Rhaglen gweithlu Abertawe yn parhau i dyfu
-Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn croesawu pedwar penodiad newydd-
Mae rhaglen newydd sy’n ceisio cryfhau gweithlu Abertawe wedi croesawu sawl penodiad newydd i’r tîm.
Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gŵyr Abertawe, wedi recriwtio nifer o aelodau staff newydd o fewn ei dimau Gweithlu a Recriwtio i ddatblygu ymhellach eu cymorth ar gyfer busnesau lleol.
Mae Louise Dempster, Beth Fisher, Zoe Williams, a Mark James yn ymuno â’r tîm fel Cynghorwyr Gweithlu, gan helpu cyflogwyr lleol i ehangu a chryfhau eu gweithlu, a rhoi cymorth a chyngor wedi’i deilwra iddynt. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn y maes cyflogadwyedd, mae gan Louise Dempster hanes cryf o weithio gyda chyflogwyr lleol a cheiswyr swyddi. Ar ôl gweithio cyn hynny yn yr hen Goleg Abertawe ar raglenni cyflogadwyedd cynharach, mae Louise yn dychwelyd i dir cyfarwydd ac yn dod â’r profiad ychwanegol y mae wedi’i gael o fewn y sector cymorth cyflogaeth ehangach.
Mae Beth Fisher yn dod â phrofiad eang mewn nifer o swyddi sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, yn amrywio o gwmnïau mawr o’r radd flaenaf i fusnesau annibynnol llai. Gallu manteisio i’r eithaf ar botensial unrhyw weithlu a datblygu perthnasoedd proffesiynol ystyrlon yw cryfder Beth, ac mae’n teimlo’n angerddol am gydweithio’n agos â busnesau i ddarparu gwasanaeth rhagorol.
Gweithiodd Zoe Williams yn y diwydiant recriwtio am dros 12 o flynyddoedd cyn symud i’r sector cyflogadwyedd. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn amrywiaeth a chydraddoldeb a bydd Zoe dod â chyfoeth o wybodaeth i’w rôl newydd gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, yn arbennig gweithio gyda chwmnïau ar ddefnyddio sgiliau ac arferion gwaith teg a hyblyg.
Mae Mark James yn ymuno â’r rhaglen ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio fel swyddog cyswllt cyflogaeth o fewn llywodraeth leol. Dywedodd: “Rwy’n awyddus i weithio gyda busnesau yn Abertawe a’u helpu nhw i gadw eu staff, cynllunio dilyniant a mapio llwybrau dilyniant datblygu staff, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid economaidd mawr yn yr ardal.”
Ochr yn ochr â’r rheiny a benodwyd i’r tîm Gweithlu, mae’r rhaglen hefyd yn croesawu tri aelod newydd o staff i’w dîm Recriwtio, gan helpu busnesau lleol sy’n ceisio recriwtio staff newydd trwy ddarparu gwasanaeth caffael talent llawn. Mae Mark Wilkes yn ymuno fel Uwch Gynghorydd Recriwtio, gyda Julie Bowen a Dan Parvin yn ymuno fel Ymgynghorwyr Recriwtio.
Bu Mark Wilkes yn darparu gwasanaeth ymgynghori recriwtio a hyfforddi o fewn cymuned fusnes De Cymru, yn ogystal â rheoli busnes bach a chanolig am 3 blynedd. Mae Mark yn awyddus i ddefnyddio ei holl brofiad i arwain tîm all ddarparu cynnig recriwtio a hyfforddi 360 gradd, cyfannol i fusnesau yn ardal Bae Abertawe.
Mae gan Julie Bowen dros 17 o flynyddoedd o brofiad yn y sector Cyngor ac Arweiniad. Gyda rhwydwaith sefydledig o bartneriaid a dealltwriaeth o’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, bydd Julie yn defnyddio ei phrofiad o arwain cleientiaid trwy bob agwedd ar reoli eu gyrfa i greu cysylltiadau, brocera perthnasoedd a pharu swyddi yn llwyddiannus.
Mae Dan Parvin yn ymuno â’r tîm o’i rôl flaenorol fel swyddog recriwtio yn y Sector Addysg. Mae Dan yn edrych ymlaen at ymuno â’r tîm a defnyddio ei brofiad yn y maes recriwtio i helpu ymgeiswyr i achub ar gyfleoedd mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau a sectorau yn ardal Abertawe.
Wrth groesawu’r penodiadau newydd, dywedodd y Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd, Cath Jenkins:“ Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn ymwneud â sicrhau y gall cyflogwyr recriwtio a chadw’r doniau gorau a gyda’r penodiadau hyn gallwn ddangos ein bod yn cofleidio’r athroniaeth hon ein hunain. Rydym yn ffodus iawn i gael tîm mor dalentog a phrofiadol a fydd yn gallu cynnig y cymorth gorau posibl i fusnesau yn Abertawe a’r cyffiniau.”
Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi’i leoli mewn swyddfeydd dros dro ar hyn o bryd yn Ffordd y Brenin, ond bydd y rhaglen yn symud i swyddfeydd pwrpasol – ar Ffordd y Brenin hefyd – yn 2018. Dylai busnesau a hoffai weithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i wella dulliau recriwtio, cadw a dilyniant staff gysylltu â’r tîm Gweithlu a Recriwtio ar 01792 284450. Mae gwybodaeth am y rhaglen ar gael hefyd ar trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar Facebook a LinkedIn, a @SwanseaBJBF ar Twitter ac Instagram.