Rob

Roedd Robert yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle astudiodd Lefel 3 Mecaneg Moduron cyn dod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Nid oedd Robert wedi cael gwaith cyflogedig hirdymor o’r blaen ac roedd yn gobeithio cael cymorth i gael hyd i’r cyfle cywir.

Dechreuodd Robert weithio gyda’r Hyfforddwr Gyrfa Dave i fagu hyder, yn benodol wrth gyfathrebu â gwahanol fathau o bobl mewn gwahanol amgylchiadau. Roedd Robert wedi cael trafferth gydag elfennau ymarferol ei gwrs yn y gweithle ac roedd am wella hyn er mwyn gwella ei gyfleoedd o gael gwaith cynaliadwy yn y dyfodol.

Gyda’i gilydd, dechreuodd Robert a Dave chwilio am waith, gan archwilio’r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael. Roedd Robert wedi canolbwyntio ar ddatblygu ei CV a phwysleisio ei sgiliau a’i brofiad gwerthfawr a enillodd yn ystod ei gyfnod yn astudio yn y Coleg.

“Roedd Robert yn rhagweithiol iawn ac yn dderbyniol i’r cymorth a gynigiwyd gan y rhaglen. Roedd e bob amser yn awyddus i ddysgu cymaint ag sy’n bosibl i wella ei sgiliau, ei wybodaeth a’i gyfleoedd yn y dyfodol. Roedd yn bleser gweithio gyda fe” – Dave

Roedd Robert wedi hoelio ei sylw ar gyrraedd ei nod derfynol sef dilyn prentisiaeth mewn Mecaneg Moduron, ond roedd yn awyddus iawn i gael gwaith ar unwaith i gefnogi ei hun yn ariannol ac i ehangu ei brofiad ymhellach. Roedd gwaith caled Robert wedi talu ar ei ganfed ac yn gyflym gwnaeth gynnydd trwy sicrhau contract rhan-amser gydag archfarchnad leol fawr. Roedd Robert wedi parhau i fynychu gweithdai cais a dangos ymrwymiad llwyr i’w hunan-welliant.

“Roeddwn i’n hapus gyda’m swydd newydd ond roeddwn i’n gwybod bod rhaid i fi barhau i feddwl am fy nod derfynol sef cael prentisiaeth. Roedd Dave wedi fy ysgogi i i ddal ati ac roedd e wedi gwneud i fi gredu y gallwn i gyrraedd fy nod yn y pen draw, ni waeth pa mor hir mae’n cymryd” – Robert

Roedd Robert wedi parhau i gydweithio’n agos â Dave ar geisiadau prentisiaeth ac yn fuan iawn wedyn dechreuodd gael cyfweliadau ag amrywiaeth o gyflogwyr oedd â diddordeb. Er mwyn paratoi’n effeithiol, roedd Robert wedi mynd i ddwy sesiwn cyfweliad ffug gyda Dave i fagu hyder a gwella ei allu i roi ymatebion tawel ac ystyriol mewn sefyllfaoedd cyfweld dan bwysau mawr.

“Roedd y cyfweliadau ffug wedi rhoi hyder i fi ac wedi fy helpu i deimlo’n barod ar gyfer yr her newydd. Roedd Dave yn wych o ran fy nhawelu ac roeddwn i’n teimlo’n fwy hyderus nag ydw i wedi bod ers sbel” – Robert

Yn fuan daeth Robert yn hyfedr wrth berffeithio ei dechnegau cyfweld, ac roedd ei gynnydd wedi sicrhau cynnig gwych iddo sef prentisiaeth Lefel 3 gyda Civil Motor Mechanics. Yn sicr, mae Robert yn fodel rôl i bobl ifanc eraill sy’n awyddus i ddechrau ar eu taith gyrfa. Yn dangos dyfalbarhad, agwedd gadarnhaol enghreifftiol a grym ewyllys go iawn, mae Robert wedi gweithio’n galed ar gyfer ei lwyddiant ac mae’n haeddiannol iawn.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y cymorth gan bawb yn GSGD. Dwi wedi mwynhau gweithio gyda Dave yn fawr iawn a dwi’n teimlo fel person gwahanol ar ôl cael ei help. Dwi’n credu yn fy mhotensial a’r hyn y galla i gyflawni, ac mae’r dyfodol yn ymddangos fel lle cyffrous nawr yn hytrach na lle dychrynllyd.” – Robert