Hyfforddwr Cyn Academi

Abertawe
£11.54 yr awr
Rhan-amser
29/4/24

Mae clwb chwaraeon yn chwilio am unigolyn hunangymhellol, ymroddedig a phrofiadol i ymuno â rhaglen datblygu chwaraewyr y clwb. Bydd gofyn i chi feddu ar ymagwedd hyblyg, gan y bydd y rôl yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd: ddarparu hyfforddiant safon uchel i grŵp oedran penodol, addysgu’r grŵp yn unol â damcaniaethau a methodoleg Cynllun Perfformiad yr Academi, sicrhau bod chwaraewyr yr Academi yn cydymffurfio â’r gwerthoedd gosodedig a’u bod yn arddangos lefel uchel o barch a disgyblaeth, a chadw at God Ymddygiad Hyfforddwyr.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales