Georgia 

Roedd Georgia yn fyfyrwraig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn astudio lefel A pan gofrestrodd ar ‘Academi’r Dyfodol’: rhaglen bwrpasol wedi’i chynllunio i ddatblygu llwybrau cyflogaeth unigol i fyfyrwyr sy’n ceisio symud ymlaen yn syth i gyflogaeth neu brentisiaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau lefel A. Roedd Georgia yn gwybod nad y brifysgol oedd y llwybr cywir ar ei chyfer hi, ac roedd eisiau ennill profiad o weithio yn y sector TG er mwyn iddi allu dechrau mireinio ei sgiliau a meithrin ei gyrfa.

Roeddwn wedi cyffroi o gael ymuno â’r academi ac roeddwn i’n teimlo y gallai’r tîm fy nghefnogi wrth gyflawni fy nodau gyrfaol. Roeddent yn gwneud i mi deimlo fod y dewisiadau yr oeddwn yn eu gwneud yn rhai cywir, a rhoddodd hyn hwb anferth i fy hyder” – Georgia

Gweithiodd Georgia yn agos gyda’r Hyfforddwr Gyrfaoedd Emma, a gyda’i gilydd penderfynwyd mai’r dewis gorau fyddai ceisio prentisiaethau TG gan y byddai’n rhoi’r holl sgiliau angenrheidiol i Georgia i symud ymlaen a datblygu o fewn y diwydiant. Defnyddiodd Georgia ei hamser yn yr academi i gael cefnogaeth wrth lunio CV a’i thechnegau ysgrifennu cais, gwella ei gallu i bwysleisio ei sgiliau a phrofiad perthnasol. Gyda’r gefnogaeth gywir, tyfodd hyder Georgia a gwnaeth gynnydd gwych.

Mae wedi bod yn bleser mawr cefnogi Georgia. Bob amser â gwen fawr ar ei hwyneb ac agwedd gadarnhaol wych, roeddwn i’n gwybod mai dim ond mater o amser fyddai hi cyn i ni ganfod y cyfle cywir i Georgia lle y gallai flodeuo” – Emma

Yn ychwanegol at astudio ar gyfer ei lefel A, gweithiodd Georgia yn rhan amser mewn popty lleol hefyd. Gan ddangos ymrwymiad llwyr i’w hunanddatblygiad, dysgodd Georgia gamau sylfaenol codio i’w hun yn ei amser rhydd, gan sicrhau ei bod yn gwneud popeth posibl i gyfoethogi ei gwybodaeth ac ennill cymaint o brofiad â phosibl i sicrhau ei bod yn wahanol i eraill.

Mynychodd Georgia gyfarfodydd rheolaidd yng Nghanolfan Kingsway y Coleg a chyfarfu ag Ymgynghorydd Recriwtio, Daniel Parvin, i drafod opsiynau ymarferol ar gyfer dilyn ei phrentisiaeth, y brif her oedd ceisio’r cyfle cywir yn y maes hynod gystadleuol hwn. Roedd Daniel wedi bod yn cefnogi’r DVSA (Awdurdod Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn eu hymgyrch recriwtio i ganfod ymgeiswyr addas ar gyfer Prentisiaethau Datblygu Meddalwedd Iau. Yn ymwybodol o sgiliau a galluoedd Georgia, yn naturiol parodd Daniel hi â’r cyfle gwych hwn. Gyda chefnogaeth ac arweiniad Dan, llenwodd Georgia ei chais, gan sicrhau ei bod yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Fe wnaeth gais manwl Georgia greu argraff ar y cyflogwr ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer am gyfweliad. Gyda swm anferth o geisiadau yn cystadlu am y cyfle unigryw hwn, gwyddai Georgia y byddai’n rhaid iddi berfformio hyd eithaf ei gallu er mwyn sicrhau’r rôl. Wrth ystyried hynny, parhaodd Emma a Daniel i gefnogi Georgia trwy gynnal nifer o senarios cyfweliad ffug, gan ymarfer cwestiynau gallu yn gyson a’r ymatebion priodol. Galluogodd y cyfweliadau ffug ymarferol i Georgia ddangos ei hymchwil a’i gwybodaeth, dangos ei natur broffesiynol a gwella ei gallu i ymdopi’n dda dan bwysau.

Fe wnaeth y cyfweliadau ffug fy helpu go iawn i egluro fy ymatebion i gwestiynau yr oedd y cyflogwr yn debyg o ofyn i mi. Roedd yr adborth adeiladol yn ddefnyddiol iawn ac fe helpodd fi i deimlo fy mod wedi paratoi’n llawn. Doeddwn i ddim yn teimlo’n bryderus, dim ond yn barod!” – Georgia

Wrth roi popeth ar waith, perfformiodd Georgia yn hynod dda yn y cyfweliad gan ddangos yn effeithiol ei sgiliau rhyngbersonol gwych a’i lefelau uchel o gymhelliant. Fe greodd Georgia argraff ar y cyflogwr ac fe gynigiwyd cyfle prentisiaeth iddi. Ar ôl dangos ymrwymiad llwyr i’w chynnydd, mae Georgia yn fodel rôl wych i’r rheini sydd â nodau gyrfaol mewn golwg ond nad ydynt yn rhy siŵr sut i’w cyflawni. Gyda’r gefnogaeth gywir a gyda ffocws clir ar yr hyn yr oedd eisiau ei gyflawni, mae Georgia wedi cymryd y camau cyntaf i’r hyn sy’n debyg o fod yn siwrnai yrfaol hynod lwyddiannus a chyffrous.

Mae’r tîm BJBF i gyd yn falch o Georgia a’r hyn y mae wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr o amser. Mae Georgia yn stori lwyddiant wych ac rwyf mor falch ei bod wedi cyflawni ei nod o sicrhau prentisiaeth TG gyda DVSA. Heb os mae’r dyfodol yn edrych yn hynod ddisglair i Georgia, a dymunaf y gorau oll iddi i’r dyfodol” – Daniel