Gwobrau Womenspire! Dathliad bywiog o fenywod Cymru!

Roedd yn bleser i ni fod yn noddwr gwobrau Womenspire Chwarae Teg a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru’r mis diwethaf. Bellach yn eu trydedd flwyddyn, nod Gwobrau Womenspire yw cydnabod a dathlu llwyddiannau personol a chyfraniad rhagorol menywod ledled Cymru a fydd yn ysbrydoliaeth i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r gwaith y mae Chwarae Teg yn ei wneud i amlygu cydraddoldeb rhyw ac arferion gweithio modern yn hanfodol wrth hyrwyddo Cymru lle gall menywod wireddu a chyflawni eu potensial. Fel prif gyflogwr a sefydliad addysgol yn Abertawe, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a Choleg Gŵyr Abertawe yn ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac maent yn ymdrechu i sicrhau bod gan yr holl fyfyrwyr a chleientiaid gyfleoedd teg a chyfartal i ffynnu a llwyddo. Mae menywod yn parhau i wneud swyddi is eu tâl, is eu sgiliau ac, yn aml, rhan-amser yn bennaf, sy’n cyfyngu ar eu cyfraniad at y farchnad lafur ac economi Cymru, ac mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cefnogi gwaith Chwarae Teg i rannu arfer gorau, yn y gobaith o gydweithio i helpu menywod i lwyddo a llewyrchu yn y gweithle ac mewn bywyd.

Mae cefnogi menywod i symud ymlaen mewn cyflogaeth yn nod allweddol i raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae cefnogi llwyddiannau menywod o bob cefndir ac ym mhob cyfnod o’u bywydau neu eu gyrfa wrth wraidd ethos Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a bu’n fraint i ni gymryd rhan wrth arddangos cyflawniadau syfrdanol menywod o bob cwr o Gymru. Fel rhan o’r dathliadau parhaus, hoffwn amlygu un o sawl menyw lwyddiannus sydd wedi derbyn cefnogaeth gan dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

Roedd Tracey Campbell wedi bod yn ddi-waith am chwe mis pan ddaeth i gael y gefnogaeth sydd ar gael yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn dioddef o ddiffyg hyder ac yn ei chael hi’n anodd dychmygu ei hun yn dychwelyd i yrfa yn y sector gofal. Fodd bynnag, gyda chymorth a mentora unigol gan ei Hyfforddwr Gyrfa Bev, bu’n bosib iddi oresgyn y rhwystrau hyn a dod o hyd i lwybr yn ôl i’r gwaith fel cynorthwy-ydd gofal amser llawn.

Meddai Tracey, “Dw i wedi mwynhau dod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ac maent wedi bod yn gymorth mawr i mi ym mhob ffordd bosib. Bellach, mae gen i swydd wych ac galla i ddim â diolch i bawb ddigon!”

Wrth siarad am sut y gweithiodd gyda Tracey, meddai Bev: “Dw i’n gwybod o brofiad personol pa mor anodd gall fod i ddod o hyd i waith newydd ar ôl colli swydd rydych chi wedi ei gwneud am gryn dipyn o amser. Gall wynebu’r posibilrwydd o swydd hollol wahanol mewn maes hollol anghyfarwydd fod yn beth brawychus, yn enwedig ar adeg pan all eich hyder fod yn isel. Petai Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yno pan gollais i fy swydd i, dw i’n gwybod y byddwn i wedi ailadeiladu fy hyder llawer yn gyflymach, felly mae bod yn rhan o’r prosiect yn werthfawr iawn i mi. Pan fydd rhywun yn dod o hyd i’r swydd berffaith iddo, rydych chi’n gweld y disgleirdeb yn dychwelyd i’w lygaid, ac mae’n bleser mawr i fod yn rhan o hynny .”

Hoffai tîm cyfan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol longyfarch yr holl enwebedigion, enillwyr, cyfranogwyr a threfnwyr am noswaith drawiadol o werthfawr. Bu’n bleser i ddathlu rhai o’r menywod mwyaf cyffrous, arloesol a mentrus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw, ac rydym yn ysu am wybod yr hyn a fydd gan ddigwyddiad y flwyddyn nesaf i’w gynnig!