Tracey
Roedd Tracey Campbell wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis pan gafodd y cymorth sydd ar gael yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hi’n dioddef o ddiffyg hyder ac yn ei chael hi’n anodd gweld ei hun yn dychwelyd i’w gyrfa yn y sector gofal.
Dechreuodd Tracey weithio gyda’r Hyfforddwr Gyrfa Bev er mwyn dod o hyd i gyfeiriad newydd; buont yn gweithio gyda’i gilydd i ddiweddaru a gwella ei CV, yn y lle cyntaf gyda’r bwriad o newid sectorau’n gyfan gwbl. Fodd bynnag, yn ystod y broses hon sylweddolodd Tracey mai gwaith gofal oedd ei gwir angerdd a, pe gallai hi ddod o hyd i’r cyflogwr cywir, byddai’n hoffi dychwelyd i rôl debyg yn y sector. Roedd Bev a Tracey wedi canolbwyntio ar fapio llwybr unigol newydd i gyflogaeth a oedd yn cynnwys holl sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau blaenorol Tracey. Roedd Bev yn benderfynol o bwysleisio popeth a oedd gan Tracey i’w cynnig.
“Mae wynebu’r posibilrwydd o gael swydd hollol newydd mewn ardal hollol anghyfarwydd yn gallu bod braidd yn frawychus, yn enwedig ar adeg pan fydd dim llawer o hyder gyda chi. Roeddwn i’n awyddus iawn i gefnogi Tracey a sicrhau ein bod ni wedi cael hyd i’r rôl iawn oedd yn addas i’w sgiliau a’i hanghenion”– Bev
Gyda chymorth Bev, roedd Tracey wedi cwblhau cais am gartref gofal yn Llanelli a oedd yn chwilio am gynorthwywyr gofal amser llawn. Roedd profiad blaenorol Tracey wedi’i gwneud hi’n ymgeisydd delfrydol ac fe’i gwahoddwyd yn gyflym am gyfweliad.
“Roedd hi mor wych cael cymorth y tîm cyfan yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae pawb wedi bod mor gymwynasgar i fi ym mhob ffordd bosibl. Roeddwn i’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy ngheisiadau a dechreuais i gredu ynddo fi fy hun a’m galluoedd” – Tracey
Roedd Tracey wedi creu argraff ar y cyflogwr yn syth; roedd ei gwir angerdd am y rôl a’i hagwedd gynnes a chyfeillgar, ynghyd â’i phrofiad helaeth, yn golygu mai hi oedd yn union y math o ymgeisydd roedden nhw’n chwilio amdano. Cafodd gwaith caled Tracey ei wobrwyo a chafodd hi gynnig rôl amser llawn yn syth.
“Bellach, mae gen i swydd wych dwi’n ei hoffi’n fawr iawn ac alla i ddim diolch i bawb ddigon! Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i fi a dwi mor ddiolchgar i bawb yn GSGD” – Tracey
Yn dilyn ei llwyddiant wrth ddod o hyd i waith, roedd Bev wedi parhau i helpu Tracey i gael ei thystysgrif DBS i’w galluogi i gyflawni ei rôl newydd. Trwy gymorth a mentora un-i-un, mae Tracey wedi goresgyn nifer o rwystrau er mwyn canfod ei ffordd yn ôl i’r gwaith. Mae Tracey wedi profi, os ydych yn ymrwymo i’ch nodau a’ch diddordebau, yn sicr, gall arwain at y canlyniad perffaith.
“Pan fydd rhywun yn dod o hyd i’w swydd berffaith, mae eu hwynebau’n goleuo eto, a dwi’n sicr y gwelais i hynny yn Tracey. Dwi mor falch fy mod i’n gallu bod yn rhan o’r broses a dwi’n edrych ymlaen at glywed popeth am ei chynnydd yn y dyfodol.” – Bev