Dyn ifanc ysbrydoledig yn goresgyn rhwystrau arwyddocaol ac yn sicrhau gwobr High 5 glodfawr.
Dyn ifanc ysbrydoledig yn goresgyn rhwystrau arwyddocaol ac yn sicrhau gwobr High 5 glodfawr.
Roedd Aaron Cope yn wynebu bywyd o ansicrwydd cyn derbyn cefnogaeth rhaglen gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe.
Wedi profi nifer o heriau yn ei fywyd fel oedolyn ifanc, gan gynnwys digartrefedd a cholli swydd ei freuddwydion yn y fyddin oherwydd rhesymau meddygol, mae Aaron wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad eithriadol i drawsnewid ei fywyd er gwell.
Dechreuodd Aaron weithio gyda’r Hyfforddwyr Gyrfa Emma a Lisa ac mae e wedi tyfu mewn hyder, gwneud dewisiadau bywyd cadarnhaol a dechrau ar lwybr gyrfa newydd llawn posibiliadau. Gan ddangos ymrwymiad llwyr i’w ddatblygiad bob amser, mynychodd Aaron apwyntiadau dyddiol gyda Lisa, a gyda’i gilydd gweithion nhw ar wella ei sgiliau cyflogadwyedd; gan ddatblygu ei CV i bwysleisio ei sgiliau a phrofiad gwerthfawr, gwella ei allu i ysgrifennu ceisiadau ac ymgymryd â ffug arholiadau i ymarfer ymdopi â senarios cyfweliad pwysau uchel. Gweithiodd Aaron yn eithriadol o galed i wella ei sgiliau rhyngbersonol a phroffesiynoldeb ac ymgysylltodd i’r eithaf â’r rhaglen.
“Mae Aaron yn fodel rôl gwych ac nid oes unrhyw derfynau mewn gwirionedd i botensial y dyn ifanc disglair hwn. Mae hi wedi bod yn bleser i weithio gydag Aaron a theimlaf yn freintiedig i allu ei gefnogi ar daith barhaol ei yrfa” – Lisa, Hyfforddwraig Gyrfa
Mae Aaron wastad wedi dangos awydd am wella ei hun ac mae e wedi bod yn barod i dderbyn y cyngor a’r cyfarwyddydd a gafodd. Mae Aaron wedi gwneud cynnydd trawiadol ac o ganlyniad mae e wedi ennil cyflogaeth barhaol mewn cadwyn archfarhnad fawr. Mae ethig gwaith rhyfeddol Aaron wedi talu yn barod gyda’i gydnabod a dyfarnu ‘Medal Aur’ iddo am ei wasanaeth eithriadol i gwsmeriaid. Uchelgais Aaron yn y dyfodol yw dod yn rheolwr siop, bod yn berchen ar ei gartref ei hun a chael diogel sicr a hapus, ac mae ei ymrwymiad at gyflawni’r nodau bywyd hyn yn rhagorol. Mae llwyddiant Aaron yn dystiolaeth o’i wytnwch, dewrder a phenderfyniad diwyro, ac mae’n dal i herio ei hun er mwyn sicrhau dyfodol gwell yn llawn o obaith a phosibiliadau.
“Heb gefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Mae’r holl staff wdi dymuno cael y gorau i mi bod amser. Am y tro cyntaf erioed dw i’n llawn cyffro am y dyfodol ac alla i ddim aros i weld beth alla i gyflawni gyda’u cefnogaeth barhaol” – Aaron
Mae Aaron wedi dangos er gwaethaf rhai amgylchiadau anhygoel o anodd, gyda’r agwedd gywir a chefnogaeth effeithiol gallwch oresgyn y rhwystrau mwyaf. Mae Aaron heb os yn fodel rôl i bobl ifanc eraill a allai gael eu hunain mewn sefyllfa debyg ac mae e’n enillydd anhygoel o deilwng o’r Wobr Ysbrydoledig High 5.
“Mae pawb yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn falch eithriadol o Aaron a beth mae e wedi goresgyn a chyflawni mewn cyfnod mor fyr. Yn ostyngedig a diymhongar bob amser, mae Aaron yn haeddu ei Wobr High 5 yn llwyr, a dymunwn bob lwc iddo i’r dyfodol” – Mark James, Rheolwr Rhaglen
Os hoffech chi wybod mwy am gefnogaeth a gynigir gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, cysylltwch â 01792 284450 neu galwch yng Nghanolfan Kingsway (Llawr cyntaf, 37-38 The Kingsway).