Blwyddyn newydd, cyfleoedd newydd
Gall y flwyddyn newydd fod yn amser delfrydol i ystyried gyrfa newydd ond i nifer o bobl y rhwystr mwyaf yw gwybod ble i ddechrau!
Os ydych yn cael eich cyflogi ac yn ystyried newid gyrfa, yn ceisio dychwelyd i’r gwaith ar ôl treulio amser allan o fyd gwaith, neu’n chwilio am y swydd gyntaf hollbwysig honno, gallech chi fanteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig ymagwedd wahanol at gyflogaeth a chymorth gyrfa ar gyfer pobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn chwilio am waith, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio ac yn chwilio am swydd well. Mae ein tîm o arbenigwyr wedi ymrwymo i gael hyd i’r atebion gyrfa addas i bawb, waeth beth fo’u sefyllfa waith ar hyn o bryd.
Gwyddom fod hanes cyflogaeth gwahanol gan bawb a dyheadau gwahanol o ran gyrfa, felly mae ein hymagwedd ni yn wahanol ar gyfer pob person sy’n cerdded trwy’r drws. Trwy gynnig cyngor a mentora wedi’i deilwra i’r unigolyn, gweithiwn gyda phobl trwy sesiynau un i un i ddatblygu’r llwybr cyflogaeth addas ar eu cyfer a darparwn gymorth ar adeg ac ar gyflymder sy’n ateb eu hanghenion unigol.
Rhown gymorth i bobl cyhyd ag y bo angen cymorth arnynt, a gweithiwn gyda staff a’u cyflogwyr i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i gael a chadw swyddi a datblygu yn y gwaith. Felly mae’r cymorth a ddarparwn yn fwy na dim ond helpu unigolion i gael gwaith; mae hefyd yn golygu eu helpu nhw i aros yn y swydd a datblygu yn eu swydd hefyd. Mae hyn yn golygu nad yw’r cymorth a gynigiwn yn dod i ben pan fydd pobl yn cael swydd – mae’n parhau cyhyd ag y bo ei angen i’w helpu i gadw eu swydd a datblygu ymhellach yn eu swydd.
Yn wahanol i’r rhaglenni a’r gwasanaethau niferus sy’n cynnig cymorth i helpu pobl i gael swydd, rydym hefyd yn helpu’r rhai sydd eisoes yn gweithio ond sydd am gael swydd well. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n chwilio am oriau ychwanegol yn rheolaidd, yn chwilio am swydd fwy sefydlog, neu’n chwilio am swydd sy’n defnyddio eu sgiliau yn fwy effeithiol.
I wneud hyn, gweithiwn law yn llaw â busnesau yn Abertawe a’r cyffiniau i greu cyfleoedd i bobl gael gwaith a datblygu o fewn eu swydd, a helpu cyflogwyr cyhyd ag y mae’n ei gymryd i’w helpu i gyflawni hyn. Mae hyn yn cynnwys cymorth o’r cam recriwtio cychwynnol hyd at ddatblygu staff yn y gwaith, gan alluogi’r busnes i recriwtio a datblygu ei weithlu, a darparwn amrywiaeth o gymorth wedi’i deilwra hefyd i sicrhau bod pobl yn barod ac yn gallu manteisio ar gyfleoedd.
Ochr yn ochr â’r cymorth cyflogaeth sydd ar gael trwy’r rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i bobl sy’n ceisio gwella’r sgiliau sydd ganddynt, ailhyfforddi mewn maes newydd neu gynnal dilyniant yn eu gyrfa, trwy Hyfforddiant GCS Training. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o gyrsiau proffesiynol sy’n cwmpasu nifer o sectorau cyflogaeth a llwybrau gwaith, yn ogystal â phrentisiaethau mewn dros 30 o lwybrau gyrfa. Felly, os ydych chi eisoes yn gwybod pa lwybr rydych am ei ddilyn, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i wneud y dewis hwnnw, gallwn ni eich helpu chi i ennill y sgiliau y mae eu hangen arnoch a manteisio i’r eithaf ar eich potensial.
Yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ceisiwn sicrhau gwell sgiliau, gwell swyddi a gwell dyfodol i bawb rydym yn eu helpu. Felly os ydych am achub ar gyfle newydd yn y flwyddyn newydd, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn ni eich helpu chi i gymryd y cam nesaf pwysig hwnnw ar eich llwybr gyrfa.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01792 284000 neu ewch i www.gcs.ac.uk <http://www.gcs.ac.uk>