Rebecca
Roedd Rebecca yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn astudio cyrsiau Safon Uwch ochr yn ochr â chwrs AAT Lefel 3 pan ddaeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gyda’r nod o fod yn Gyfrifydd yn y dyfodol. Roedd Rebecca eisoes wedi gweithio fel gweinyddes mewn gwesty lleol, ond, roedd hi wedi ei chael yn anodd cael hyd i gymorth i wella’r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen i ddilyn yr yrfa o’i dewis.
Gwnaeth Rebecca gais i ymuno ag ‘Academi’r Dyfodol’ yn y Coleg: rhaglen sy’n ceisio datblygu llwybr cyflogaeth unigol i fyfyrwyr sydd am symud ymlaen yn syth i gyflogaeth neu brentisiaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Safon Uwch. Rhoddwyd gwybodaeth i’r myfyrwyr am y farchnad lafur gyfredol a’r farchnad lafur yn y dyfodol, a gwahanol lwybrau cyflogaeth, gyda chyfraniadau gan siaradwyr gwadd a chyflogwyr blaenllaw. Trwy amrywiaeth o weithgareddau grŵp ac un-i-un cawsant gymorth hefyd i ddrafftio CVs a cheisiadau am swyddi, ac i baratoi ar gyfer cyfweliadau, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o fyd gwaith.
Roedd Rebecca yn awyddus i ddefnyddio ei hamser yn yr Academi i fagu hyder wrth gyfathrebu’n effeithiol ac yn broffesiynol â phobl mewn cyfweliad ac i gael cymorth i wneud cais am swyddi gan gynnwys ceisiadau mwy cymhleth. Fe wnaeth Rebecca weithio gyda’r Hyfforddwyr Gyrfa Emma a David i gael y cymorth oedd ei angen arni, gan fynychu dros wyth awr o hyfforddiant dwys, oedd yn cynnwys creu a diweddaru ei CV, cwblhau amrywiaeth o geisiadau, perffeithio ei llythyr eglurhaol a gwella ei thechnegau cyfweliad.
“Roeddwn i’n llawn cyffro ynghylch ymuno â’r academi oherwydd roedd yn cynnig yr holl gymorth roeddwn i’n chwilio amdano. Roeddwn i’n gwybod y gallai Emma a David fy helpu i gyrraedd y cam nesaf yn fy ngyrfa a dwi mor ddiolchgar am eu holl help a chyngor” – Rebecca
Cafodd rhinweddau Rebecca eu cydnabod yn gyflym gan amrywiol gyflogwyr lleol ac fe wnaeth hi’n dda iawn i gael cyfweliadau gyda dau gwmni mawr lleol. Er mwyn paratoi’n llwyddiannus ar gyfer ei chyfweliadau, roedd Rebecca wedi treulio llawer o amser yn ymarfer cwestiynau ac atebion gydag Emma a David, gan wella ei hyder a’i gallu mewn sefyllfaoedd cyfweld.
“Roedd yn amlwg o’r diwrnod cyntaf y byddai Rebecca yn ymgeisydd poblogaidd. Mae gyda hi’r holl rinweddau y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw mewn gweithiwr ac roeddwn i wrth fy modd yn ei helpu hi i gymryd y camau hanfodol cyntaf ar ei thaith gyrfa” – Emma
Roedd Rebecca wedi perfformio’n eithriadol o dda yn ei dau gyfweliad ac o ganlyniad, cynigiwyd cyfleoedd iddi gyda’r ddau gyflogwr. Ar ôl pwyso a mesur ei dewisiadau, dewisodd Rebecca dderbyn cynnig gan Morgan Hemp Accountants.
Mae llwyddiant Rebecca yn dyst i’w hagwedd benderfynol a’i hethig gwaith gwych, ac mae hi’n esiampl wych i bobl ifanc eraill sy’n cymryd y camau hanfodol cyntaf ar y llwybrau gyrfa o’u dewis.
“Alla i ddim credu fy mod i wedi cael cynigion gan y ddau gyflogwr ac roedd hyn wedi gwneud i fi deimlo mor bositif. Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud mor dda heb gymorth y rhaglen GSGD. Roedd y rhaglen wedi caniatáu i mi bontio rhwng coleg a chyflogaeth mor rhwydd. Alla i ddim aros i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig a dwi’n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn fy ngyrfa!” – Rebecca