Zoe Williams
“Gallwch chi ond rheoli’r hyn sy’n rheoladwy”
Eisteddon ni lawr gydag un o’n Hymgynghorwyr Gweithlu, Zoe, i drafod sut y gellir mesur eich llwyddiant drwy fesur cryfder eich uchelgais. A’r canlyniad? Stori yrfa bwerus i’n hatgoffa ein bod ni’r hyn yr ydym yn dewis ei fod ac y gellir gwireddu ein gobeithion a’n breuddwydion os oes gennym ddigon o ddewrder i’w dilyn.
Wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu uwch?
Astudiais Safon Uwch yn yr ysgol ond ches i ddim o’r radd roeddwn ei hangen mewn Daearyddiaeth felly es i’n ôl i’r Coleg i ailsefyll fy arholiadau. Yn fy ysgol i, cafodd pawb eu hannog i fynd i’r brifysgol ond roedd fy nheulu am i fi gael swydd iawn a dechrau ennill arian. Roeddwn i’n argyhoeddedig y byddwn i’n mynd mewn i’r Heddlu neu’r Awyrlu Brenhinol oherwydd roeddwn i wedi bod yn y Cadetiaid Awyr ers dros 7 mlynedd a’m breuddwyd mawr oedd bod yn beilot awyren ymladd. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn ddigon tal ac roedd fy niffyg taldra, wedi’i gyfuno â’r ffaith yr oeddwn i wedi darganfod bywyd cymdeithasol, yn golygu nad oedd gweithio sifftiau a’r math o fywyd sy’n dod gyda gyrfa mor ddwys yn gweithio i fi. Wedi gwneud y penderfyniad, ac yn erbyn yr hyn roedd fy nheulu eisiau, ymgeisiais i wneud BSc mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fy adeg yn y brifysgol oedd un o amserau gorau fy mywyd ac roeddwn i’n dwlu ar yr annibyniaeth, y rhyddid a’r hwyl a ddaeth yn rhan ohono. Y dyddiau hyn, nid yw pobl ifanc yn cael eu hannog i fynd i’r brifysgol ond allwn i ddim ei argymell ddigon oherwydd datblygais i gynifer o sgiliau bywyd sydd wedi helpu i greu’r unigolyn ydw i heddiw.
Beth ddigwyddodd i’ch gyrfa ar ôl addysg?
Ar ôl y brifysgol, gweithiais mewn canolfan alwadau a oedd yn gwerthu diweddariadau i ffonau symudol – nid dyma oedd y rôl fwyaf cyffrous ond mwynheais yn fawr iawn achos fy mod i’n dwlu ar siarad â phobl! Datblygodd fy sgiliau rhyngbersonol yn fawr iawn yn y rôl hon a magais lawer o hyder o’m llwyddiant. Fodd bynnag, sylweddolais yn gyflym nad oedd gweithio mewn canolfan alwadau yn addas i fi. Roeddwn i’n gweld eisiau’r cyswllt wyneb yn wyneb â phobl a doeddwn i ddim yn gallu gweld llwybr datblygu gyrfa clir i fi. O ganlyniad, symudais i’n ôl i’m tref gartref yng Nghaint lle awgrymodd ffrind y dylwn i ddechrau chwilio am gyfleoedd ym maes recriwtio. Ymchwiliais i ychydig i’r mathau o rolau a fyddai fwyaf cyfleus i’m sgiliau i ac ymgeisiais am sawl swydd Ymgynghorydd Recriwtio. Llwyddais gael cyfweliad gyda Badenoch & Clark yn Llundain mewn proses gyfweliad hynod drwyadl gyda phedwar cam. Roedd hyn yn gromlin dysg serth iawn i mi o ran y lefel o baratoi a oedd angen ei gwneud ond gwnes i’n siŵr yr oeddwn i’n drylwyr, gan roi’r cyfle gorau posib i fi fy hun. Roeddwn yn ddigon ffocws i gael y swydd ac roeddwn i’n dwlu ar bob munud ohoni gan ei bod yn cyfuno gwerthu dros y ffôn â mynd allan a chwrdd â phobl a siarad â nhw wyneb yn wyneb, yn enwedig cwmnïau cyfreithiol a oedd yn chwilio am unigolion dros dro. Ymfalchïais yn fawr yn y swydd a ches i foddhad mawr wrth helpu pobl i gael swydd a datblygu’n broffesiynol yn y swydd honno, ond roeddwn i hefyd yn mwynhau gweithio’n agos gyda busnesau yn fawr iawn, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o sut oeddent yn gweithredu. Penderfynais yn gyflym mai recriwtio oedd y llwybr gyrfa yr oeddwn i am ei ddilyn, a dyma le ddechreuodd fy nhaith yrfa o ddifri!
Sut mae eich taith yrfa wedi datblygu?
Treuliais 12 mlynedd yn gweithio i asiantaeth annibynnol a ryngwladol fach, ond gwnaeth gweithio ym maes recriwtio yn ystod dirwasgiad wedi gwneud i fi sylweddoli nad oedd natur ddwys fy mywyd gwaith yn gynaliadwy. Roeddwn i’n dyheu am gydbwysedd gwaith/bywyd personol gwell a gwnes i’n union yr hyn roeddwn i’n dweud wrth fy nghleientiaid i beidio â gwneud, sef rhoi rhybudd heb swydd arall i fynd ati. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn risg ond roedd yn rhaid i fi afael yn y cyfle a manteisio ar y newid oherwydd roeddwn i am fuddsoddi yn fy mywyd cartref cymaint â phosib. Symudais fy ngŵr a minnau’n ôl i Abertawe a ches i swydd gyda TBG Learning. Daeth y rôl hon gyda thoriad tâl sylweddol ond fe ges i rywbeth nad oedd arian yn gallu prynu, sef y cydbwysedd gwaith/bywyd personol yr oeddwn i’n dyheu amdano. Yn y rôl hon, roedd dal gennyf y cyfle i helpu pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy, a‘r hyn na ches i gan y rôl hon yn ariannol ces i ar ffurf boddhad swydd. Arhosais yn TGB am 4 blynedd ond o ganlyniad i gytundeb yn dod i ben, roeddwn i mewn perygl o ddiswyddiad felly dechreuais i swydd yn Chwarae Teg fel Partner Cyfranogi. Agorodd y rôl hon fy llygaid i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle a sut y gallai busnes greu mwy o elw a bod yn fwy cynhyrchiol, a gwella ymrwymiad ei weithwyr o ganlyniad, drwy fabwysiadu egwyddorion syml. Dim ond blwyddyn oedd hyd fy nghytundeb felly ymgeisiais am y rôl Ymgynghorydd Gweithlu yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd yn gyffrous iawn i fi gael y cyfle oherwydd mae’r rôl hon yn cwmpasu popeth yr oeddwn i wedi’i wneud yn flaenorol a mwy. Bellach, dw i’n gweithio gyda busnesau ar sail fwy ymgynghorol fel rhan o dîm gwych a gallwn i ddim bod yn hapusach.
Oes yna un peth y byddech chi wedi eisiau gwybod pan oeddech chi’n ieuengach?
Pan fyddwch yn ifanc, mae llawer o bwysau arnoch i wybod pa lwybr gyrfa dylech ei ddilyn a sut dylai’ch bywyd edrych, ond doeddwn i byth yn gwybod ac mae hynny’n hollol iawn! Byddwn i wedi eisiau gwybod bod angen ymddiried ym mywyd a’m taith llawer yn gynt oherwydd unwaith y cymerais gam yn ôl, roedd yn ymddangos bod popeth yn fy mywyd yn symud yn y cyfeiriad fel yr oeddwn wedi gobeithio! Fy nghyngor i i unigolyn ifanc fyddai byddwch yn uchelgeisiol ond peidiwch â gorestyn eich hun oherwydd weithiau amynedd a dyfalbarhad yw’r unig bethau sydd eu hangen er mwyn gwireddu eich nodau. Mae bywyd yn gymhleth, mae pethau’n newid, a byddwch yn wynebu heriau ond daliwch ati i ganolbwyntio ac ewch â’r llif gymaint â phosib – yn y diwedd, bydd popeth yn iawn ac, os na fydd, nid dyna’r diwedd!
Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu dyfaru?
Na, dim o gwbl. Galla i ddweud yn onest fy mod i wedi dwlu ar bob swydd dw i wedi ei chael. Wrth gwrs, mae ‘na adegau pan fyddwch yn teimlo bod popeth yn mynd o’i le ond dw i’n credu’n gryf mai chi yw meistr ar eich tynged eich hun ac fe gewch chi’n ôl yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn. Mae’n hanfodol cofio y gallwch chi ond rheoli’r hyn sy’n rheoladwy a cheisiwch beidio â phoeni’n ormodol os aiff pethau o’u lle – mae’n normal! All bywyd ddim bod yn berffaith drwy’r amser felly ceisiwch i aros yn synhwyrol, a pheidiwch byth â bod ofn gofyn am gymorth. Dw i bob amser wedi bod yn agored ac yn onest gyda’m cydweithwyr a dw i’n ffodus iawn i wedi bod ymhlith pobl mor gadarnhaol a thosturiol eu hymagwedd. Weithiau, dydych chi ddim hyd yn oed yn sylweddoli cymaint o gefnogaeth sydd o’ch cwmpas felly siaradwch â phobl, agorwch lan i weld beth all ddigwydd.
Eich amgrwm pwysicaf wrth ymgeisio am swyddi?
Fy awgrym mwyaf heb os fyddai sicrhau eich bod yn teilwra’ch CV/eich cais i’r rôl rydych chi’n ymgeisio amdani. Sicrhewch eich bod bob amser yn gallu ymateb i’r meini prawf hanfodol a’ch bod chi’n gallu cyfiawnhau’n llwyr pam rydych chi’n addas am y swydd. Weithiau, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am swydd hyd yn oed pan fyddwch chi ond yn gallu cynnig 75% o’r hyn mae ei angen. Cyhyd â’ch bod yn gallu cyfiawnhau pam rydychi’n credu eich bod yn addas, mae siawns da y bydd pobl yn sylwi ar eich cais. Fy amgrwm arall fyddai paratoi’n drylwyr ar gyfer unrhyw gyfleoedd am gyfweliad – gwnewch yr ymchwil a meddyliwch am y mathau o gwestiynau y byddant yn eu gofyn drwy ystyried y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person. Os ydych chi’n mynd yn nerfus, peidiwch â phoeni. Mae pawb yn mynd yn nerfus! Does dim modd peidio â bod ond peidiwch â gadael iddo eich trechu. Os ydych chi’n paratoi’n ddigonol ac yn ymarfer yr atebion rydych chi am eu rhoi, byddwch yn gallu bod yn siŵr o berfformio gorau y gallwch, gan roi’r siawns gorau i chi’ch hun i lwyddo. Byddwch yn hyderus ac yn lle poeni am yr hyn a allai fynd o’i le, meddyliwch am bopeth a allai fynd yn dda!
Beth fyddai’ch darn o gyngor euraidd?
Dysgwch o bob profiad. Ym maes recriwtio, dysgais i amrywiaeth o sgiliau hanfodol, o gyfathrebu i ymwneud â thrafodaethau, a dysgais werth bod yn benderfynol ac yn ddyfalbarhaus mewn amgylchedd cystadleuol â phwysau uchel. Yn edrych yn ôl nawr, dw i’n gwerthfawrogi faint a ddysgais o’m profiadau a sut mae’r sgiliau a ddysgais ar hyd y ffordd wedi fy arwain i le rydw i heddiw. Mae fy amser yn gweithio ym maes recriwtio hefyd wedi fy nysgu i beidio â rhoi’r gorau iddi ac nad yw methiant byth yn opsiwn. Rhai o fisoedd anoddaf fy mywyd oedd y chwe mis olaf yn recriwtio a dw i’n dyfaru peidio â bod yn ddigon dewr i adael yn gynharach. Mae’n hawdd dweud y pethau hyn yn edrych yn ôl ond byddwn i’n annog pobl i beidio â meddwl ‘ond beth allai wedi digwydd’ a dechrau penderfynu ar sail yr hyn sy’n teimlo’n iawn ar y pryd. Does neb yn gwybod yn well na chi, felly ymddiriedwch yn eich hun a gwnewch y penderfyniadau sy’n eich gwneud yn hapus. Cyfres o ddewisiadau yw bywyd, ac rydym yn dewis pwy rydym ni am fod.
Zoe yw un o’n Hymgynghorwyr Gweithlu yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae ein Hymgynghorwyr yn gweithio gyda busnesau i wella recriwtio, cadw staff a rheoli dawn er mwyn mwyafu potensial eu gweithlu. Cysylltwch i weld yr hyn gallem ni ei wneud i chi: 01792 284450.