Beth yw’r cymorth a gynigir?
Darperir ein cymorth drwy ddulliau hyblyg, sy’n cydnabod gofynion unigol ac yn ymateb iddynt. Byddwch yn gweithio gyda Hyfforddwr Gyrfa penodol, a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyflogadwyedd y bydd wedi’i deilwra i gwrdd â’ch anghenion a’ch amcanion penodol chi. Byddwn yn gweithio gyda chi gam wrth gam i sicrhau’r cyfle perffaith ar eich cyfer ac yn eich cefnogi cyhyd ag y bo angen ar ôl ichi sicrhau swydd, er mwyn ichi wneud y mwyaf o’ch cyfle i symud ymlaen ymhellach o fewn eich swydd.
Mae rhaglen pob unigolyn yn unigryw ac wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion ac amcanion gwahanol. Mae’r gweithgareddau canlynol yn enghraifft o’r math o gefnogaeth a gynigir:
- hyfforddi a mentora un-i-un;
- cyflogadwyedd a sgiliau chwilio am swydd;
- cymorth recriwtio a pharatoi ar gyfer cyfweliadau;
- sgiliau ac ardystiadau sy’n benodol i’r swydd;
- archwilio cyfleoedd hyfforddi neu addysg.
Mae’ rhaglen hefyd yn gweithio’n uniongyrchol â chyflogwyr i greu a pharu unigolion gyda chyfleoedd gwaith.
Dechreuwch eich taith
Cefnogi unigolion i gael gafael ar gymorth ESOL
Dysgu mwy am REACH+
Ein cyfleodd…
Cysylltu
Cysylltwch â’r tîm dros y ffôn, anfonwch e-bost neu ewch i’n Hyb Cyflogaeth.
Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF
01792 284450
info@betterjobsbetterfutures.wales