Sylfeini cyfweliad
Rydych chi wedi’i wneud e; rydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad! Nawr mae’n amser gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gael y swydd.
Paratoi’n feddyliol
Darllenwch dros eich CV, eich cais a manylion y swydd am gwestiynau posib ac ymchwiliwch i’r cwmni i gael gwybodaeth ar gyfer sut i eirio eich atebion. Ar ôl i chi gwblhau’r ymchwil, rhaid ymarfer, ymarfer ac ymarfer nes eich bod yn teimlo’n hyderus.
Paratoi’n ymarferol
Rhaid paratoi popeth ymlaen llaw: paratowch eich dogfennau mewn portffolio, cwblhewch eich siwrnai i’r lleoliad cyn y diwrnod, i ymarfer, a gwnewch yn siŵr bod y wisg rydych chi wedi’i dewis yn ffitio’n gyfforddus ac yn lân ac wedi’i smwddio er mwyn edrych yn daclus a phroffesiynol.
Amser disgleirio
Yn ystod y cyfweliad, gwenwch, gwnewch gysylltiad llygad drwy’r amser a rhowch amser i feddwl am y cwestiynau cyn ateb – a chofiwch roi esiamplau!
Am fwy o gefnogaeth gyda pharatoi ar gyfer cyfweliad, ffoniwch ni ar 01792 284450.