Cynorthwyydd Gweinyddu (Prentis) – Rheoli Prosiect TG

Abertawe
£6.40 yr awr
Amser Llawn
4.11.24

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddu (Prentis) trefnus a brwdfrydig i ddarparu cymorth gweinyddol i’r Rheolwr Prosiect TG. Mae’r swydd lefel mynediad hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am ddechrau gyrfa ym maes TG ac ennill profiad gweinyddu gwerthfawr. Byddwch yn rheoli tasgau prosiect o ddydd i ddydd, gan amserlennu a dogfennu, er mwyn helpu i sicrhau bod prosiectau TG yn cael eu cyflwyno mewn modd di-dor. Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol, mewnbynnu data, cyfathrebu â thimau a dyletswyddau swyddfa cyffredinol eraill.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales