Beth yw GSGD i Fusnesau?
Rydym yn darparu cymorth cyflogadwyedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar y cyd ag ystod eang o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Fel rhan o’r berthynas hon, mae tîm GSGD yn cynnig cymorth i fusnesau sy’n dymuno ehangu a datblygu eu gweithle presennol, gyda’r nod o recriwtio a datblygu staff o ardal Abertawe.
Cymerwch gip ar beth sydd gan fusnesau i’w dweud am y cymorth rydym yn ei gynnig
Diddordeb?
Rydym hefyd yn cynnig mynediad i ystod eang o wasanaethau eraill ar draws y coleg:
Mae capsiynau caeedig ar gael hefyd. Ewch i’n sianel YouTube i wylio rhagor o fideos.
Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwr i greu lleoliadau gwaith newydd am chwe mis i bobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir o amser.
I bob lleoliad gwaith, mi fydd y cyllid yn talu am:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 25 awr yr wythnos
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr cysylltiedig
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr
Bydd cyllid ychwanegol (hyd at £1500) hefyd ar gael i dalu am gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefydlu, cefnogi a hyfforddiant, er mwyn ceisio helpu unigolion i symud i gyflogaeth barhaus ar ôl iddynt gwblhau eu swydd a ariennir gan y Cynllun Kickstart.
Diddordeb?
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â ni:
Cysylltu
Cysylltwch â’r tîm dros y ffôn, anfonwch e-bost neu ewch i’n Hyb Cyflogaeth.
Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF
01792 284450
info@betterjobsbetterfutures.wales