Creu Llythyr Llwyddiannus i Gyd-fynd â Chais
Mae llythyrau’n gyfle i chi werthu eich hun i gyflogwr, ond beth ddylech chi ei gynnwys i gael yr effaith fwyaf?
Gosod y cefndir
Cyflwynwch eich hun i’r cyflogwr. Nodwch pa swydd rydych chi’n gwneud cais amdani, pam mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais amdani a ble clywsoch chi amdani.
Gwerthu eich hun
Tynnwch sylw at eich cymwysterau a’ch profiad a’u cyfateb i fanylion y swydd, gan gofio cynnwys geiriau allweddol ac esiamplau. Hefyd byddwch eisiau dangos eich gwybodaeth am y cwmni a dangos sut rydych yn bodloni ei werthoedd.
I gloi
Ailadroddwch rai o’r pwyntiau allweddol sydd wir yn gwerthu eich sgiliau, oherwydd bydd y cyflogwr yn cael argraff bositif ohonoch chi fel gweithiwr. Cofiwch gloi’r llythyr drwy ddiolch i’r cyflogwr am ei amser.
Os hoffech gael cefnogaeth gyda chreu llythyr gwych i gyd-fynd â’ch cais, ffoniwch ni ar 01792 284450.