Mark James

“Po fwyaf y gwyddoch y mwyaf o wahaniaeth y gallwch chi ei wneud”

 

Eisteddon ni gyda’r Rheolwr Rhaglen Gyflogadwyedd, Mark James, a siaradon ni am sut mae bywyd yn gyfan gwbl ynglŷn â gwneud y mwyaf o gyfleoedd i roi’r cyfle gorau i’ch hunan i lwyddo. Y canlyniad? Stori gyrfa gymhellgar i’n hatgoffa bod rhaid i’n hawydd i lwyddo fod yn gryfach na’n hofn o fethiant bob tro, ac os credwn ni yn wirioneddol y gallwn ei wneud, fe allwn ni yn bendant!

Wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu uwch?

Gwnes i lefelau A-mewn Mathemateg, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Cyfryngau ac heb wybod erioed beth roeddwn am ei wneud ar ôl yr ysgol. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n mwynhau busnes a thwristiaeth, felly roeddwn i’n awyddus i ddysgu rhagor am ddilyn y meysydd hynny ar lefel uwch. O ganlyniad, es i ymlaen i Brifysgol Abertawe i wneud gradd mewn Rheolaeth Twristiaeth. Mwynheais y brifysgol yn wirioneddol a phopeth oedd gan y cwrs i’w gynnig, ond roeddwn yn dal i fyw gartref ac efallai nad enillais i gymaint o annibyniaeth a sgiliau bywyd ag y gallwn pe bawn i wedi symud i ffwrdd. Fodd bynnag, roedd y Brifysgol yn brofiad eithriadol o gadarnhaol i mi lle dysgais i lawer, ac roedd dilyn addysg uwch yn bendant yn benderfyniad roeddwn i’n falch o’i wneud. Yn ystod fy ngradd cwblheais leoliad gwaith yn yr awdurdod lleol, gan weithio ar brosiect i gefnogi’r rheiny ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET). Roeddwn i wirioneddol wrth fy modd gyda’r profiad ymarferol a enillais yn ystod y cyfnod hwn, gan weithio’n agos gyda phobl oedd ag angen ein cefnogaeth fwyaf. Roeddwn i’n gwybod mai yn y math hwn o rôl roedd fy sgiliau a gwybodaeth yn gweddu orau, a phan raddiais, roeddwn i wedi fy nghyffroi ac yn obeithiol am fy ngyrfa a’r dyfodol.

Pa gyfeiriad wnaethoch chi ddilyn ar ôl y Brifysgol?

Ar ôl graddio, gweithiais i’r awdurdod lleol fel Gweithiwr Mynediad Ieuenctid, gan weithio’n agos gyda rhai 16-19 oed mewn perygl o ddod yn NEET. Roedd elfen adfer y rôl yn rhoi boddhad mawr iawn; roeddwn i wrth fy modd yn gweld pobl ifanc yn magu sgiliau newydd, hyder ac yn pen draw yn trawsnewid eu bywydau er gwell. Arhosais i yn y rôl hon am 3 blynedd cyn ceisio’n llwyddiannus am rôl fel Swyddog Prentisiaeth, yn edrych ar ôl prentisiaid adeiladu ledled De Cymru: her newydd a gwahanol iawn i mi ar daith fy ngyrfa. Roeddwn i wrth fy modd yn cefnogi datblygiad busnesau ac unigolion trwy brentisiaethau, a phrofais fodlonrwydd mawr wrth weld pobl yn dod yn eu blaenau. Teimlwn yn freintiedig i fentora a chefnogi prentisiaid fel y cyflawnent eu nodau ac roedd bod â’r ymdeimlad hwn o bwrpas yn gwneud i mi fod ag eisiau dilyn y math hwn o rôl cyfarwyddyd fel y gallwn i barhau i gefnogi pobl mewn unrhyw ffordd bosibl.

Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ers hynny?

Arhosais yn y rôl Swyddog Prentisiaeth am 3 blynedd cyn chwilio am her newydd i ehangu fy mhrofiad. Cododd cyfle mewnol am Swyddog Ymgysylltu â Gweithwyr a Chyfathrebiadau, a cheisiais ac roeddwn i’n llwyddiannus. Roeddwn i’n gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau gyda chyflogwyr ar draws yr ardal leol i gefnogi cyfleoedd lleoliad prentisiaeth a hyfforddiant ac roeddwn i’n ddiolchgar am y lefel newydd hon o gyfrifoldeb. Gwnes i’r rôl hon am flwyddyn cyn ceisio’n llwyddiannus am safle fel Swyddog Cysylltu Cyflogaeth i Workways+ gan gefnogi pobl diwaith tymor hir. Enillais lawer o brofiad defnyddiol yn ogystal â chysylltiad da ag ystod eang o fusnesau, ac arweiniodd fy sêl i adeiladu ar y profiad cysylltiedig â busnes hwn fi i geisio am rôl Cynghorwr Gweithlu yn rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Roedd y rôl yn cyd-fynd â’m profiadau ac roedd ymgeisio amdani yn teimlo fel dilyniant gyrfa naturiol. Roeddwn i wrth fy modd yn y rôl yn ystod yr 8 mis cychwynnol, ac fe roeddwn i’n hapus iawn i symud ymlaen i rôl Rheolwr Prosiect. Rydw i wir yn mwynhau’r rôl hon ac yn hynod o werthfawrogol o’r cyfle. Mae’r rôl wedi gwella fy nealltwriaeth a fy mhrofiad o reoli yn weithredol ac yn strategol, ac rydw i wedi ennill profiadau gwerthfawr iawn a fydd yn fy helpu ar hyd fy nhaith gyrfa. Yn naturiol, nid yw popeth wedi bod yn fêl, ond os nad ydych chi’n mentro mewn bywyd, ni fyddwch yn datblygu na thyfu fel unigolyn. Wrth symud ymlaen, rydw i’n gyffrous iawn am botensial anferth yr Adran Gyflogadwyedd; pob dydd rwy’n profi’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar fywydau pobl, ac rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o ddarpariaeth cymorth pwysig ac ystyrlon, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol iawn yn economaidd. Roedd y rôl yn gyfle i fi ddefnyddio fy mhrofiadau perthnasol ac fe roedd yn teimlo fel y peth cywir i wneud er mwyn symud fy ngyrfa ymlaen. Fe wnes i fwynhau pob eiliad o’r 8 mis a dreuliais yn y rôl, cyn symud ymlaen i weithio fel Rheolwr Rhaglen. Rwy’n mwynhau’r rôl hon yn fawr ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle. Mae’r rôl wedi gwella fy ngwybodaeth a fy mhrofiadau o reoli yn weithredol ac yn strategol, ac rydw i wedi cael nifer o brofiadau gwerthfawr a fydd yn fy helpu ar fy nhaith gyrfa reoli. Rydw i wedi profi ambell her ar hyd y ffordd, ond os nad ydych chi’n mentro, nid ydych yn debygol o ddatblygu fel person. Wrth symud ymlaen, rydw i’n gyffrous iawn am botensial yr Adran Gyflogadwyedd; rwy’n gweld yr effaith gadarnhaol mae’n ei gael ar bobl yn ddyddiol, ac rydw i wrth fy modd o fod yn chwarae rhan wrth ddarparu cymorth hanfodol ac ystyrlon yn enwedig yn ystod yr hinsawdd heriol economaidd sydd ohoni.

Beth yw’r un peth y dymunwch y byddech yn ei wybod pan oeddech yn iau?

Dw i’n dymuno na fyddwn i wedi poeni cymaint am y dyfodol a pheidio â chymharu fy hun â phobl eraill. Roeddwn i’n tueddu i orfeddwl pethau llawer, a phoeni am y ‘beth petai’ a dw i’n dymuno y byddwn i wedi credu yn fy hun yn llawer cynharach. Pe gallwn i roi cyngor i fy hunan yn iau byddai i beidio â cholli unrhyw gyfle sy’n dod i chi; cydiwch ym mhopeth a gwnewch bob ymdrech i wneud pob profiad yn un gwerthfawr. Dw i wedi dysgu llawer o bethau gwahanol yn fy holl rolau gwahanol ac maen nhw wedi fy ngwneud i y person ydw i heddiw. Wrth gwrs mae pethau a allai fod wedi cael eu gwneud yn wahanol o hyd ond dw i’n credu’n wirioneddol bod popeth yn dysgu rhywbeth i chi. Mae bywyd ynglŷn â bod yn amyneddgar, gweithio’n galed ac (yn y pen draw) medi’r gwobrau. Os ydw i’n gallu ei wneud e, gall unrhyw un!

Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu difaru?

Dw i ddim yn difaru pethau ond yn bendant mae cyfleoedd sydd wedi mynd heibio i mi. Dw i wedi bod mewn ychydig o rolau gwahanol lle mae cyfleoedd dyrchafiad wedi codi a dw i wedi bod yn rhy gyfforddus neu nerfus i gymryd mantais ohonynt. Mae hyn yn rhywbeth dw i ddim ond yn sylweddoli wrth fyfyrio ar stori fy ngyrfa, felly byddwn i’n dweud bod y sylweddoliad yn fwy o wers nac o ddifaru. Dim ond nawr dw i wedi dechrau credu yn fy hun a fy mhotensial. Dw i ddim yn meddwl y cymerais i fy ngyrfa ddigon o ddifrif ac nid oedd gen i gynllun mewn gwirionedd lle roeddwn i am fynd a beth roeddwn i’n dymuno ei gyflawni. Dw i’n llawer mwy sefydlog nawr ac yn teimlo’n bendant fy mod i’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Os ydw i’n credu y gallaf i ei wneud e, pam lai; gall y dyfodol wastad fod yn well na’r presennol ac mae gennym y pŵer i’w wneud felly!

Prif gyngor wrth geisio am swyddi?

Fy mhrif gyngor fyddai i aros mor amyneddgar â phosibl. Gall chwilio am swydd fod yn heriol a rhwystredig tu hwnt, ond mae’n rhaid i chi geisio cadw’ch canolbwyntio yn glir a bod yn frwdfrydig. Os ydych chi’n chwilio am swyddi fy mhrif gyngor fyddai i gadw’ch chwilio yn berthnasol i chi a’ch sgiliau, ac os ydych chi’n newid swyddi, anelwch at wneud hynny’n feddylgar er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd. Po fwyaf y gwyddoch y mwyaf o wahaniaeth y gallwch chi ei wneud, ac mae hi gymaint yn haws i symud ymlaen os ydych chi’n dal i adeiladu ar eich gwyboaeth a phrofiad. Y ffordd at lwyddiant yw i weithredu’n benderfynol, ac os ydych chi’n credu hyn, gallwch ei gyflawni!

Beth yw eich darn eithaf o gyngor?

Peidiwch â bod yn rhy ofnus i gymryd risgiau; byddwch yn cael siomedigaethau ac mae hynny i’w ddisgwyl a gellir dysgu o hynny. Peidiwch â gadael i un cais, cyfweliad neu brofiad gyrfa gwael eich atal yn eich ymchwil am symud ymlaen. Dw i’n meddwl ei bod hi’n wirioneddol bwysigI i deimlo cyffro am beth sydd o bosibl i ddod yn eich gyrfa a’ch bywyd! Byddwch yn uchelgeisiol ond hefyd ceisiwch sefydlu proses wedi ei diffinio’n dda i gyflawni eich nodau; adnabyddwch eich gwerth a chadwch eich awydd i lwyddo yn fwy na’ch ofn o fethu!

Mark yw ein Rheolwr Rhaglen Gyflogadwyedd yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Cysylltwch i weld sut y gall y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich cefnogi chi neu eich busnes: 01792 284450.