Byddwch ar y blaen – gwnewch eich gwaith ymchwil
Mae dangos eich bod chi wedi gwneud eich gwaith ymchwil ar gwmni yn hollbwysig ar gyfer unrhyw gyfweliad, ond ni fydd gwybod pryd y cafodd y cwmni ei sefydlu yn ddigon da yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni. Dyma dri o’r cynghorau gorau a fydd yn sicrhau bod eich gwaith ymchwil yn eich helpu i sefyll allan.
- Gwybod y manylion
Dylech ystyried agweddau fel maint y cwmni, pwy yw ei gwsmeriaid a phwy yw ei brif gystadleuwyr. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i ymchwilio’n ddyfnach a chael hyd i’r atebion i gwestiynau megis ydy’r cwmni yn cefnogi mentrau lleol? Ydy’r cwmni yn arwain y farchnad yn ei faes? Oes polisi “masnach deg” gan y cwmni? Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan y cwmni felly neilltuwch amser i ddarllen trwy’r wybodaeth yn fanwl; mae deall gweledigaeth a gwerthoedd yn dangos bod gennych chi wir ddiddordeb yn y cwmni sydd y tu ôl i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.
- Bod yn gymdeithasol
Mae pawb yn hoffi brolio am eu llwyddiannau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n debyg na fydd y cwmni rydych yn gwneud cais i ymuno ag ef yn wahanol yn hynny o beth. Boed yn llun “dydd Gwener gwisgo dillad eich hun” ar Instagram neu ymgyrch codi arian ar Twitter, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o weld sut mae’r cwmni yn gweithredu. Edrychwch ii weld pa sianeli cyfryngau cymdeithasol y mae’r cwmni yn eu defnyddio, y tôn a’r math o neges sydd fel petai’n cael ei chyfleu. Bydd hyn yn helpu i lunio eich atebion yn y cyfweliad i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â syniadau’r cwmni ac yn eu hadlewyrchu’n briodol.
- Math o gyfweliad
Gall y math o gyfweliad amrywio o gwmni i gwmni ac mae mathau gwahanol o gyfweliad yn gofyn am ddulliau gwahanol. Boed yn gyfweliad grŵp neu un-i-un, bydd pob cyfweliad yn gofyn am wahanol fath o baratoi. Fel arfer caiff y math o gyfweliad ei esbonio i chi ymlaen llaw, ond gall gofyn am ragor o wybodaeth wneud argraff dda. Gall awydd i wybod cynifer o fanylion â phosibl roi’r argraff eich bod chi’n frwdfrydig ynghylch cael y swydd, a gwneud argraff gyntaf gadarnhaol ar unrhyw ddarpar gyflogwr.
Os hoffech chi gael cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliad neu unrhyw gymorth arall sy’n gysylltiedig â gyrfa, cymerwch y cam cyntaf a ffoniwch ni ar 01792 284450.