• BJBF Team

Partneriaethau

Tidal Estates and Lettings

Sarah Draper, Cyfarwyddwr

“Mae’n debyg mai dim ond hanner y stori fyddai dweud ein bod ni’n hynod fodlon ar Gwell Swyddi Gwell Dyfodol. Mae’r gwasanaeth rydyn ni wedi’i gael o’r dechrau i’r diwedd wedi bod yn benigamp. Cwrddon ni â Beth Fisher ar 23 Awst 2018 ac erbyn 7 Medi roedden nhw wedi hysbysebu’r swydd, wedi cynnal cyfweliad ffug ac wedi trefnu apwyntiad i ni gyfweld. Roedd Beth wedi gwrando ar ein briff ac wedi gwneud jobyn da. Yr ymgeisydd a wnaethon ni gyflogi yw’r un rydym wedi bod yn chwilio amdano, ers cyfnod hir, un ag angerdd a brwdfrydedd! Rydym hefyd wedi cydgysylltu â Julie Bowen, ynghylch ein prentis ac rwy’n hynod falch o’r gwasanaeth a’r cyfathrebu a ddarparwyd gan Beth a Julie, maen nhw’n glod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Rydym yn gallu argymell Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn fawr i bob un o’n cysylltiadau proffesiynol.”

Right at Home

James Foley, Rheolwr Gweithredol

“Mae gweithio ochr yn ochr gyda rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn bartneriaeth o safon hynod bwysig i’m busnes. Mae lefel y gefnogaeth a’r cyngor wedi bod yn hynod werthfawr. Dw i’n teimlo llawer yn fwy hyderus o wybod y gallaf godi’r ffôn a siarad â’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd eu cefnogaeth recriwtio ac anabledd yn arbennig o ddefnyddiol.

Rydyn ni hefyd wedi manteisio ar gefnogaeth Hyfforddiant CGA wrth helpu ein gweithwyr i ddechrau ar eu cymhwyster gorfodol lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dw i a’m rheolwr hefyd yn cwblhau ein lefel 5 ac mae’r cwrs wedi bod yn ddymunol ac yn hynod werthfawr. Dw i wedi dysgu llawer a dw i’n teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio fy sgiliau newydd yn y busnes.

Mae tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi fy annog a’m hysbrydoli yn fy mentrau busnes. Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda nhw, fel tîm newydd ac uchelgeisiol yma yn Right at Home Abertawe, ac rydym yn gweld ein dyfodol mewn partneriaeth gref â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a Choleg Gŵyr Abertawe.”

DWJ Wealth Management

Danni Watts-Jones, Cyfarwyddwr

“Roeddwn i am ddweud diolch enfawr i dîm y prosiect Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd y broses recriwtio’n llyfn a chymeroch chi’n holl drafferth sifftiau drwy CVs di-rif a chyfweliadau cychwynnol i ffwrdd. Roedd y ddau ymgeisydd gwnaethoch chi eu hargymell o safon dda iawn ac rydym wedi cynnig swydd i’r ddau ohonynt. Fe ddealloch chi ein briff yn llwyr ac, wrth wneud hynny, rydym ni’n teimlo eich bod chi wedi dod o hyd i’r ymgeisydd perffaith y gellir ei fowldio. Pan fyddwn yn ehangu, byddwch chi ar ben ein rhestr ar gyfer recriwtio yn y dyfodol. Diolch unwaith eto.”

ABMU

Ruth Gates, Prentis Arweiniol

“Mar PABM yn falch o weithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i helpu i roi cyngor i’w cleientiaid ar yr amrywiaeth eang o swyddi yn y GIG, gan gynnwys nifer gynyddol o swyddi prentisiaeth mewn amrywiaeth o adrannau. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad y bartneriaeth yn y dyfodol a darparu mwy o leoliadau profiad gwaith a chyngor i’r grŵp cynyddol o gleientiaid.”

Countrywide Hearing Ltd

Kate Reed, Rheolwr Cyllid

“Defnyddion ni wasanaethau recriwtio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar i benodi i ddwy swydd newydd yn ein busnes. Roedd y tîm wedi gallu darparu cyngor ar hysbysebion swydd, cyfradd y farchnad ac ymgymryd â sgrinio cyn cyfweliad dros y ffôn. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i ni, gan ein harbed amser ac adnoddau a galluogi i ni lenwi’r swyddi gydag ymgeiswyr cryf yn gyflymach. Roedd y gwasanaeth am ddim ond fe’i darparwyd gan staff cymwys a phrofiadol. Byddem yn argymell defnyddio gwasanaethau Coleg Gŵyr Abertawe i unrhyw fusnes lleol sy’n chwilio am staff.”

Joes Ice Cream

Lucy Hughes, Cyfarwyddwr

“Mae ein profiad gyda Zoe a Dan o Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn wych. Gyda’u cymorth nhw, rydym wedi penodi i ddwy rôl swyddfa ac un rôl cynhyrchu mewn cyfnod byr o amser. Maent wedi ein harbed llawer o amser ac adnoddau drwy lunio’r hysbyseb, hidlo ceisiadau a thrafod â’r ymgeiswyr drwy gydol y broses. Mae’r ymgeiswyr a gynigwyd i ni wedi bod o safon dda iawn ac ni fyddwn yn oedi wrth ddefnyddio eu gwasanaeth eto.”

Checkmylegalfees.com

Kerry-Anne Moore, Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr Costau

“Argymhellwyd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i mi gan fy nghynghorydd busnes ym Musnes Cymru oherwydd roeddwn i’n cael hi’n anodd recriwtio’r unigolyn iawn â’r sgiliau iawn yn ein swyddfa sy’n tyfu yn Abertawe. Cwrddais â Zoe yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a theimlais yn syth fy mod i mewn dwylo diogel. Roedd Zoe yn deall yn union pa nodweddion a sgiliau roeddwn i’n chwilio amdanynt mewn darpar weithiwr a rhoddwyd prosesau ar waith ganddi i sicrhau na fyddwn yn cael fy moddi gan broblemau recriwtio. Ces i gymorth ganddi hefyd gyda chyfweliadau a rhoddodd hi o’i hamser i sicrhau y byddai’r broses mor esmwyth ag y gallai fod. Cymerodd yr holl broses ychydig wythnosau’n unig a bellach, dw i wedi dod o hyd i’r unigolyn perffaith yn ogystal ag unigolyn sy’n gwneud profiad gwaith. Byddwn yn argymell y gwasanaethau a gynigir gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn fawr iawn ac ni fyddwn i wedi teimlo’n gwbl gymwys i ymgymryd â’r broses recriwtio heb gymorth Zoe a’r rhaglen.”

Order Uniform UK Ltd

Kelly Jenkins, Cyfarwyddwr

“Cyfeiriodd un o fy nghwsmeriaid fi at Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi iddynt gael help gyda’u hanghenion recriwtio. A ninnau’n gwmni bach heb gyfweld neb erioed o’r blaen roeddem allan o’n dyfnder yn llwyr. Daeth Zoe i’n hadeilad, gwelodd beth rydym ni’n gwneud a gofynnodd lwyth o gwestiynau i ni i gael gwell dealltwriaeth o beth roedden ni’n chwilio amdano.  Arweiniodd Zoe a’r tîm ni trwy bob cam; helpon nhw i ysgrifennu ein hysbyseb swydd, gweithio trwy’r ceisiadau, trefnu’n hymgeiswyr am gyfweliad, a hyd yn oed eistedd i mewn ar y cyfweliadau gyda ni i sicrhau ein bod yn gwneud beth oedd angen i ni wneud i gael yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd. Erbyn y diwedd roedden nhw’n adnabod fy musnes a’i anghenion yn well nac yr oeddwn i!

Ymlaen ychydig fisoedd ac roedden ni’n barod i hysbysebu am weithiwr arall. Heb oedi o gwbl codais y ffôn, ac o fewn 24 awr roedd ein swydd newydd yn fyw ac roedd ceisiadau yn dod i mewn. Alla i ddim canmol tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ddigon; does dim byd yn ormod iddyn nhw, does dim un cwestiwn yn wirion a does dim un cwmni sy’n rhy fach iddyn nhw helpu. Arbedon nhw gymaint o adnoddau i ni, ac mae’n teimlo fel eu bod yn rhan wirioneddol o’n busnes. Gallaf ddweud yn onest hebddynt, na fyddem wedi recriwtio ein haelodau staff newydd yn llwyddiannus. Os ydych chi’n bwriadu recrwitio aelodau tîm newydd, yna chewch chi neb gwell na Gwell Swyddi , Gwell Dyfodol i’ch cefnogi.”

John Morse Solicitors

Rachel Tyrell, Rheolwr Practis

“Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i Beth a’r tîm yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Bu’n rhaid i ni recriwtio derbynnydd ar frys a chafodd y swydd ei llenwi o fewn 2 ddiwrnod. Roedden nhw’n gwybod yn syth beth roedden ni’n chwilio amdano. Maen nhw wedi cael hyd i rywun sydd wedi ffitio i mewn yn berffaith a gobeithio bydd yn aelod hirdymor o staff. Mae Beth wedi arbed gymaint o amser i ni drwy hysbysebu a phori trwy’r CVs a dyma sut rydym wedi mynd ati i recriwtio staff cymorth. Byddwn ni’n argymell defnyddio gwasanaethau Coleg Gŵyr Abertawe yn fawr i unrhyw fusnes lleol sy’n chwilio am staff.”

Low Cost Vans

Lorraine Kitchin, Rheolwr Adnoddau Dynol

“Yn ddiweddar, gwnaethom ddefnyddio rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ Coleg Gŵyr Abertawe, pan oedd angen i ni recriwtio Prentis Derbynnydd a Chynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmer. Roedd y tîm mor gymwynasgar ac yn sgrinio CV pob ymgeisydd a oedd o fudd mawr i’r busnes. Fe wnaethom lenwi’r ddwy swydd gydag ymgeiswyr cryf gyda’r union brofiad blaenorol yr oeddem yn chwilio amdano.  Mae’r gwasanaeth yn anhygoel a gweithiodd Beth a’r tîm yn galed iawn ar ein cyfer. Byddem yn argymell yn gryf defnyddio gwasanaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i unrhyw fusnes. Diolch. ”

Vortex IOT

Nick Beckett, Cyfarwyddwr

“Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn wych. Cymerodd Zoe a Daniel yr amser i ddeall beth oedd yn bwysig i’n busnes a rheoli cyfnod dwys o recriwtio ar gyfer tîm sy’n tyfu. Roedd GSGD yr un mor effeithiol ar yr ochr gweinyddol a thechnegol, gan helpu ymgeiswyr i deimlo eu bod yn cymryd rhan yn y broses a rheoli popeth o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n deg dweud bod GSGD yn rhan hanfodol o’n proses recriwtio a fyddem ddim yn meddwl dwywaith cyn defnyddio eu gwasanaethau eto.”

Arvato Bertelsmann

Anthony Pompa, Pennaeth Gwasanaethau Cwmeriaid

“Mae prentisiaethau yn un o’r teclynnau pwysicaf i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau sy’n wynebu busnesau heddiw, gan eu helpu i hybu cynhyrchiant ac arloesedd ar gyfer gofynion talent bythol esblygiadol y dyfodol. Un o’r heriau a wynebir gan ein busnes heddiw yw recriwtio rhai sy’n gadael ysgol a graddedigion sydd â phrofiad cyfyngedig o waith. Mae ein rhaglen brentisiaeth yn ein galluogi i ddarparu nid yn unig cam cyntaf i fyd gwaith i bobl ifanc, ond cymhwyster  sy’n cael ei barchu a phrofiad proffesiynol ymarferol. Mae Arvato Abertawe yn buddsoddi a thyfu ei gynllun prentisiaeth sy’n darparu llog amlwg ar fuddsoddiad, nid yn unig mewn enillion masnachol ar unwaith ond mewn datblygu’r setiau sgiliau mae eu hangen ar fusnesau yn y gymuned leol i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol. Gweithiodd Arvato yn agos gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol mewn cysylltiad â Choleg Gŵyr i gael dau brentis newydd i mewn i fusnes Arvato yn ddiweddar. Ymwelodd y tîm yn syth â’n swyddfeydd, gan ddeall ein hanghenion a daethant o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer y rolau prentis. Yn ychwanegol, cefnogodd y tîm y gwaith papur a’r holl sgrinio dechreuol i sicrhau bod mewnbwn y cyflogwyr yn dal yn werthfawr gydag ymdrech gyfyngedig.”

Opinion Research Services

Robyn Griffiths, Rheolwr Canolfan Alwadu

“Yn ogystal â chyflawni canlyniadau positif yn syth, mae gweithio â Gwell Swyddi Gwell Dyfodol wedi bod yn broses syml, hawdd a hwylus. Gan ystyried fod popeth yn symud ar gyflymder uchel y dyddiau yma, mae’r gallu i siarad yn uniongyrchol ag aelodau o’r staff yn ddefnyddiol iawn. Mae cael aelodau o’r staff megis Dan Parvey yn esbonio gofynion y cwmni yn agwedd gyfeillgar ar lefel bersonol, rhywbeth sy’n anodd dod ar ei draw yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae’r broses wedi galluogi i bethau symud yn eu Blaenau mewn modd cyflym ac wedi gweithio o blaid pawb sydd o dan sylw, yn enwedig ei hymgeiswyr sy’n chwilio am gyflogaeth. Rydym yn hapus iawn gyda’r berthynas sydd wedi cael ei ddatblygu, a hefyd am y staff rydym wedi ennill trwy’r broses. Mae’n fwriad gennym i barhau i weithio gyda Gwell Swyddi Gwell Dyfodol, fel y dylai unrhyw fusnes lleol arall wneud.”

Light Lettings Ltd

John Penquet, Prif Swyddog Weithredol

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am waith caled Beth, a hoffwn argymell ei gwasanaeth i bawb, gan ei bod hi’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau bob tro. Mae Beth wedi darparu cymorth ar bethau megis atgyfeiriadau ac arweiniadau i’n busnes, yn ogystal â chynnig hyfforddiant mewn rôl allweddol. Mae Beth yn barod i helpu ar bob achlysur, a rhaid cyfaddef, mae’n bleser pur i gael gweithio â hi. Mae natur addfwyn Beth a’i ysfa i ddarganfod ffyrdd o helpu’n busnes yn siarad cyfrolau, mae’n barod i gynnig cymorth ar unrhyw adeg ac yn ei chael ei pharchu’n enfawr o fewn ein busnes. Heb os, Beth yw’r person cyntaf y dylai rheolwyr busnes siarad â hi wrth chwilio am gymorth ar staff a lleoliadau.”

Seddi Cogent

Gareth, Cyfranyddwr Gweithrediadau a Logisteg

“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn gymorth gwerthfawr i ni ac rydym yn hapus iawn i weithio â nhw. Mae’r broses wedi bod yn un hawdd, ac wedi bod yn fuddiol iawn i ni fel busnes. Edrychwn ymlaen i barhau i gydweithio â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn 2019 a’r blynyddoedd ar ôl hynny. Diolch.”

Coed Nadolig Ffres y Gŵyr

Katharine Morgan, Rheolwr 

“Cyn cwrdd â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roeddem yn hysbysebu ar blatfform swyddi adnabyddus, ond yn cael trafferth recriwtio staff dros dro. Esboniodd Beth swyddogaethau GSGD a’r ffordd y gallent fod yn fuddiol i’n hanghenion ni. Er mwyn denu mwy o ymgeiswyr, gofynnodd os gallai gael golwg ein hysbysebion a’r disgrifiadau swydd bresennol er mwyn gallu cynnig gwelliannau. Cynigodd Beth sawl awgrym, er enghraifft, eglurodd bod yr hysbysebion yn brin o gynnwys apelgar ac yn brin o fanylion penodol y swydd. Ar ôl hyn, gofynnodd Beth a oedd modd iddi gyrchu’r holl wybodaeth a drafodwyd yn y cyfarfod gan ddychwelyd â chynigion posibl. Pan dderbyniom e-bost gan Beth oedd yn cynnwys yr holl fanylion, cawsom sioc hapus wrth ddarganfod ei bod hi wedi ail ysgrifennu’r hysbysebion ac wedi cynnwys y disgrifiadau swydd, yn ogystal. Gosodom yr hysbysebion ar y we, ac o fewn dim o amser roedd llif o ymgeiswyr wedi dangos diddordeb. Yn ogystal, awgrymodd Beth y dylem gynnal proses cyflwyno staff, er mwyn iddynt gael deall eu cyfrifoldebau a’r hyn oedd yn ddisgwyliedig iddynt gyflawni mewn diwrnod o waith. Mae Beth wedi cadw mewn cysylltiad cyson â ni trwy gydol y broses, ac wedi gwneud ymweliad ar sawl achlysur i sicrhau ein bod yn hapus gyda’r prosesau recriwtio sydd ar waith. Mae’r hysbysebion a’r disgrifiadau swydd yn bethau y gallwn eu defnyddio nawr, yn ogystal ag yn y dyfodol. Mae’r cymorth a’r arweiniad wedi bod yn amhrisiadwy, a byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol er mwyn recriwtio yn y dyfodol.”

NetBop Web Development

Andrew Downie, Rheolwr Gweithredol

“Mae rhai o’n cleientiaid eisoes wedi defnyddio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Fe gawsom gyfarfod â Beth yn ddiweddar, a teg yw dweud, mae’r gwasanaeth a gynigir yn wych. Mae’r broses wedi arbed amser i ni a dwi’n argymell y gwasanath yn gryf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.”

BBC Cymru

Steven Sandrey, Rheolwr cynlluniau talent newydd

Yn ddiweddar, bu BBC Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, er mwyn hyrwyddo Prentisiaeth Newyddiaduraeth Ddigidol a gynigir ar hyn o bryd o fewn y sefydliad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff Coleg Gŵyr Abertawe, gan ddiolch yn arbennig i Luise Dempster a Lucy Hartnoll am eu cyfeillgarwch a’u cydweithrediad. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac wedi’i drefnu’n dda iawn gan staff Coleg Gŵyr Abertawe. Roeddent oll yn gyfeillgar ac yn fwy na parod i helpu gyda’r digwyddiad. Bu’r staff yn help mawr i ni allu nodi’r myfyrwyr oedd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth. Trefnwyd hefyd yr ystafelloedd a’r adnoddau oedd eisiau er mwyn cynnal y digwyddiad, gan ofalu am y cynllunio logistaidd angenrheidiol. Roedd y broses yn un llyfn o’r dechrau i’r diwedd a bu’n gyfraniad gwerthfawr i ddigwyddiad llwyddiannus. Diolch!

Poundstretcher

Paul Hartley, Rheolwr Ardal

“Ar ôl cyfarfodydd cychwynnol gydag Emma a David, roedd hi’n glir eu bod yn angerddol dros helpu pobl leol i ddod o hyd i waith gan eu gwneud yn bobl fwy hyderus. Roedd hi hefyd yn glir eu bod eisiau helpu busnesau lleol i ddiwallu eu hanghenion recriwtio. Yn ystod ein diwrnod recriwtio cyntaf, fe ymunodd 7 o bobl newydd â’n busnes, mewn 4 siop leol. Dyma’r gyfradd llwyddiant uchaf erioed ar gyfer unrhyw un o’n diwrnodau recriwtio. Dangosa hyn y brwdfrydedd a’r ymdrech aeth mewn i ddarganfod yr unigolion cywir ar gyfer y rolau a hysbysebwyd gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae’n adlewyrchiad da hefyd o’r ymgeiswyr safonol sydd yn awyddus i weithio yn sector manwerthu. Rwy’n siŵr mai dim ond dechrau partneriaeth lwyddiannus gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yw hyn ac rwy’n edrych ymlaen at ein dyfodol.”

Subway 

Richard Rees

“Er mwyn ein helpu gyda’r gwaith o recriwtio staff, rydym wedi cychwyn partneriaeth gyda thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedden ni wedi synnu i glywed bod y fath wasanaeth yn bodoli. Fe hysbysebodd y tîm ein rolau, gan fwrw golwg ar CV pob ymgeisydd a threfnu cyfweliadau ar ein rhan. Roedden ni hyd yn oed yn gallu defnyddio eu swyddfeydd ar gyfer y cyfweliadau. Galluogodd y broses i ni dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar faterion eraill o fewn ein busnes. Roedd Emma a Rhian yn gymwynasgar a chadarnhaol iawn ac roedd gweithio gyda’r ddwy yn bleser. Byddwn yn sicr yn argymell Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Dwi wedi defnyddio eu gwasanaeth ar sawl achlysur a byddaf yn parhau i wneud i wneud hynny.”

Abacus Day Nursery

Beth, Perchennog

“Mae ‘di bod yn dda i’r cwmni ein bod ni wedi dod i gysylltiad â chi, gan ein bod ni wedi gwastraffu llawer o arian ac amser yn y gorffenol ar ymgeiswyr nad oeddent yn mynychu cyfweliadau, ar ôl cytuno ymlaen llaw eu bod yn bwriadu mynychu. Dwi wrth fy modd gyda’r gwasanaeth rydych yn ei gynnig – ymgeiswyr personol o ansawdd uchel sy’n gweddu anghenion y busnes. Diolch yn fawr iawn!”