Ffordd Fwy Effeithlon o Chwilio am Swydd
Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa yma – chwilio drwy sawl peiriant chwilio sy’n honni mai nhw yw’r ‘ateb i ddod o hyd i swydd’. Rydych chi wedi cael hyd i’r swydd berffaith, wedi uwchlwytho eich CV ddiweddaraf wedi’i haddasu’n fedrus ac wedi clicio ar y botwm ‘ymgeisio nawr’ – ond does dim ymateb o gwbl.
Beth pe baem yn dweud wrthych chi bod ffordd fwy effeithlon o chwilio am swydd?
Mynd ar-lein
Bydd y rhan fwyaf o swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar beiriannau chwilio am swyddi’n dweud enw’r cwmni sy’n recriwtio wrthych chi. Ar ôl i chi ddod o hyd i’w wefan, gwnewch gais ar-lein, neu anfonwch gopi o’ch CV wedi’i haddasu a llythyr/neges e-bost i gyd-fynd at y person penodol. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r swydd wag, ffoniwch nhw i gael gwybod beth yw’r broses sydd raid ei dilyn.
Mynd ati i rwydweithio
Bydd digwyddiadau rhwydweithio’n gyfle i chi gyfarfod unigolion â’r un feddylfryd, gan gynnwys darpar gyflogwyr sy’n recriwtio efallai. Meddyliwch am y digwyddiadau hyn fel cyfweliad; gwisgwch yn daclus, ewch â chopïau o’ch CV gyda chi a pharatowch am gwestiynau tebyg i rai gewch chi mewn cyfweliad. Hefyd mae LinkedIn yn ffordd wych o rwydweithio oherwydd mae’n gyswllt uniongyrchol i gyflogwyr â chi a hanes eich gyrfa.
Sgwrsio
Mae llawer iawn o swyddi gwag yn cael eu rhannu drwy dafod lleferydd, heb eu hysbysebu. Ewch ati i sgwrsio gyda ffrindiau a theulu oherwydd efallai eu bod yn gwybod am swyddi gwag yn eu rhwydweithiau, neu mewn cwmnïau maent yn gweithio iddynt.
Os hoffech gymryd y cam nesaf at fod yn fedrus wrth chwilio am swyddi, sy’n cynnwys cefnogaeth un i un i ysgrifennu ceisiadau a chreu CV’s penodol a llythyrau/negeseuon e-bost i gyd-fynd, ffoniwch ni ar 01792 284450.