Byddwch ar flaen y gad – gwnewch argraff gyntaf wych
Pan fyddwch yn ddi-waith, gall aros am y cyfle swydd iawn eich gadael yn teimlo’n ddigalon ac yn ddiegni. Mae’n hawdd teimlo ofn a chywilydd ynghylch eich statws cyflogaeth, ond mae’n hynod bwysig i barhau i wthio’ch hun. Beth am gymryd rheolaeth dros y sefyllfa a chynyddu’r tebygolrwydd y byddwch yn y lle cywir ar yr adeg gywir pan mae’r cyfle swydd delfrydol hwnnw’n codi?
Drwy gymryd ychydig o gamau hawdd, gallwch fagu hyder, gwneud cysylltiadau newydd gwych ac efallai hyd yn oed cael y cyfle gyrfa ardderchog hwnnw rydych chi wedi bod yn chwilio amdano! Gall pethau mawr ddigwydd pan fyddwch yn camu ychydig y tu hwnt i’ch tir diogel, felly beth am roi cynnig arni?
Codwch y ffôn
Gall feddwl am godi’r ffôn a siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod fod yn frawychus. Beth am ddechrau drwy wneud ychydig o ymchwil a llunio rhestr fer o gyflogwyr rydych chi’n meddwl yr hoffech weithio iddynt. Gall galwad ffôn cwrtais i’r cwmni i esbonio pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio yno fod yn ffordd wych o gysylltu am y tro cyntaf. Cofiwch fod yr argraff gyntaf yn hynod bwysig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrtais, yn gyfeillgar, yn frwdfrydig ac yn broffesiynol.
Anfonwch e-bost neu lythyr cyflwyno
Bydd gan y rhan fwyaf o sefydliadau fanylion cyswllt ar eu gwefannau felly mae’n werth ystyried anfon llythyr neu e-bost hapfasnachol iddynt yn dweud wrthynt faint o ddiddordeb sydd gennych mewn gweithio i’r cwmni a gofyn at bwy allech chi anfon eich CV er mwyn cael eich ystyried ar gyfer unrhyw gyfleoedd addas. Hyd yn oed os nad oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd, dydych chi byth yn gwybod pa gyfleoedd a allai godi yn y dyfodol a gall gymryd camau nawr olygu y bydd eich CV ar ben y pentwr pan fydd y swydd ddelfrydol yn codi.
Cyswllt wyneb yn wyneb
Gall fod yn ddi-waith olygu bod hen ddigon o amser rhydd gyda chi, felly beth am fanteisio ar hynny i argraffu copïau o’ch CV a’u gadael gydag ambell fusnes lleol? Cyflwynwch eich hun a rhowch wybod iddynt fod gennych ddiddordeb mewn unrhyw gyfleoedd posib a’ch bod yn frwdfrydig i wybod mwy am weithio yno. Peidiwch â phoeni os yw pobl yn rhy brysur i siarad â chi’r tro hwn. Ymatebwch mewn ffordd gwrtais ac addas a byddwch yn cael argraff dda arnynt. Gall yr argraff rydych yn ei chreu, hyd yn oed ar y pwynt hwn, wneud byd o wahaniaeth maes o law!
Os hoffech chi gyngor a chefnogaeth yrfa, gall ein Hyrwyddwr Gyrfa yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich helpu. Ffoniwch y tîm heddiw ar 01792 284450 neu anfonwch neges i ni.