Diwrnod Cyflogadwyedd 2018!

Ddydd Gwener 29 Mehefin, cynhalion ni ddigwyddiad agored yn ein Canolfan ar Ffordd y Brenin fel rhan o Ddiwrnod Cyflogadwyedd y DU 2018!

Bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr, gyda mwy na 50 o gleientiaid yn bresennol. Roedd cyflogwyr lleol gwych a oedd yn cynnig cyfleoedd go iawn i bawb, gan gynnwys HSBC a gynhaliodd dosbarth meistr ardderchog, Virgin Atlantic a gyflwynodd sesiwn sgiliau bywyd hynod ddiddorol ac ysbrydoledig a James Foley o Right at Home a gyflwynodd sgwrs ysbrydoledig ar sut i wneud newidiadau cadarnhaol i’ch gyrfa. Roedd yn wych i weld cynifer o’n cleientiaid presennol a newydd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r diwrnod ac rydym wedi derbyn adborth syfrdanol.

“Mae wedi bod yn ddiwrnod dysgu llawn ysbrydoliaeth a diolch i’r holl gyflogwyr am drosglwyddo eu gwybodaeth. Mae wedi bod yn ddigwyddiad anhygoel a gobeithio galla i ddod at un arall eto cyn hir!” – Lycian

“Mwyheais i’r holl egni cadarnhaol a’r hwb i’r hyder!” – Rachel

“Mwyheais i’r digwyddiad heddiw, yn enwedig y cyngor a roddwyd i mi gan yr hyfforddwyr ar sut i roi hwb i’m gyrfa yn ogystal â newid o un alwedigaeth i un arall. Yn bennaf oll, yr esboniad o sut i ysgrifennu CV oedd mwyaf defnyddiol i mi oherwydd roedd yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol iawn, diolch” – Cyrille

Roedd ein Hyfforddwyr Gyrfa a’n Hymgynghorwyr Recriwtio wrth law drwy gydol y diwrnod i gynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol i bobl â’r nod o gynyddu eu siawns o gael cyflogaeth, ei chadw neu symud ymlaen ynddi. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i ddathlu ein cleientiaid llwyddiannus niferus sydd eisoes wedi cael cyflogaeth ystyrlon neu sydd wedi gwneud cynnydd nodedig ar eu llwybrau at gyflogaeth. Mae holl dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddarparu pa gefnogaeth barhaus bynnag ar gyfer cyflogaeth y mae ei hangen ar y rheiny a ddaeth, ac os hoffwch chi wybod rhagor am y gefnogaeth rydym ni’n ei chynnig, ffoniwch y tîm heddiw: 01792 284450. Mae bob dydd yn ddiwrnod cyflogadwyedd yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, felly dewch i gael gwybod yr hyn gallwn ni ei wneud i chi!