Hufen Iâ Joe’s – Stori Busnes Llwyddiannus
Cafodd Hufen Iâ Joe’s ei gyfeirio’n wreiddiol i raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gan Chwarae Teg, sef elusen sy’n gweithio i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru. Cysylltodd yr Ymgynghorydd Gweithlu, Zoe Williams, â Rheolwr Joe’s, Lucy Hughes a chynhaliwyd trafodaethau ar sut y gallai Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gefnogi’r busnes yn unol â gweledigaeth a gwerthoedd unigryw’r cwmni.
Gofyniad cyntaf Lucy oedd cymorth ar sut i lenwi rôl rhan amser yr oeddent wedi bod yn cael trafferth gydag ef am gyfnod hir. Er mwyn cael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o ofynion y busnes, aeth Zoe a’i chydweithiwr, Dan Parvin, lawr i gwrdd â Lucy ar safle Joe’s. Yn dilyn sgwrs fanwl, roedd Zoe a Dan yn gallu deall pa strategaethau recriwtio oedd gan Joe’s ar waith, a’r dulliau a ddefnyddir i ddenu unigolion i’r swyddi gwag a hysbysebwyd ganddynt.
“Ar ôl cyfarfod â Lucy am y tro cynaf, roedd hi’n amlwg ble roedd y bylchau yn y busnes. Roedd hi hefyd yn amlwg sut y gallem gyflwyno strategaethau recriwtio newydd ac effeithiol. Roeddwn i a Dan yn edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas fusnes hon ac i helpu’r busnes i wireddu ei photensial.” – Zoe Williams, YGL.
Cwblhaodd Zoe a Dan ddadansoddiad manwl o anghenion y busnes gyda Lucy a darganfuwyd bod angen i’r busnes recriwtio ceidwad llyfrau, er mwyn ôl-lenwi cyfnod mamolaeth Lucy. Gyda hyn o fewn meddwl, canolbwyntiodd tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar lenwi’r rôl â’r ymgeisydd mwyaf gweddus. Gorffennodd Lucy yr hysbyseb a chymerodd Zoe a Dan yr awenau gan ddechrau’r broses o ridyllu. Lleihawyd nifer yr ymgeiswyr yn unol â’r meini prawf allweddol.
Ar ôl y rhidyllu cychwynnol, fe wnaeth dan a Zoe gysylltu â phob unigolyn er mwyn mesur eu diddordeb ac egluro disgwyliadau’r rôl yn llawn iddynt. Yna, ar ôl cadarnhau diddordeb, cynhaliwyd asesiad pellach er mwyn darparu Lucy â rhestr fer gychwynnol. Byddai Lucy wedyn yn gwneud penderfyniad ar bwy y byddai’n cael cyfweliad. Yn ogystal, cwblhaodd Zoe archwiliad cydraddoldeb ac amrywioldeb dienw, er mwyn sicrhau bod Joe’s yn cydsynio â’i rwymedigaethau cyflogaeth deg.
Cytunwyd ar ddyddiadau i’r cyfweliadau, dosbarthwyd gwahoddiadau ffurfiol a phenderfynwyd ar gwestiynau i’r cyfweliad gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ar gais Lucy. Rheolodd Dan a Zoe y logisteg, gan gynnwys y gweinyddu, gan sicrhau bod y broses yn un llyfn a chadarn. Nhw hefyd fu’n ymddwyn fel pwynt cyswllt cyntaf i’r ymgeiswyr, gan ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.
Yn dilyn cyfweliadau â thri ymgeisydd o’r radd flaenaf, penderfynwyd ar benodiad llwyddiannus. Dilynwyd gweithred recriwtio debyg i benodi’r gwagle ar gyfer y Ceidwad Llyfrau, ac ar gyfer rolau cynorthwyo yn y parlyrau a’r storfa. Gyda chymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, a chyda chanolbwyntiaeth glir ar benodi pobl sydd â’r sgiliau cywir i’r swyddi priodol, mae Joe’s wedi penodi aelod o staff newydd ar gyfer pob swydd wag.
“Mae’r profiad o weithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn anhygoel. Yn wir, maent wedi arbed amser i ni fel busnes, a gyda‘u cymorth nhw, rydym wedi llwyddo i benodi dwy rôl swyddfa ac un rôl gynhyrchu. Mae’r penodiadau wedi profi i fod yn rhai o ansawdd uchel a byddwn yn sicr yn defnyddio gwasanaethau Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eto” – Lucy Hughes, Y Rheolwr
Mae’r berthynas gweithio rhwng Hufen Iâ Joe’s a Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi parhau i fod yn un positif a chynhyrchiol ac mae cynlluniau wedi cael eu gwneud eisoes yn y Flwyddyn Newydd ar gyfer thrafodaethau a chynllunio manwl. Mae Lucy wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl cwblhau cyfnod mamolaeth ac mae’n awyddus i weithio â’r tîm ar amryw o faterion sy’n ymwneud â chynllunio yn y gweithle, gan ganolbwyntio ar ehangu a chael y mwyaf allan o’r busnes eiconig hwn.
“Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu dod o hyd i ymgeiswyr o ansawdd uchel mewn amryw o rolau a brofodd i fod yn dalcen caled i Lucy a’i thîm yn y gorffennol. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Joe’s i’w cefnogi yn natblygiad parhaus eu gweithlu” – Dan Parvin, Ymgynghorydd Gweithlu Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Os hoffech chi wybodaeth bellach ar sut y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu eich busnes chi, galwch: 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales.