sicrhau’r cyfweliad hollbwysig ‘na, efallai y bydd rhaid i chi roi cynnig ar ddull gwahanol. Ystyriwch gysylltu â rheolwyr hurio yn uniongyrchol trwy ffonio neu anfon e-bost. Mae cysylltu â rhywun yn bersonol a chreu argraff gyntaf bositif yn gallu gwneud byd o wahaniaeth pan fyddwch yn ceisio sefyll allan mewn marchnad gystadleuol a phrysur. Awgrym da arall fyddai gwneud gwaith gwirfoddol i ychwanegu gwahanol sgiliau a phrofiad presennol at eich CV.

Gormod o gymwysterau

Gall bod â gormod o gymwysterau ymddangos fel peth da ond, yn rhyfedd ddigon, nid yw cyflogwyr yn gweld hyn mor ffafriol! I fynd i’r afael ag unrhyw ragdybiaethau negyddol sydd ganddynt, cofiwch roi gwybod i reolwyr hurio eich bod yn deall yn llwyr y swydd sy’n cael ei hysbysebu, a mynegi’n glir ac yn gadarnhaol y rhesymau pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl. Mae didwylledd yn mynd yn bell ac felly, yn y llythyr eglurhaol neu’r ffurflen gais, byddwch yn onest ac esbonio ble rydych chi nawr, ble rydych chi am fod a pham/sut rydych yn bwriadu cyrraedd yno. Bydd cyflogwr da bob amser yn adnabod (a gwobrwyo gobeithio) ymgeiswyr dibynadwy sydd yn agored a dilys ynghylch eu rhesymau dros wneud cais am y rôl.