O gleient i Hyfforddwr Gyrfa, dyma stori Sarah!
Ar ôl bod yn athro Ysgol Uwchradd am dros 20 o flynyddoedd, roedd Sarah yn chwilio am newid gyrfa. Cyn dod ar draws Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roedd Sarah yn ansicr am ei dyfodol a doedd hi ddim gwybod beth i’w wneud na sut i fanteisio ar ei sgiliau er mwyn cymryd camau tuag at ei bywyd newydd.
Yn dilyn cyfnod sylweddol o amser mewn un rôl addysgu, roedd Sarah yn brin o hyder ac roedd hi’n pryderu rhywfaint am gymryd cam tu allan i’w cylch cysur.
Ym mis Ebrill aeth Sarah i Ŵyl Ddysgu Abertawe lle cafodd sgwrs â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am y rhaglen a’r gefnogaeth a gynigir.
Y diwrnod canlynol, yn nerfus, cymerodd Sarah gam anferth. Cododd y ffôn a bwciodd apwyntiad gyda Hyfforddwr gyrfa.
“Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar o’r cychwyn cyntaf. Cynigiwyd paned o de i mi a byddai pobl yn dod draw i eistedd wrth fy ymyl i gael sgwrs. Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol yn syth, ac er iddi fod yn brysur yno, roeddwn i’n teimlo’n bwysig.”
Er mwyn dod ar draws opsiynau gwahanol, gweithiodd Sarah gydag Elliot, un o’r hyfforddwyr gyrfa. Trafodwyd y ddau ohonynt natur drosglwyddadwy ei sgiliau a’i phrofiadau. Ar ôl ennill dealltwriaeth o sut y gallai ei gwerth a’i gwybodaeth fod o fudd iddi, tyfodd hyder Sarah yn gyflym.
Ni chymerodd hi’n hir i Elliot baru Sarah â chyfle Hyfforddwr Gyrfa yng Ngwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd hyn yn ddilyniant naturiol o’i rôl yn y sector addysg.
“Fe wnaeth Elliot fy nghefnogi trwy gydol y broses ymgeisio. Roedd ei hyfforddiant wedi fy ngalluogi i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflwyno’r cais gorau hyd eithaf fy ngallu ar gyfer y swydd.”
Y ogystal â mentora gan Elliot, cafodd Sarah ffug gyfweliad gan y tîm recriwtio er mwyn meithrin ei hyder a chynyddu ei chymhwysedd mewn senarios sydd yn gallu achosi straen. Roedd ganddi’r holl briodoleddau priodol ar gyfer llwyddo, felly roedd hi’n fater o’i chael hi i gredu ynddi hi ei hun ei bod hi’n ddigon da i gyflawni ei nod.
“Roeddwn i wrth fy modd pan gefais gyfweliad a phan gefais fy rhoi ar y rhestr fer. Dyma gyfle i mi gamu y tu hwn i fy nghylch cysur, meddyliais. Rydw i’n mynd i wneud rhywbeth hollol newydd ac yn gyffrous iawn i ddechrau’r cyfle newydd hwn mewn sefydliad gwych.”
Roedd gallu naturiol, positifrwydd a dawn Sarah i gefnogi eraill yn amlwg yn ei chyfweliad. Roedd ei chyfweliad yn wych ac fe gynigiwyd y swydd iddi yn gyflym.
“Roedd hi’n deimlad anhygoel pan gynigiwyd y rôl i mi. Gofalwyd amdanaf ac roeddwn i’n gyffrous i gael darparu’r un profiad i eraill.”
Mae Sarah wedi gwneud dechreuad rhagorol yn ei rôl newydd. Mae’n wen o glust i glust ar bob adeg a chyda’i hagwedd amyneddgar a charedig, mae Sarah yn gaffaeliad enfawr i’r tîm ac yn awyddus i gefnogi unrhyw un sy’n dymuno ceisio cyflogaeth well neu newydd.
“Mae ethos cryf iawn yma bod pawb yn cael eu trin fel unigolyn ac rydw i eisiau i fy nghleientiaid gael yr un profiad ag y gwnes i; dim pwysau na barnu, dim ond positifrwydd, gofal a buddsoddiad gwirioneddol. Dwi wir yn credu mai’r amgylchedd cefnogol hwn sy’n galluogi pobl i fanteisio i’r eithaf ar eu galluoedd. Dwi’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r siwrnai hon.”
Mae Sarah yn enghraifft berffaith o’r ffaith nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud newid a gosod uchelgeisiau newydd ar gyfer eich gyrfa a’ch bywyd. Mae hi wedi goresgyn ei rhwystrau ac wedi profi nad oes modd cyflawni newid heb dwf. Dyw hi byth yn rhyw hwyr i wneud yr hyn y gallech fod wedi ei wneud amser maith yn ôl.
“Byddaf yn argymell Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i unrhyw un sy’n dymuno newid gyrfa. Byddwch yn cael eich cyfarch â gwen a byddwch yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch. Maent yn mynd hyd eithaf eu gallu i’ch helpu.”