Tir Peryglus Recriwtio: Pam mae’n hawdd gwneud penderfyniadau gwael wrth recriwtio a sut gallwch osgoi gwneud yr un peth eto
Fel perchennog busnes, Rheolwr AD neu reolwr llinell, rydych siŵr o fod wedi profi’r anfanteision a geir wrth recriwtio. Gall camgymeriadau wastraffu llawer iawn o amser, achosi straen a gallant fod yn gostus. Ond o ystyried bod recriwtio yn aml yn gêm o ddyfalu, mae ceisio hidlo’r ymgeiswyr sy’n arbenigwyr o ran llywio’r broses allan o’r bobl sydd â thalentau a photensial go iawn yn gallu bod yn dasg amhosibl i bob golwg, yn enwedig pan fyddwch o dan bwysau i lenwi’r rôl yn syth!
Er gwaethaf y profiadau hyn, mae llawer o gwmnïau yn dewis penodi staff y maen nhw’n gwybod fydd yn anhebygol o lwyddo, gan ddibynnu ar brosesau recriwtio gwael nad ydynt yn darogan yn dda perfformiad swydd yn y dyfodol. Felly a fyddai’n beth doeth hurio rhywun hyd yn oed os nad yw hyn yn teimlo fel y peth iawn i’w wneud?
Amcangyfrifir bod hurio gwael yn costio hyd at 3 gwaith cyflog y swydd rydych yn recriwtio iddi. Gan hynny, efallai y byddwch yn meddwl ddwywaith yn y dyfodol cyn rhuthro i gynnig y swydd. Ond trwy wneud ychydig o newidiadau i’r ffordd rydych yn delio â recriwtio gallech leihau’n sylweddol y risg o wneud penodiad gwael ac arbed amser ac arian ymhellach i lawr y lein.
Dod i adnabod cyflogeion yn iawn
Os nad yw proses hurio’n cynnwys digon o fanylder, gallech ganfod eich hun gyda chyflogai sydd â’r sgiliau caled i wneud tasgau bob dydd ond heb y sgiliau meddal na’r addasrwydd diwylliannol. Trwy fabwysiadu proses gyf-weld aml-gam gyda chyfweliadau unigol, yn ogystal â thasgau grŵp i geisio penderfynu pa mor dda mae unigolyn yn cydweddu â’r cwmni a’r bobl, byddwch yn gallu llunio barn fwy cyflawn am yr ymgeisydd.
Bod yn benodol
Trwy ddiffinio’r rôl benodol rydych yn recriwtio iddi, o’r dechrau byddwch yn arbed eich hun rhag gwastraffu amser ac ymdrech o ran ystyried pobl sy’n annhebygol o fodloni’ch meini prawf. Dylech ystyried y rôl ei hunan ond hefyd y profiad sydd ganddynt, pa mor addas fydd y bersonoliaeth ar gyfer y tîm, a’r hyn rydych yn ei gynnig yn gyfnewid trwy ddilyniant a buddion. Trwy wneud hyn, gallech benderfynu’n gyflym iawn pwy sy’n mynd i fod yn addas ar gyfer y rôl a’r busnes.
Buddsoddi amser yn y broses gynefino
Mae rheoli’r broses hurio, gan gynnwys cael hyd i ymgeiswyr a threfnu sesiwn gynefino gynhwysfawr, yn sicrhau dechrau di-dor i ddechreuwyr newydd. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi nodi mai hyfforddiant annigonol ar ddechrau swydd newydd oedd un o’r prif resymau pam mae staff yn gadael yn nes ymlaen neu’n cael eu diswyddo oherwydd nad ydyn nhw’n gallu gwneud y swydd yn iawn. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o adnoddau i gynnal y broses gynefino a buddsoddi amser i ddatblygu cynllun hyfforddi a datblygu cynhwysfawr.
Sut Gallwn Helpu?
Yn “Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol”, rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ar gyfer cynllunio a datblygu’r gweithlu gyda’r nod o wella arferion gweithlu, mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw, gwella ymgysylltu â chyflogeion a chynyddu cynhyrchiant.
Mae ein tîm yn gweithio gyda phob busnes yn unigol i ddeall ei heriau penodol a manteisio i’r eithaf ar ei botensial trwy eu rhaglen wedi’i theilwra eu hunain, a reolir gan ymgynghorydd gweithlu dynodedig. Mae ein tîm o arbenigwyr rheoli talent yn darparu cymorth arbenigol o ran recriwtio a pharu â swyddi, gan weithio gyda busnesau a’n sylfaen gwsmeriaid eang i baru’r ymgeisydd iawn â’r cyfle iawn. Trwy weithio gyda ni, gallwch wella’ch proses recriwtio, cadw staff a rheoli talent i fanteisio i’r eithaf ar botensial eich busnes. Ffoniwch neu e-bostiwch ni nawr i wybod sut y gallwn helpu’ch busnes:
Ffôn: 01792 284450
E-bost: info@betterjobsbetterfutures.wales