Deb

Ar ôl chwilio am swydd am fisoedd, daeth Deb i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, yn dilyn ei diswyddiad o’r cwmni lle bu’n gweithio am dros 13 o flynyddoedd. Roedd Deb yn frwdfrydig yn ei rôl ac yn hapus i ymgeisio ar gyfer rolau newydd, fodd bynnag, teimlodd yn bryderus gyda’r posibilrwydd o gwblhau ffurflenni cais arbenigol a chymhleth. Collodd Deb hyder wrth iddi wynebu ansicrwydd diweithdra, nid oedd hi chwaith wedi sicrhau cyfweliad dros gyfnod o fisoedd. Roedd Deb wedi drysu, roedd hi’n cael trafferth deall yr hyn oedd yn mynd o’i le a’r camau oedd angen iddi gymryd er mwyn gwneud cynnydd.

“Derbyniodd fy merch gymorth gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol drwy Goleg Gŵyr Abertawe a chefnogwyd hi gan sicrhau prentisiaeth gyfrifeg ardderchog iddi. Yn dilyn hyn felly, penderfynais ddilyn esiampl fy merch gan wneud apwyntiad i weld os gallant fy helpu i” – Deb

Daeth Deb i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gyfarfod ag Emma. Trafodwyd y ddau ac amlinellodd Emma’r dulliau gorau sydd angen eu defnyddio er mwyn cwblhau ffurflenni cais. Esboniodd yn ogystal y sgiliau a’r rhinweddau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Derbyniodd Deb gymorth wrth Emma ar sut i baratoi’n drylwyr ar gyfer danfon ymatebion effeithiol i geisiadau swydd, canolbwyniwyd y ddau yn benodol ar fanyleb unigol, yn ogystal: Gofynnodd Emma i Deb ganolbwyntio ar fanylebau’n unigol gan amlinellu sut y byddai’n bodloni’r disgrifiad/au swydd. Cam wrth gam, roedd Deb yn gwneud cynnydd sylweddol ac wedi dechrau darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer rhoi cais llwyddiannus ar gyfer swydd.

“Mae ‘di bod yn bleser i weithio â Deb. Roedd hi’n gwrando’n astud ar y cyngor a’r arweiniad ac yn awyddus i ddysgu rhagor ar bob achlysur. Cyn dod yma, doedd ceisiadau Deb ddim yn rhai gwael, ond roedd angen iddi ddilyn proses fwy cadarn ar sut i strwythuro’i hymatebion er mwyn cael yr effaith fwyaf ar y cyflogwr. Roedd ganddi’r potensial yn barod a dim ond hwb bach oedd eisiau arni i’w gyflawni” – Emma, Ymgynghorydd Gweithlu

Ar ôl rhoi sêl bendith i CV, ffurflenni cais a cheisiadau Deb, dechreuodd ymgeisio ar gyfer swyddi addas. Yn dilyn hyder a hunangred newydd Deb, cafodd ei cheisiadau (o safon uchel) ei chymeradwyo ac o fewn dim o amser bu gwahoddiadau ar gyfer cyfweliadau’n cael eu darparu iddi.

“Cyn pob cyfweliad, roeddwn yn cyfarfod ag Emma i ymarfer fy nhechnegau er mwyn cynyddu fy hyder. Roedd mynd trwy’r broses mewn awyrgylch hamddenol yng nghwmni hwyneb cyfarwydd wedi fy helpu i baratoi, a theimlais yn barod ar gyfer heriau’r cyfweliadau roeddwn ar fin eu hwynebu” – Deb

Yn dilyn cyfweliadau llwyddiannus, cynigiwyd dwy swydd i Deb mewn dau sefydliad gwych. Roedd ei gwaith caled a’i brwdfrydedd wedi talu ffordd, wrth iddi feddu ar y moethusrwydd o allu dewis rhwng dau gyfle arbennig.

“Roeddwn yn hapus iawn pan glywais fod cynigion ar gyfer swyddi wedi cael ei chynnig i Deb. Roedd hi’n brofiad braf gweld bod y cyflogwyr wedi cydnabod ei phrofiad a’i galluoedd. Mae Deb yn berson clyfar a galluog ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn ei chefnogi i gyrraedd ei nodau. Mae’n glod i’w theulu ac yn esiampl wych i unrhyw un sydd yn gwynebu anawsterau diswyddo. Er iddi fod yn nerfus ac yn ofnus am ei dyfodol, gall Deb yn awr deimlo’n gyffrous am ei dyfodol, ac mae hynny’n wirioneddol wych i fod yn rhan ohono!” – Emma

Derbyniodd Deb y swydd oedd fwyaf addas i’w hamgylchiadau ac mae bellach yn edrych ymlaen at ddechrau mewn rôl gyllid sydd â photensial enfawr i ddatblygu.

“Credaf fod fy llwyddiant yn deillio o’r cyngor a’r help y darparodd Emma i mi, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar iddi hi a rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am bopeth y maen nhw wedi gwneud i mi a’m teulu” – Deb