Beth Fisher

“Ni waeth sawl gwaith y cewch eich llorio, yr hyn sy’n bwysig yw codi i’ch traed a chario ymlaen bob tro.”

 

A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?

Doeddwn i ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol ac roedd llawer gwell gen i ddysgu trwy ddulliau cinesthetig i ennill profiadau ymarferol a datblygu fy sgiliau trosglwyddadwy. Gadewais yr ysgol gyda bach iawn o gymwysterau. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wedi gobeithio sicrhau cyflogaeth ym maes arlwyo fel Cogydd, ond yn 16 oed bu’n rhaid i mi ddechrau cynnal fy hun oherwydd rhesymau personol y tu hwnt i’m rheolaeth, felly fe ddechreuais weithio yn y diwydiant manwerthu, gan mai hwn oedd cyfle cyntaf i mi ddod o hyd iddo! Fe es i o un swydd i’r llall o fewn y diwydiannau lletygarwch ac arlwyo am flynyddoedd, yn aml yn gweithio mewn dwy rôl ar y tro i gynnal fy hun. Yn y rolau hyn, roeddwn i wastad yn gwneud yn wych yn gwerthu nwyddau’r busnesau, a fi oedd perfformiwr gorau’r siopiau yn aml iawn, ond ar y pryd doeddwn i ddim yn meddwl llawer o hyn. Wrth edrych yn ôl, sylweddolaf fod meithrin sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol fel unigolyn ifanc wedi helpu siapio fy llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Pa lwybr wnes di ddilyn ar ôl cwblhau dy addysg?

Yn 22 oed symudais yn ôl i Abertawe, fy nhref enedigol. Roeddwn i’n ddi-waith am gyfnod byr. Roeddwn i’n gwybod fy mod am symud i ffwrdd o’r diwydiant manwerthu a lletygarwch, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y tymor hir. Gan wneud y mwyaf o fy sgiliau gwerthu, fe weithiais mewn nifer o rolau gwerthu uniongyrchol, a phan oeddwn yn 25 oed fe welais hysbyseb am swydd yn y papur gan yr Evening Post. Roedden nhw’n chwilio am Gynrychiolydd Gwerthu. Dyma’r swydd gyntaf a wnaeth i mi deimlo fy mod yn gweithio mewn swydd ‘go iawn’, roeddwn i’n byw ar fy mhen fy hun, yn cynnal fy hun ac roedd hyd yn oed gen i fynediad at gar cwmni! Yn y rôl hon fe ddes i o hyd fy angerdd am wasanaeth cwsmeriaid a datblygiad proffesiynol parhaus. Fe weithiais yn y rôl hon am ddwy flynedd, cyn gadael i eni fy merch hyfryd.

Ar ôl 18 mis o gyfnod mamolaeth, dychwelais i fyd gwaith a sicrhau rôl weinyddu rhan-amser. Roeddwn i’n gwybod nad oedd y rôl hon yn gweddu i’m sgiliau, ond, mi roedd yn gweddu i’m amgylchiadau. Ar ôl ychydig o amser roeddwn i wedi diflasu’n llwyr ac yn rhwystredig, roeddwn i’n gweld eisiau natur fywiog a chyffrous y diwydiant gwerthu. Penderfynais wneud rhywbeth am y peth ac fe wnes i sicrhau swydd werthu rhan-amser yn y diwydiant trwyddedu, yn gweithio ledled De a Gorllewin Cymru. Yn anffodus, ni pharhaodd y rôl yn hir a chefais fy niswyddo; dyma gyfnod anodd iawn o’m taith gyrfa ac fe dreuliais y blynyddoedd nesaf yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau gwerthu llafurus i sefydliadau ‘blue-chip’. Yn y rolau hyn roedd gofyn i mi deithio llawer, aros dros nos mewn gwestai a threulio cyfnodau hir o amser oddi cartref, ac fe ddechreuodd fy mywyd personol ddioddef. Doeddwn i ddim yn gallu treulio llawer o amser gyda fy nheulu ac roeddwn i’n gwybod bod angen i rywbeth newid.

Ym mha ffordd mae dy lwybr gyrfa wedi datblygu?

Mae fy llwybr gyrfa wedi bod yn un troellog a garw! Ces i gyfle i weithio â rhai o aelodau fy nheulu i redeg busnes becws a brechdanau, ac fe dreuliais rai blynnyddoedd yn rhedeg y busnes, gan wneud y mwyaf o’r sgiliau a ddysgais yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch. Roeddwn i’n caru’r rôl hon, yn enwedig y dyletswyddau recriwtio, ac roeddwn i’n cynnig cyfle i unigolion nad oeddent wedi gweithio ers cryn dipyn i ddychwelyd i’r gweithle. Ond oherwydd rhesymau personol fe adawais y busnes, ac unwaith eto doeddwn i ddim yn siŵr pa gam i’w gymryd nesaf.

I ennill mwy o brofiad, fe benderfynais archwilio’r posibilrwydd o sicrhau gyrfa ym maes recriwtio. Fe ddes i o hyd i rôl gyda Working Links, yn darparu cymorth i gyn-droseddwyr ac unigolion sydd mewn perygl o droseddu, ac fe wnes fwyhau cefnogi’r unigolion hyn i oresgyn eu rhwystrau a sicrhau cyflogaeth ystyrlon. Gweithiais hefyd gyda busnesau lleol i ymgysylltu ag unigolion, gan gynnig gweithwyr iddynt i helpu i ddiwallu eu hanghenion busnes. Ar ôl 9 mis, ces fy nyrchafu i reoli tîm a chynorthwyo i gydlynu cymorth cyflogaeth mewn carchardai ledled De Cymru. Yn anffodus, ces fy niswyddo unwaith eto, ac fe gollais fy mrwdfrydedd yn llwyr, gan fy mod wedi dod o hyd i’m swydd ddelfrydol, ac roeddwn i wedi cyrraedd lle’r oeddwn i am ei gyrraedd yn yrfaol ac yn fy mywyd. Doeddwn i ddim am fod yn ddi-waith eto, felly derbyniais ddau gontract tymor byr yn y sector cyflogadwyedd i gadw fy hun yn brysur a brwdfrydig ac fe weithiais mewn rolau gwerthu cynt dod o hyd i hysbyseb swydd Coleg Gŵyr Abertawe am Gynghorydd Gweithlu.

Roedd y rôl hon yn cyfuno’n berffaith fy sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf, fy niddordeb mewn cyflogadwyedd, fy angerdd am gefnogi pobl, gyda fy mhrofiad o weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a sefydliadau. Roeddwn i’n hapus iawn pan gynigiwyd y rôl i mi, dw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny! Rwy’n falch iawn o’r hyn rydw wedi ei gyflawni ac yn ddiolchgar dros ben am y cyfleoedd rydw i wedi eu profi trwy weithio ag amrywiaeth eang o bobl yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ar hyd y ffordd rydw i wedi ennill cymhwyster Lefel 4 mewn Cyngor ac Arwain, sydd wedi fy helpu i fagu hyder a datblygu ymhellach yn broffesiynol.

A oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rwyt ti’n difaru?

Wrth edrych yn ôl, roedd gen i’r meddylfryd anghywir o ran dod o hyd i’r rolau cywir ar fy nghyfer i; roeddwn i’n aml yn meddwl nad oedd y sefydliadau roeddwn i’n gweithio iddynt yn cyd-fynd â’m gwerthoedd. Ond nawr rwy’n gwybod mai diwylliannau’r sectorau hynny oedd yn gyfrifol am fy anhapusrwydd. Mae gweithio mewn ystod eang o sectorau wedi rhoi persbectif newydd i fi ar yr hyn rydw i eisiau ei gyflawni yn yrfaol, ac rwy’n siŵr bod darparu cymorth i unigolion, fel y gallant wella eu hamgylchiadau, yn llawer pwysicach na theitlau swyddi, cynnydd a statws. Dw i ddim yn difaru fy mhenderfyniadau gyrfa; maen nhw wedi dysgu llawer i mi, ac wedi fy siapio fel person.

A wnaeth dy yrfa newid cyfeiriad ar ôl i ti gael plant?

Fe wnaeth dychwelyd i’r gwaith yn weddol gyflym ar ôl geni fy merch i fi sylweddoli bod treulio cyfnodau hir oddi cartref, oherwydd y rolau gwerthu, yn cael effaith negyddol iawn arnaf i ac ar fy nheulu. Newidiodd fy mlaenoriaethau, ac roeddwn i’n gwybod bod treulio amser adref yn bwysicach nag unrhyw swydd.

Oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?

Byddai’n well gennyf pe bawn wedi gwybod ble i fynd i gael gafael ar gymorth pan oeddwn yn gadael yr ysgol ac yn teimlo’n ansicr ynghylch fy nyfodol. Pe bawn i wedi gwybod am yr ystod eang o gymorth oedd ar gael ar y pryd, byddwn i wedi dewis llwybr gwahanol iawn, llwybr a oedd yn gweddu i’m nodau hirdymor. Dw i’n hapus iawn o’r hyn dw i wedi ei gyflawni, ond byddai cael ychydig o gymorth ychwanegol ar hyd o ffordd wedi lleddfu rhywfaint o bwysau ac wedi hwyluso’r broses o symud i fyd cyflogaeth o’r ysgol.

Cyngor gorau?

Dim ond chi all newid eich stori. Mae meddu ar yr agwedd gywir a’r awydd i lwyddo yn hollbwysig; ni allwch reoli 10% o’r hyn a ddigwyddir i chi mewn bywyd, ond mae’r 90% arall i fyny i chi!