Theo

Dywedwch helo wrth yr hyfyrd Theo.

Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd Theo i fânwerthwr ffasiwn leol wrth geisio am dros flwyddyn i ennill prentisiaeth. Bach iawn o brofiad mewn gofal plant oedd gan Theo ac fe gafodd drafferth yn chwilio am gyfle addas i gychwyn ei daith gyrfa.

Daeth Theo i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ym mis Ionawr 2019. Derbyniodd help gan dîm GSGD i wella ei CV, gan ei deilwra’n benodol i’r sector gofal plant. Creodd Theo hefyd lythyr eglurhaol ac fe anfonodd y llythyr hwnnw at nifer o feithrinfeydd lleol yn yr ardal. Roedd Theo yn ei chael hi’n annodd i wneud unrhyw fath o gynnydd oherwydd roedd llawer o’r cyflogwyr yn teimlo bod ei oed, ei rhyw a’i ddiffyg profiad yn ffactorau pwysig roedd rhaid iddynt eu hystyried.

“Pan wnaethon ni gwrdd â Theo am y tro cyntaf, roedd e’n dawel ac yn swil ond yn benderfynol o weithio o fewn y sector gofal plant. Roedd yn helpu yn ystod amser chwarae yn yr ysgol ac yn hoff iawn o weithio â phlant iau.” – Lynsey, Hyfforddwr Gyrfa

Penderfynodd y tîm drefnu cyfnod gwaith prawf i Theo ym Meithrinfa Ddydd Abacus, er mwyn rhoi hwb hanfodol i’w sgiliau, ei brofiad a’i allu cyflogadwyedd.

Gwnaeth Theo argraff ragorol ar y staff, y rhieni a’r plant ac o fewn tair wythnos yn unig fe gynigiwyd brentisiaeth iddo gan Abacus.

 “Mae Theo yn ofalgar iawn ac yn berson hyfryd. Roedd y plant dwlu arno o’r cychwyn cyntaf. Mae’n gwneud yn wych ac mae’n braf i allu cynnig rolau i amrywiaethu ein gweithlu” – Beth, Perchennog

Mae Theo bellach yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl newydd ac rydym mor falch o’i ymrwymiad a’i angerdd i ddilyn ei freuddwyd o weithio â phlant ifanc. Mae e’n esiampl ardderchog i bobl ifanc ac mae ei stori yn amlinellu’r angen a’r pwysigrwydd o wella’r tangynrychiolaeth o ddynion sy’n gweithio yn y sector gofal plant.

“Dwi wedi bod wrth fy modd yn dod i adnabod a gweithio gyda’r holl blant, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a’u bod yn cael hwyl. Dwi ddim wedi bod yma am gyfnod hir, ond dwi byth wedi blino ac rwy’n caru fy swydd. Mae’n fy ngwneud yn hapus”– Theo