Blog Academi’r Dyfodol – Fy Mhotensial, Fy Nyfodol
Sefydlwyd Academi’r Dyfodol yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror ac mae wedi bod yn ddechrau gwych!
Yn ôl ym mis Ionawr, roedd y tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi gwahodd myfyrwyr Safon Uwch i wneud cais i ymuno ag Academi’r Dyfodol. Roeddem wedi rhoi trosolwg o raglen yr Academi i’r myfyrwyr; amserlen 8 wythnos o weithgareddau sy’n datblygu llwybr cyflogaeth unigol ar gyfer pob myfyriwr, gyda’r nod o gael gwaith neu brentisiaeth yn syth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Safon Uwch. Rhoddwyd gwybodaeth i’r myfyrwyr ynghylch sut bydd y farchnad lafur yn edrych yn y dyfodol, pa sgiliau y bydd galw amdanynt a sut y gallan nhw siapio’r llwybrau i’r yrfa o’u dewis. Roedd 24 o fyfyrwyr wedi ymgeisio’n llwyddiannus ac maen nhw eisoes wedi dechrau ymchwilio i ddewisiadau ardderchog yn ymwneud â chyflogaeth.
Wrth i ni gyrraedd y bedwaredd wythnos, mae hwn yn amser gwych i edrych yn ôl ar yr hyn rydym wedi’i gwmpasu hyd yn hyn a’r hyd sydd gennym i edrych ymlaen ato yn ystod yr wythnosau nesaf.
Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn
Yn ystod Wythnos 2, roedd Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Rob Stewart, wedi rhoi cyflwyniad craff ac ysbrydol i’n myfyrwyr, gan drafod cynlluniau’r dyfodol ar gyfer Abertawe, o’r weiren wib gyffrous newydd i’r Wi-Fi cyflym yng nghanol y ddinas. Roedd Rob wedi siarad yn frwd am y twf a’r datblygiad mawr posibl yn Abertawe a sut byddai’r buddsoddiad mawr hwn yn cael effaith gadarnhaol a thrawsffurfiol ar waith ailddatblygu, technoleg a thwristiaeth yn ein Dinas. Un o’r negeseuon allweddol i’r myfyrwyr oedd cydnabod y cyfleoedd sy’n dod i’r ardal a’r manteision sylweddol o aros yn Abertawe yn hytrach na chwilio am gyfleoedd eraill mewn dinasoedd mwy o faint sydd, i bob golwg, yn ddinasoedd gwell.
Roedd Wythnos 3 yr Academi wedi rhoi sylw i brentisiaethau. Roedd cynrychiolwyr o Hyfforddiant GCS wedi galw heibio i roi gwybodaeth allweddol i’r myfyrwyr. Roedd dau brentis wedi dod hefyd i rannu eu storïau hwythau: Ellie sydd wedi cwblhau prentisiaeth mewn gosodiadau trydanol ac sydd bellach yn gweithio fel aseswr trydanol i Goleg Gŵyr Abertawe, a Georgia a gafodd hyd i gyfle prentisiaeth gydag Abertawe Bro Morgannwg. Roedd y ddwy wedi siarad yn frwd am yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau wedi ei chael ar eu bywydau a’u gyrfaoedd, ac roedd y myfyrwyr yn hynod ffodus i gael y fath bersbectif unigryw, gonest a phersonol. Yn ystod Wythnos 3 roedd Ruth Gates, Rheolwr Prosiectau Dysgu a Datblygu ac Arweinydd Prentisiaid PABM, wedi rhoi cyflwyniad penigamp i’r myfyrwyr, gan roi trosolwg o’r gwahanol gyfleoedd gyrfa (gan gynnwys llwybrau prentisiaeth) yn y bwrdd iechyd a sut gall myfyrwyr gael mynediad iddynt neu ddysgu rhagor amdanynt. Roedd y myfyrwyr wedi cael gwybodaeth werthfawr am y sgiliau a’r rhinweddau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt mewn ceisiadau a’r math o ymatebion a ddisgwylir mewn cyfweliadau. Roedd Ruth hefyd wedi ateb rhai cwestiynau ardderchog gan fyfyrwyr yn ystod y sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.
Rhagor i edrych ymlaen ato
Bydd cyfleoedd rhagorol dros yr ychydig wythnosau nesaf, gan gynnwys sesiwn sy’n canolbwyntio ar Entrepreneuriaeth, fydd yn archwilio a allai hunangyflogaeth fod yn ddewis dichonadwy i rai o’n myfyrwyr. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu rhagor o siaradwyr gwadd ysbrydol gan gynnwys cynrychiolwyr o Tata Steel, Mitie Facilities, HSBC, yn ogystal ag entrepreneuriaid ifanc o CloudCo Creative ac Ozone Security Services.
Mae’r Academi wedi cael ymateb gwych gan ein myfyrwyr, ac yn fuan, byddwn ni’n cyflwyno ein ‘Hybiau’r Dyfodol’ newydd, sy’n cynnig cyngor ar gyflogaeth ar gampysau Gorseinon, Tycoch a Llwyn-y-Bryn. Bydd pob myfyriwr yn gallu galw heibio i fanteisio ar gymorth a hyfforddiant un i un, a chael mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith, trwy raglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ y Coleg.
I gael rhagor o wybodaeth am Academi’r Dyfodol neu Hybiau’r Dyfodol ffoniwch y tîm ar 01792 284450.