Mirleen

Ganwyd Mirleen yn Affganistan lle cafodd ei magu. Daeth hi a’i theulu i Brydain yn 2016 yn ffoaduriaid. Roedd hwn yn amser brawychus ac ofnus iawn i Mirleen wrth iddi gychwyn ar ei thaith tuag at fywyd newydd mewn gwlad estron ag iddi iaith a diwylliant anghyfarwydd. Mae Mirleen wedi datblygu’n fenyw ifanc drawiadol sydd wedi dangos dyfalbarhad, penderfyniad ac awydd i ddysgu er gwaethaf wynebu cynifer o heriau. Mae Mirleen wedi gorfod goresgyn rhwystrau iaith sylweddol, heb fod ag unrhyw gymwysterau ffurfiol a dioddef o ddiffyg hyder. Wrth gyrraedd yng Nghymru, roedd hi wrth reswm yn ofnus y byddai’r dyfodol yn un tywyll, heb unrhyw opsiynau gyrfa realistig. Er iddi wynebu llawer o rwystrau, mae ymroddiad Mirleen i hunanwella wedi ei galluogi i gyflawni ei hamcanion gyrfa a llawer mwy. Wrth gymryd ymagwedd ymarferol i ddysgu a hunanddatblygu, mae Mirleen yn enghraifft berffaith o’r hyn sydd ei angen i lwyddo, beth bynnag y bo’ch cefndir neu’ch rhwystrau. Mae gan Mirleen frwdfrydedd heintus dros fywyd ac mae ei hagwedd sydd bob amser yn gadarnhaol yn ysbrydoliaeth i unrhyw un mewn sefyllfa debyg.

Wedi cyrraedd yn y DU, roedd Mirleen yn awyddus i ddod i ddeall ei gwlad a’i diwylliant newydd ac felly cofrestrodd ar gwrs ESOL yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddechrau dysgu Saesneg. Roedd Mirleen yn llawn egni ac yn ysu am fyw a dysgu, ac roedd yn hollol ymroddedig i hunanddatblygu yn ystod ei hamser ar y cwrs ESOL, gan symud ymlaen yn gyflym i Lefel 3, er gwaethaf ei man dechrau isel. Roedd yn rhagori ar ddysgu’r iaith. Roedd tiwtoriaid Mirleen yn rhyfeddu ar ei brwdfrydedd i amsugno cymaint o wybodaeth â phosib cyn gynted â phosib. Daeth Mirleen yn fyfyriwr delfrydol yn gyflym iawn: roedd hi’n awyddus i barhau i symud ymlaen a dangosodd ddiddordeb yn cael cyflogaeth. O ganlyniad, atgyfeiriwyd Mirleen at y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, gan gwrdd ag un o Hyfforddwyr Gyrfa y Coleg, David, a gefnogodd hi i osod nodau tuag at gael cyflogaeth ystyrlon. Gyda chefnogaeth David, uchelgais Mirleen oedd cael prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes. Byddai hynny’n ei galluogi i gael cymhwyster Lefel 2 wrth hefyd gael profiad o amgylchedd gweinyddu.

Gweithiodd Mirleen yn rhagweithiol gydag un o’n Hymgynghorwyr Recriwtio, Julie, ac ar y cyd, lluniwyd cynllun gweithredu ganddynt er mwyn i Mirleen allu deall ei llwybr personol tuag at gyflogaeth, yn benodol drwy ymchwilio i’r cyfleoedd prentisiaeth perthnasol a oedd ar gael iddi. Er gwaethaf bod yn aflwyddiannus mewn cyfweliadau i ddechrau, arhosodd Mirleen yn benderfynol o chwilio am waith, gan barhau i fod yn ymroddedig i weithio gyda David a Julie i wella ei sgiliau cyfweliad a dod o hyd i’r rôl iawn iddi hi. Wrth barhau â’i chwiliad am swydd, gwirfoddolodd Mirleen yn ddyddiol mewn bwyty lleol er mwyn parhau i wella ei hiaith ac ehangu ei phrofiad. Nid oes terfyn i uchelgais Mirleen ac nid yw hi byth yn hunanfodlon: mae’n gwneud popeth y gall i sicrhau ei bod hi’n parhau i wella ac yn symud yn agosach i le yr hoffai fod.

Yn ystod ei hamser gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Mirleen wedi gweithio’n eithriadol o galed ar bob tasg a roddwyd iddi. Mae ei manylder wedi bod yn edmygadwy ac yn wir adlewyrchiad o’i hewyllys i lwyddo yn ei nodau gyrfa. Cyn ymuno â’r rhaglen, roedd gan Mirleen ddiffyg hunangred o ganlyniad i gael ei gwrthod yn y gorffennol, ac felly un o’r meysydd lle roedd angen gwella oedd technegau ar gyfer cyfweliad. Gweithiodd Mirleen yn agos gyda Julie i wella ei thechneg mewn cyfweliadau, gan wrando’n astud ar yr adborth i’w helpu i wella. Er gwaethaf bod yn nerfus ac yn ansicr, nid yw Mirleen erioed wedi rhoi’r gorau iddi ac mae bob amser wedi’i gwthio ei hun.

Yn y diwedd, talodd gwaith caled a dyfalbarhad Mirleen ar eu canfed pan gafodd cynnig cyfweliad gydag asiantaeth eiddo yng nghanol Abertawe. Creodd Mirleen argraff dda ar y cyflogwr yn syth a chynigiwyd y swydd iddi ar yr un diwrnod. Bydd bellach yn cychwyn ei phrentisiaeth mewn cydweithrediad â Choleg Gŵyr Abertawe ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i’r fenyw ifanc hon nad oedd ddim yn gallu siarad gair o Saesneg ac nad oedd ganddi unrhyw gymwysterau neu nodau gyrfa ddwy flynedd yn ôl. Roedd pob elfen o fywyd beunyddiol yn her i Mirleen ond mae’r trawsnewid yn ei hagwedd, ei byd-olwg a’i rhagolygon ar gyfer y dyfodol wedi bod yn eithriadol ac yn ysbrydoliaeth i ffoaduriaid sy’n wynebu heriau tebyg.

Mae holl dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn parchu Mirleen yn fawr iawn oherwydd ei bod bob amser yn gwrtais, yn gyfeillgar ac yn fawr ei chalon tuag at bawb mae hi’n cwrdd â nhw. Mae ei thiwtoriaid ESOL yn ei chanmol am ei hagwedd at ddysgu, heb fod unrhyw rwystr neu broblem yn rhy fawr iddi eu goresgyn. Mae Mirleen wedi dangos cymhelliant ac ymrwymiad gwych i hunanwella, cryfhau sgiliau a gwella ei bywyd, beth bynnag y bo’r siom y mae wedi ei brofi. Yn wên i gyd bob amser, mae trawsnewidiad Mirleen yn dystiolaeth i’r ffaith y gallwch oresgyn yr heriau mwyaf gyda gwaith caled, dyfalbarhad a gwir brwdfrydedd am ddysgu a hunanwella, beth bynnag y bo’r rhwystrau rydych yn eu hwynebu.

Yng ngeiriau Mirleen

Mae gweithio gyda Choleg Gŵyr a’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi newid fy mywyd. Cyn symud i’r DU, doeddwn i ddim yn gallu siarad unrhyw Saesneg. Bellach, dw i’n gallu siarad Saesneg yn dda a dw i newydd gael prentisiaeth mewn gweinyddu busnes sy’n fy ngwneud yn hapus iawn. Doeddwn i methu â chredu y gallwn i fod wedi gwneud mor dda â hyn a chyda help Julie, dw i wedi llwyddo yn fy nod. Mae fy nheulu’n falch iawn ohonof i a bellach galla i eu helpu’n fwy gyda fy swydd gyntaf â thâl. Dwi’n teimlo ffodus dros ben i gael pobl mor gyfeillgar i’m helpu a dw i’n gyffrous am y dyfodol.