Saffron

Daeth Saffron i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cefnogaeth wrth ddod o hyd i brentisiaeth arlwyo ar ôl gorffen TGAU. Roedd Saffron hefyd yn awyddus i gael cyflogaeth ran-amser i barhau i ddatblygu ei sgiliau a’i hyder, cael profiad gwerthfawr a chefnogi ei hun mewn ffordd fwy annibynnol.

O’i chyfarfod cychwynnol â Hyfforddwr Gyrfa Rhian ac Ymgynghorydd Recriwtio Julie, dangosodd Saffron ymrwymiad cryf i lwyddo yn ei nodau. Roedd ganddi ffocws o ran ei hamcan i gael prentisiaeth arlwyo ond roedd hi hefyd yn agored ei meddwl ac yn awyddus i ymchwilio i opsiynau gwahanol eraill.

“Gwnaeth Julie fy annog i ddechrau meddwl am gyfleoedd gwahanol a allai fod yn addas i fy sgiliau, fy ngwybodaeth a’m profiad. Dechreuais deimlo fy mod i wedi fy ysbrydoli a bod gen i ysgogiad am y tro cyntaf mewn amser hir.”

Siaradodd Rhian a Julie â Saffron am yr amrywiaeth o gyfleoedd posib a allai fod ar agor iddi. Roedd Saffron wedi’i synnu pan wnaethant sôn am y posibilrwydd o brentisiaeth yn yr Awyrlu Brenhinol oherwydd nad oedd hi wedi ystyried yr opsiwn hwn o’r blaen ac roedd hi’n awyddus i ddysgu mwy. Ar y cyd â Julie, cwrddodd Saffron ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd o’r Awyrlu Brenhinol a chafodd ei hysbrydoli gan y posibilrwydd o wneud y brentisiaeth roedd hi’n dyheu amdani wrth hefyd deithio’r byd, gan roi cynnig ar rywbeth hollol newydd a bod yn hollol hunangynhaliol. Dechreuodd Saffron baratoi ar gyfer prawf addasrwydd yr Awyrlu Brenhinol, gan ddechrau canolbwyntio ar gael cyflogaeth ran-amser yn syth i roi’r profiad hanfodol a oedd ei angen arni i fod yn llwyddiannus yn ei chais am brentisiaeth, yn ogystal â’i galluogi i gefnogi ei hun yn fwy effeithiol yn y cyfamser.

Canolbwyntiodd Julie ar ddod o hyd i’r cyfle iawn i Saffron, a gyda’i gilydd, dechreuon nhw baratoi i gyflwyno cais am swydd wag ran-amser gyda delwriaeth beiciau modur leol. Roedd gan Saffron ddiddordeb mawr yn y swydd a threuliodd amser yn gweithio ar ei CV a’i chais, gan sicrhau ei bod hi’n pwysleisio ei sgiliau a’i phrofiad perthnasol.

Yn gyflym, cafodd Saffron gyfweliad gyda’r ddelwriaeth beiciau modur a chynigwyd cyfnod prawf iddi ar y diwrnod canlynol. Gwnaeth argraff dda iawn ar y cyflogwr yn syth gyda’i hetheg gwaith a’i brwdfrydedd a chynigwyd y swydd iddi’r diwrnod canlynol.

Mae Saffron yn ymgartrefu’n dda iawn yn ei swydd. Mae’n mwynhau ei chyfrifoldebau newydd ac mae’n dwlu ar yr ymdeimlad o ryddid ac annibyniaeth mae’r swydd wedi rhoi iddi. Gyda chefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Saffron bellach yn teimlo’n fwy hyderus, yn hapusach ac, yn bwysicach byth, yn fwy diogel yn ei gallu i gefnogi ei hun yn ariannol. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn gam cychwynnol hollbwysig tuag at ei nod hirdymor o fod yn brentis yn yr Awyrlu Brenhinol, ac mae’r tîm bellach yn gweithio ar gam nesaf y daith honno.

“Dw i mor ddiolchgar i Julie a gweddill tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am y cyngor a’r gefnogaeth maent wedi rhoi i mi. Mae cyfleoedd newydd wedi agor lan i fi o ganlyniad i ymgysylltu â’r prosiect a bellach mae gen i agwedd llawer yn fwy cadarnhaol am fy nyfodol. Dw i’n gyffrous am yr hyn sydd o’m blaen a byddwn i bendant yn argymell Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i unrhyw un sydd angen cyngor a chefnogaeth yrfa.”