Connor

Daeth Connor i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol tra oedd yn astudio plymwaith amser llawn yn y coleg ac yn gweithio rhan-amser yn McDonalds. Roedd Connor yn chwilio am gefnogaeth i ddod o hyd i brentisiaeth blymwaith ac roedd am gefnogaeth benodol gyda theilwra ei CV i’w wneud yn benodol i’r diwydiant. Roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r math cywir o gyngor ac arweiniad, ac roedd yn gynyddol rwystredig a digalon, gan ddechrau colli gobaith o ddod o hyd i’r cyfle cychwynnol ond hollbwysig hwnnw.

Gyda chefnogaeth Hyfforddwr Gyrfa Jo ac Ymgynghorydd Recriwtio Dan, gweithiodd Connor ar wella cynnwys ei CV, a chafodd gefnogaeth hefyd wrth ysgrifennu cais am swydd. Gweithiodd Dan a Connor yn agos ar gais am brentisiaeth amser llawn yn y Cyngor a dechrau paratoi ar gyfer y broses ddethol a chyfweld drwy ymarfer cyfweliadau ffug rheolaidd a hyfforddiant unigol. Nid oedd Connor erioed wedi gorfod wynebu cymhlethdodau ymgeisio am swydd o’r blaen, ond roedd yn hynod ymatebol i’r holl gyngor ac arweiniad a dderbyniodd, gan feistroli’r broses yn gyflym iawn.

Wedi cwblhau ei gais am brentisiaeth, cafodd Connor ei wahodd i gyfweliad a gofynnwyd iddo gwblhau dau brawf mewn Mathemateg a Saesneg. Er gwaethaf y broses ymgeisio gymhleth, roedd Connor yn hollol benderfynol yn ei ymagwedd ac roedd yn llwyddiannus ym mhob cam. O golli pob gobaith a bron iawn gadael ei gwrs yn y coleg i lwyddo i gael Lefel 2 a chael prentisiaeth wych gyda rhagolygon gyrfa hir dymor, mae llwyddiant Connor yn dystiolaeth o’i uchelgais a’i ffocws di-ildio ar ei amcanion gyrfa.

“Mae gweithio gyda chi i gyd wedi fy helpu i gael y brentisiaeth roeddwn i ei heisiau ers dwy flynedd a fyddwn i ddim wedi gallu llwyddo yn y cais heb y cymorth a’r arweiniad a ges i. Cyn dechrau dod yma, roeddwn i’n dechrau teimlo’n ddiobaith iawn oherwydd roeddwn i’n ymgeisio am swyddi ond ddim yn llwyddo o gwbl, ond fe gadwoch chi o fi’n frwdfrydig gan fy annog i beidio â rhoi’r gorau i gael swydd fy mreuddwydion. Diolch” – Connor

Gyda chefnogaeth tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Connor wedi gwneud cynnydd gwych ac mae e bellach ar ei daith i yrfa newydd a chyffrous sy’n llawn posibiliadau.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Connor a’i gefnogi i gael ei brentisiaeth. Mae Connor wastad wedi dangos agwedd gadarnhaol at wella ei sgiliau a’i wybodaeth, a diolch i’w benderfyniad e, mae wedi llwyddo yn ei nod. Dw i’n dymuno pob lwc iddo yn y dyfodol ac edrychaf ymlaen at glywed am ei gynnydd parhaus .” – Dan, Ymgynghorydd Recriwtio