Blwg Academi’r Defodol
Newyddion cyffrous! Mae’n amser i gychwyn Academi’r Dyfodol am y trydydd tro!
Wrth i ni baratoi i gwrdd â charfan bosibl yr academi eleni, gadewch i ni edrych yn ôl ar uchafbwyntiau a llwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf.
Llynedd, cafodd myfyrwyr yr Academi y cyfle i gwrdd ag ystod eang o siaradwyr gwadd ysbrydoledig, gan gynnwys Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, Rob Stewart. Cawsant y cyfle hefyd i gwrdd â siaradwyr gwadd o sefydliadau blaenllaw megis Deloitte, PWC, DVLA, Tata Steel, Sony, Family Housing a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Cynhaliwyd sesiynau amrywiol a ganolbwyntir ar lwybrau cyflogaeth gwahanol, gan gynnwys prentisiaethau a hunangyflogaeth. Mynychwyd y sesiynau gan siaradwyr gwadd er mwyn helpu’r myfyrwyr i ennill dealltwriaeth gliriach o’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael.
Trwy gydol y rhaglen, cafodd y myfyrwyr y cyfle i adlewyrchu ar eu sgiliau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol megis cyfathrebu, arwain, datrys problemau a gwydnwch. Eleni, hefyd, gwelwyd Ffair Yrfaoedd cyntaf y Coleg yn cael ei gynnal ar draws campysau Tycoch a Gorseinon. Cynhaliwyd y Ffair Yrfaoedd ar ddiwedd cyfnod rhaglen yr Academi a chafodd y myfyrwyr gyfle i feithrin cysylltiadau newydd gydag amrywiaeth o gyflogwyr, yn ogystal â chael eu cyflwyno i gyfleoedd gwaith gwych. Roedd y Ffair yn llwyddiant ysgubol i fyfyrwyr yr Academi, gyda nifer yn derbyn gwahoddiadau i gyfweliadau. Roedd ambell unigolyn yn ddigon ffodus i dderbyn swyddi yn y fan a’r lle!
Canlyniadau’r Academi?
Hyd yn hyn, o’r 28 o fyfyrwyr a gwblhaodd yr Academi y llynedd, mae 18 ohonynt wedi sicrhau cyflogaeth amser llawn neu brentisiaeth ac mae 8 wedi penderfynu symud ymlaen i addysg uwch, er mwyn cyflawni eu huchelgeisiau cyflogaeth. Mae Demi Clement, un o fyfyrwyr yr Academi yn esiampl wych o lwyddiant y rhaglen dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe enillodd Demi wobr Myfyriwr Busnes y Flwyddyn yn 2018, ac mae hi wedi llewyrchu fel myfyriwr Academi’r Dyfodol, gan fanteisio i’r eithaf ar sesiynau grŵp a chymorth un-i-un. Dangosodd Demi ymroddiad llwyr i’r rhaglen. Defnyddiodd hi’r holl gefnogaeth a oedd ar gael, gan gynnwys ymarferion ffug-gyfweliadau dwys er mwyn adeiladu ei hyder a’i chymhwysedd mewn senarios cyfweliadau go iawn.
Talodd holl waith caled Demi ar ei ganfed pan gafodd gynnig swydd dan hyfforddiant gyda’r cyfrifwyr Bevan and Buckland.
“Mae Demi yn unigolyn proffesiynol, ifanc a brwdfrydig sydd wedi ymroi’n llwyr i fod yn Gyfrifydd SIartredig. Mae Demi wedi datblygu o fod yn fyfyriwr profiad gwaith i fod yn Is-Gynorthwyydd Cyfrifon o ganlyniad i’w pharodrwydd i ennill profiad, ei pherfformiad academaidd rhagorol a chefnogaeth Coleg Gŵyr Abertawe” – Vanessa Thomas Parry, Rheolwr Dysgu a Datblygu, Bevan and Buckland.
Mae Demi wedi bod yn lysgennad ardderchog i’r rhaglen ac mae hi’n un enghraifft yn unig o’r straeon llwyddiant niferus sydd wedi dod i’r amlwg o garfan llynedd sydd, heb os, wedi paratoi’r llwybr ar gyfer blwyddyn lewyrchus arall i’r academi. Gyda llawer o ganlyniadau llwyddiannus eraill megis prentisiaethau gradd gyda Capgemini a Astra Zeneca, prentisiaethau uwch gyda CGI a Sony, yn ogystal â swyddi a rolau dan hyfforddiant gydag amrywiaeth o gyflogwyr lleol, mae’r dyfodol yn ddisglair i raddedigion Acaademi 2019. Edrychwn ymlaen at weld beth fydd carfan 2020 yn cyflawni!
Am ragor o wybodaeth ynghylch Academi’r Dyfodol cysylltwch â Louise Dempster, Arweinydd Rhaglen Dyfodol, drwy ffonio 01792 284454 neu e-bostiwch louise.dempster@gcs.ac.uk.