Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – blwyddyn yn ddiweddarach
Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – blwyddyn yn ddiweddarach
Mae rhaglen gyflogaeth sy’n cael ei rhedeg gan Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus.
Mewn dim ond 12 mis, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi helpu dros 740 o unigolion i chwilio am gyflogaeth newydd neu well – unigolion fel Sean, a ddaeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl bod yn ddi-waith am wyth mis.
Ar ôl i gytundeb blaenorol Sean – yn gweithio yn y sector adeiladu – ddod i ben, dechreuodd ddioddef o broblemau iechyd a oedd yn golygu nad oedd bellach yn gallu cyflawni’r gwaith llaw yr oedd bob amser wedi’i wneud ac wedi’i fwynhau’n fawr. Roedd yn adeg heriol iawn yn ei fywyd, ac yn ystod y cyfnod hwn, roedd Sean yn dioddef o hunan-barch gwael a phryderon go iawn am ddyfodol ei deulu.
Gyda chymorth ei Hyfforddwr Gyrfa Bev, roedd Sean wedi adennill ei hyder a, gyda rhywfaint o gymhelliant newydd, dechreuodd ddiweddaru ei CV a dysgu sut i ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus a oedd yn adlewyrchu ei gyfoeth o sgiliau a phrofiad. Yn dilyn awgrym gan Bev, llwyddodd hefyd i gwblhau cymhwyster NEBOSH.
O ganlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth hon a mynediad i hyfforddiant, datblygodd Sean y sgiliau cyflogadwyedd hanfodol yr oedd eu hangen arno i symud ymlaen ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau swydd rheoli amser llawn.
“Fyddwn i ddim yn y sefyllfa dwi ynddi nawr heb gymorth y tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol,” meddai. “Roedd Bev bob amser yn fy nghymell i ddal ati, hyd yn oed pan oeddwn i’n teimlo na alla i wynebu ffurflen gais arall! Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi fy helpu i i ennill y cymhwyster yr oedd mawr ei angen arna i ond maen nhw hefyd wedi fy helpu i adennill fy hyder. Bellach, dwi’n teimlo fy mod i’n gallu edrych ymlaen at y dyfodol ac, yn fwy na dim, darparu ar gyfer fy nheulu eto. Alla i ddim bod wedi gwneud hyn hebddyn nhw.”
Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd wedi helpu dros 150 o fusnesau i ehangu a datblygu eu gweithlu. Ymhlith y rhain mae un o frandiau mwyaf eiconig Abertawe, sef Joes Ice Cream.
“Mae ein profiad gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn wych,” meddai’r Cyfarwyddwr Lucy Hughes. “Gyda’u help nhw, rydyn ni wedi llwyddo i benodi i ddwy rôl swyddfa ac un rôl cynhyrchu – gan arbed llawer o amser ac adnoddau i ni drwy drefnu’r hysbysebion swyddi i ni, pori trwy’r ceisiadau a delio â’r ymgeiswyr trwy gydol y broses recriwtio. Mae’r ymgeiswyr a gynigiwyd i ni wedi bod o safon uchel iawn a byddwn ni’n defnyddio eu gwasanaethau eto yn sicr.”
“Mae wedi bod yn flwyddyn gyntaf anhygoel ar gyfer Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – mae helpu dros 740 o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith a thros 150 o fusnesau i ddatblygu eu gweithlu wedi rhagori ar ein disgwyliadau ni,” meddai’r Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Cath Jenkins. “Mae gyda ni dîm gwych yma sy’n wirioneddol ymroddedig i helpu pawb sy’n cerdded trwy ein drws ac sydd wedi gweld yn uniongyrchol beth gall cyflogaeth ystyrlon ei wneud i fywydau pobl.”
“Rydyn ni wedi cyflawni pethau gwych yn ein blwyddyn gyntaf a dwi’n hynod falch o’r hyn mae’r tîm wedi ei gyflawni mewn amser mor fyr, ond rydyn ni yr un mor gyffrous am yr hyn mae’r dyfodol yn ei ddal i lawer mwy o bobl a busnesau rydyn ni’n bwriadu eu helpu wrth i’r rhaglen dyfu” ychwanegodd Rheolwr y Rhaglen Mark James.
Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu cyflogaeth a chymorth gyrfaol wedi’u teilwra i unigolion di-waith sy’n chwilio am waith ac i bobl sydd eisoes mewn gwaith sy’n chwilio am well cyflogaeth. Gall y rhaglen hefyd gynorthwyo busnesau sy’n bwriadu ehangu eu gweithlu. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284450 n eu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.