Digwyddiad Cyflogadwyedd Ymylol Penwythnos Mwyaf y BBC

Mae Penwythnos Mwyaf y BBC yn dod i Abertawe ym mis Mai, a bydd y rhai hynny sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael tocynnau’n cael y cyfle i weld sêr megis Taylor Swift ac Ed Sheeran yn perfformio. Wrth i’r digwyddiad nesáu, mae’r BBC wedi bod yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ymylol ar draws y wlad fel rhan o raglen allgymorth gynhwysfawr a chreadigol sydd wedi cynnwys perfformiadau cerddorol byw, mewnwelediadau i ddiwydiant, sesiynau holi ac ateb gyda phobl ddylanwadol, digwyddiadau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith.

Ddydd Gwener 27 Ebrill, aeth y tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i Ddigwyddiad Cyflogadwyedd Ymylol Penwythnos  Mwyaf y BBC yn Theatr y Grand Abertawe. Wedi’i deilwra i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol a holi ac ateb, yn ogystal ag ardal farchnad gydag amrywiaeth o sefydliadau wrth law i gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gyflogadwyedd.

Roedd cyfranogwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o weithdai a oedd yn cynnwys:

  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol er eich budd chi a gynhaliwyd gan Freeformers
  • Ymgeisio am swyddi: adnabod eich cryfderau a gynhaliwyd gan Adnoddau a Dawn y BBC
  • Magu hyder a gynhaliwyd gan LearnThruWork

Cafwyd hefyd sesiynau holi ac ateb am yrfaoedd gyda phobl ddylanwadol, gan gynnwys Nathan John o Rewise Learning, Liam Burgess o  Nom Nom chocolate (samplau blasus iawn, diolch yn fawr!), Caroline Thomas – Prif Swyddog Gweithredol Be the Spark, Dom Wallace o Deezer, Paul Harwood o’r Tech Hub ac arwr Dinas Abertawe, Lee Trundle. Cafodd y cyfranogwyr a ddaeth hefyd y cyfle i ymgeisio am gyfleoedd gwaith unigryw a gwych yn y Penwythnos Mwyaf, gan gynnwys gweithio fel rhan o Dîm Cyswllt Artistiaid, y Tîm Cerddoriaeth Fyw a’r Tîm Cynhyrchu, yn ogystal â chyfleoedd i weithio fel Cynorthwywyr Llwyfan a Chynorthwywyr Darlledu.

Bu un o’n myfyrwyr o Academi’r Dyfodol, Gus, yn bresennol yn y digwyddiad ac meddai,

“Roedd digwyddiad y BBC yn wych! Dysgais lawer amdanaf fi fy hun a nawr, dw i’n gwybod yn union pa sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Roedd y sesiwn holi ac ateb yn hynod ddefnyddiol a roedd clywed am deithiau personol y siaradwyr, eu diddordebau a sut cyrhaeddon nhw lle maen nhw heddiw yn ysbrydoliaeth fawr. Byddaf bendant yn ymgeisio am un o’r cyfleoedd profiad gwaith gyda chefnogaeth fy Hyfforddwr Hwb y Dyfodol ac mae’r digwyddiad hwn wedi fy ngwneud yn gyffrous iawn am fy nyfodol.”

Bu’r diwrnod yn llwyddiant ysgubol a chafodd y tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol y cyfle i ymgysylltu â llawer o bobl ifanc disglair, o fyfyrwyr TGAU sy’n dechrau ar eu taith yrfa, myfyrwyr sy’n gadael y coleg heb wybod beth i’w wneud nesaf, myfyrwyr prifysgol sy’n chwilio am gyngor gyrfa a phobl ifanc sy’n chwilio am waith dros yr haf. Mae’r tîm yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gefnogi’r holl bobl ifanc hyn (a mwy!) gyda’u hanghenion cyflogadwyedd. Felly, os ydych chi’n chwilio am gefnogaeth gyda’ch gyrfa, ffoniwch y tîm heddiw ar 01792 284450 neu anfonwch neges i ni yma.