Busnesau Bach a Chanolig: Mae gennych chi’r grym

“Mae cwmnïau bach yn anadl einioes economi Cymru, gan gynrychioli 99% o’r holl fusnesau cofrestredig.”

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd busnesau bach a chanolig i ddatblygiad economaidd a ffyniant Cymru. Mae llywodraethau yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cael sector preifat ffyniannus, ac mae Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru sydd newydd eu cyhoeddi yn rhoi pwyslais i’w groesawu ar fynd i’r afael â’r heriau economaidd hanfodol sy’n wynebu busnesau bach a mwy o faint.

Mae’n werth nodi bod busnesau bach a chanolig modern yn wahanol iawn i’r hyn a arferant fod yn y gorffennol.  Heddiw rydym yn gweld cyflymder twf busnesau bach a chanolig a sut y gallant, yn gyflym iawn, wneud cyfraniad go iawn at eu heconomïau lleol.

Wrth gwrs, mae twf busnesau yn dibynnu ar sawl ffactor, nid lleiaf eu gallu i oresgyn hinsoddau economaidd gwahanol.

“Mae’n drawiadol – ond nid yn syndod – i weld bod bron 70% o gwmnïau bach a chanolig yn parhau’n obeithiol ynghylch eu rhagolygon busnes dros y 12 mis nesaf, yng nghyd-destun ôl Brexit.  Mae bod yn obeithiol yn gyffredin ymysg cwmnïau llai.  Maen nhw’n tueddu i gael eu cysgodi gan y stormydd gwleidyddol ac economaidd oherwydd eu gallu i addasu i amgylchiadau heriol a throi unrhyw fygythiadau posibl yn gyfleoedd.”2

Fel y dengys y graff isod, dros y blynyddoedd diwethaf mae lefel benthyca corfforaethol wedi bod ar ei fyny yn raddol.  Fel mesur o iechyd yr economi, mae hyn yn awgrymu cynnydd yn nifer y busnesau newydd a thwf posibl ymysg mentrau sy’n bod.

(Woodford funds, 2017)

 

Y twf mewn hunangyflogaeth

Mae’n ymddangos nad yw’r DU yn brin o ddawn entrepreneuraidd, sydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi creu mwy o gwmnïau newydd a thwf mewn hunangyflogaeth.

“Mae’r cynnydd sylweddol oddi ar 2008 yn golygu bod hunangyflogaeth ar ei lefel uchaf ers 40 o flynyddoedd, ac erbyn hyn mae’n cyfrif am 15% o weithlu’r DU, i fyny o 12% yn 2000 ac 8% yn 1980.”4

Fodd bynnag, er gwaetha’r twf mewn niferoedd, ceir pryderon nad yw llawer o’r busnesau hyn efallai’n darparu cyfleoedd cyflogaeth cadarn yn eu cymunedau lleol.

“Mae cyfran y busnesau sy’n cyflogi pobl wedi disgyn ers 2000 o oddeutu un rhan o dair i oddeutu chwarter. Mae’r dirywid hwn yn nifer y cyflogwyr fel cyfran o’r holl fusnesau i’w briodoli i’r twf mewn hunangyflogaeth.”5

Fodd bynnag, mae’r cyfnod economaidd anodd yn golygu bod llywodraethau wedi bod o dan bwysau enfawr i sicrhau’r arbedion cost mwyaf posibl lle’n bosibl, arbedion sydd wrth gwrs wedi cael effaith ar draws rhannau mawr o’r gymuned busnesau bach a chanolig.

Yn ardaloedd gwledig Cymru, er enghraifft, “mae’r diffyg cymorth ar gyfer cwmnïau lleol…..wedi golygu bod myfyrwyr oedd wedi gadael i fynd i’r brifysgol yn ystyried cyfleoedd gwaith yn y dinasoedd yn hytrach na dychwelyd i’r ardaloedd gwledig, gan arwain at ddiboblogi pellach a cholli dawn.”6

Yn fwy cyffredinol, mae llawer o fusnesau wedi ei chael hi’n anodd i lywio trywydd trwy’r hinsoddau economaidd heriol, heb wybod am yr opsiynau sydd ganddynt i gynyddu nifer eu gweithwyr a thyfu eu busnesau.

 Cyfraddau goroesi busnesau

Gan fod busnesau bach a chanolig yn gyfrannwr mor allweddol i ffyniant economïau rhanbarthol, nid yw darllen y data diweddar ar gyfraddau goroesi yn galonogol iawn.

“Mae’r cyfraddau goroesi pum mlynedd yn Abertawe – h.y. ar gyfer mentrau a gychwynnodd yn 2010 ac sy’n dal i weithredu yn 2015 – ar 36.0%, yn is na’r cyfraddau cyfwerth ar gyfer Cymru (40.7%) a’r DU (41.4%).”7

Mae’n ymddangos bod llawer o resymau dros fethiant busnesau newydd ac, nid yn annisgwyl efallai, mae mynediad i gyllid priodol, yn ogystal â rheolaeth ddiwyd o gyllid o ddydd i ddydd, yn rhesymau cyffredin, a hefyd y gofyniad i gael cymorth parhaus gan Adnoddau Dynol.

Mae gwaith a waned gan Ffederasiwn Busnesau Bach (2017) wedi nodi “pa mor bwysig y mae cymorth allanol i gwmnïau bach”.  Yn ei astudiaeth, dywedodd 60% o fusnesau bach a chanolig fod gwerthiannau a phroffidiolrwydd wedi gwella o ganlyniad i fewnbwn ar wybodaeth a sgiliau.  Roedd dilyn arferion gorau ar systemau Adnoddau Dynol i’w weld yn arwain at effaith arwyddocaol ar berfformiad hirdymor.8

Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos wrthym fod lefelau gweddol isel o fusnesau bach a chanolig yn manteisio ar gymorth.

“Dim ond 30% o fusnesau bach sy’n ceisio cyngor allanol oherwydd mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau hyn yn dweud nad ydynt yn deall y budd o gael y cymorth sydd ar gael..”9

Bydd eraill yn ei chael hi’n anodd i gael at yr hyn sydd yn aml yn gymorth tameidiog gyda gwahanol fathau o gymorth yn cael eu cynnig gan amrywiaeth o ddarparwyr ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoedd yn ei gwneud hi’n anodd i lywio ac yn anoddach byth i gydbwyso hynny â’r gwaith beunyddiol o redeg busnes.

“Mae busnesau bach am i’r cymorth a ddarperir gael ei gydlynu’n well, er mwyn i un ymagwedd ddwyn ynghyd yr holl gymorth sydd ar gael mewn ffordd symlach a chyflymach.”10

Y newyddion da!

Yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol rydym eisoes yn gweithredu, yn gweithio gyda busnesau ar draws Abertawe a’r cyffiniau i ddarparu ystod eang o gymorth sy’n ceisio gwella ymgysylltiad gweithwyr a sicrhau cynllunio, dilyniant a chynhyrchiant gwell yn y gweithle.

Mae ein Cynghorwyr Gweithlu ymrwymedig yn helpu busnesau i nodi heriau a chyfleoedd allweddol eu gweithlu trwy ddadansoddiad manwl o anghenion sy’n ystyried y meysydd canlynol:

  • Recriwtio/cadw staff
  • Hyfforddi/datblygu staff
  • Cynllunio swyddi
  • Cynllunio dilyniant

Yna byddwn yn gweithio gyda’r busnes i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu, gan ddarparu cymorth cyhyd ag y bo angen.  Pe allech chi neu fusnes rydych yn gwybod amdano fanteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy’r rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ffoniwch y tîm ar 01792 284450 i weld sut y gallwn helpu.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen wedi’i chyllido’n llawn a all gynnig gwasanaeth cynllunio a datblygu’r gweithlu, gwasanaeth recriwtio wedi’i deilwra i’ch cwmni a, thrwy fynediad i’r ddarpariaeth ehangach sydd ar gael o fewn Coleg Gŵyr Abertawe, pecyn llawn o gyrsiau hyfforddi wedi’u cyllido a’u cyllido’n rhannol.