Dan

Daeth Dan i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl gorffen yn y Coleg, wedi astudio Lefel 2 NVQ mewn Peirianneg Drydanol. Roedd Dan yn ddiwaith ar y pryd ac roedd yn ceisio sicrhau prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes. Wrth gael trafferth i gael hyd i’r gefnogaeth gywir i’w helpu i gyflawni ei nod, dechreuodd Dan weithio gyda’r Hyfforddwraig Gyrfa Lisa i drafod ei ddewisiadau a sefydlu ei lwybr unigol i mewn i gyflogaeth.

“Roedd hi’n glir o fy nghyfarfod cyntaf gyda Dan ei fod yn ddyn ifanc cyflogadwy iawn gyda rhai sgiliau gwych. Roeddwn i wedi fy nghyffroi i weld pa gyfleoedd y gallem sicrhau i helpu rhoi cychwyn i daith ei yrfa” – Lisa, Hyfforddwraig Gyrfa

Roedd Dan yn gwybod mai prentisiaeth mewn busnes oedd y llwybr cywir iddo ar ôl ennill profiad trwy leoliad gwaith yn Broomfield Alexander, y cwmni cyfrifeg annibynnol blaenllaw yng Nghymru. Gyda ffocws clir ar beth y dymunai gyflawni, gweithiodd Dan gyda Lisa i ddiweddaru ei CV, gan deilwra ei gynnwys i bwysleisio ei gyflawniadau perthnasol.

“Mae’r bobl yma yn wych ac yn ceisio cael y gorau allan ohonoch chi: dyna’u pwrpas cyfan a byddan nhw’n gwneud yr ymdrech fach ychwanegol” – Dan

Yn ogystal â gweithio ar ei CV, roedd Dan yn awyddus i adeiladu ei hyder mewn sefyllfaoedd cyfweliad. Dechreuodd Dan weithio gyda’r Ymgynghorydd Recriwtio, Dan Parvin, i ddysgu ac ymarfer technegau cyfweliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut i ymdrin â chwestiynau’n seiliedig ar gymhwysedd. Dangosodd Dan welliant enfawr pob tro yr ymgymerodd â ffug gyfweliad, gan baratoi’n fwy trwyadl, defnyddio atebion mwy soffistigedig a dangos hyder cynyddol a phroffesiynoldeb ar bob achlysur. Roedd agwedd gadarnhaol Dan yn rhagorol ac roedd yn awyddus i ddysgu cymaint â phosibl i wella ei gyfleoedd i lwyddo.

“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Dan gan ei fod yn ddyn ifanc dymunol, cadarnhaol sy’n gweithio’n galed a chanddo botensial enfawr. Cymerodd Dan yr holl gyngor a roddwyd iddo a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn ased i unrhyw gyflogwr” – Dan Parvin, Ymgynghorydd Recriwtio

O fewn wythnos o dderbyn cefnogaeth, a chyda cyfarwyddyd gan aelodau eraill tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, gwnaeth Dan gynnydd arwyddocaol a llwyddodd i sicrhau cyfweliad gyda Kaymac Marine & Civil Engineering LTD. Roedd hyn yn gyfle ardderchog, gan roi’r cyfle i Dan sicrhau rôl marchnata a gweinyddu yn y cwmni, tra’n ei alluogi hefyd i gwblhau ei brentisiaeth gweinyddu busnes.

Gan weithredu’r holl sgiliau cyflogadwyedd a enillodd a’r technegau a ddysgodd, perfformiodd Dan yn eithriadol o dda yn y cyfweliad a gwnaeth argraff ar y cyflogwr. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cynigiwyd y swydd i Dan ac roedd wrth ei fodd.

“Dw i mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodl. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yr holl gymorth dw i wedi cael o fudd i mi am weddill fy nyfodol a dw i’n edrych ymlaen at y bennod nesaf a heriau newydd” – Dan

Mae Dan wedi gwneud yn aruthrol o dda yn y cyfnod byr mae e wedi bod yn gweithio gyda’r rhaglen ac yn awr mae e wedi cymryd y camau cyntaf tuag at beth sy’n mynd i fod heb os yn yrfa lwyddiannus iawn a dyfodol cadarnhaol.

“Mae’r tîm cyfan yn falch iawn o Dan a’r llwyddiant a gyflawnodd e. Rydym yn hapus iawn I fod yn parhau I gefnogi Dan ar daith ei yrfa ymlaen, a dymunwn y gorau iddi ar gyfer y dyfodol” – Dan Parvin, Ymgynghorydd Recriwtio