Evan

Roedd Evan yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Astudiaethau Busnes pan ddaeth at Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am gefnogaeth.  Yn gweithio’n rhan-amser fel  aelod tîm blaen tŷ mewn tafarn leol, roedd Evan yn awyddus i wella ei sgiliau cyflogadwyedd er mwyn ei helpu i gyflawni ei nod eithaf o sicrhau prentisiaeth.

“Des i i Gwell Swydd, Gwell Dyfodol oherwydd bod angen help arna i yn benodol gyda fy nhechnegau cyfweliad. Roeddwn i wedi cael trafferth i gael cefnogaeth felly roedd yn rhyddhad i mi pan ddywedodd y tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol y gallen nhw fy helpu. Roeddwn i’n teimlo’n fwy cadarnhaol nac oeddwn i wedi gwneud ers tro byd” – Evan

Gweithiodd Evan gyda Hyfforddwyr Gyrfa Emma a David i ddechrau adeiladu ei hyder, yn enwedig ei allu i aros yn ddigyffro a meddwl yn rhesymegol mewn sefyllfaoedd cyfweliad pwysau uchel. Gyda’i gilydd, gweithion nhw trwy gwestiynau seiliedig ar gymhwyster a gwneud ffug gyfweliadau rheolaidd, gan helpu Evan i ddod i drefn senarios cyfweliad a pharatoi ac ymarfer ei ymatebion i ystod o gwestiynau. Er iddo fod yn nerfus a phryderus ar y dechrau, gwnaeth Evan gynnydd yn gyflym a gweithiodd yn galed i wella ei sgiliau.

“Roedd Evan yn wych ar ôl dim ond ychydig o gyfarfodydd; roedd e wedi ymlacio ac yn barod iawn i ddysgu mecanweithiau ymdopi i’w alluogi i berfformio cyfweliad llwyddiannus. Roedd hi’n ardderchog i weld Evan yn dechrau credu ynddo’i hun a’i allu i siarad yn gadarnhaol am ei sgiliau a phrofiad” – Emma

Cafodd parodrwydd Evan i ddysgu a’i waith caled cyson ei gydnabod yn gyflym pan gafodd gynnig dau gyfle prentisiaeth!  Gwnaeth Evan yn anhygoel o dda i dderbyn y ddau gynnig, a phenderfynodd mai’r rôl Prentisiaeth Gweithgynhyrchu gyda Dur Tata  oedd yr un y dymunai ddilyn. Roedd sicrhau’r cyfle hwn yn gamp enfawr fydd yn galluogi Evan i gymryd y camau cyntaf ar lwybr ei ddewis yrfa. Mae Evan wedi mynd trwy drawsnewidiad rhyfeddol ers dod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ac mae ei lwyddiant yn brawf o’r ffaith gyda gwir awydd am hunanwelliant, gallwch gyflawni eich nodau a gosod eich hun ar daith gyrfa gyffrous yn llawn o gyfleoedd.

“Rwyf mor ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Rwyf wedi cael cymaint o help gan Emma a David a theimlaf nawr fel person mor wahanol.Rwyf mor barod am y cyfle newydd yma ac alla i ddim aros am y dyfodol”– Evan