Alvin
Daeth Alvin i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl bod yn ddi-waith am 3 mis ac yn awyddus i ymchwilio i gyfleoedd newydd. Wrth ymweld â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am y tro cyntaf, cyfarfu Alvin â Hyfforddwr Gyrfa Matthew a dangosodd barodrwydd i ddysgu a brwdfrydedd i wella ei sgiliau a’i gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn syth. Wrth weithio ar y cyd, creodd Matthew ac Alvin gynllun gweithredu cynhwysfawr gyda’i gilydd a oedd yn amlinellu llwybr personol Alvin tuag at gyflogaeth a nodi’r cyfleoedd a oedd ar gael iddo. Penderfynon nhw ganolbwyntio’n benodol ar wella sgiliau ysgrifennu CV Alvin a’i dechnegau cyfweliad ac, fel â phopeth a wnaed ganddo wrth weithio gyda thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, aeth ati’n gwbl ymroddedig, yn hynod gadarnhaol ac â dyhead di-ben-draw i wella ei hun. Wrth gymryd ymagwedd ymarferol i’w hunanddatblygiad, cymerodd Alvin yr awenau, gan dreulio llawer o’i amser yn gweithio’n annibynnol i wella ei allu i ysgrifennu ceisiadau effeithiol a llwyddiannus. Yn ogystal, cymerodd Alvin ran mewn ffug gyfweliadau gyda’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol er mwyn cynyddu ei hyder a gwella ei allu i feddwl yn glir ac ymdopi’n dda mewn sefyllfaoedd trwm a bod dan bwysau.
“Mae Alvin wedi bod yn gleient ardderchog i weithio gydag ef a dw i wedi dwlu ar ddod i’w adnabod. Mae gan Alvin frwdfrydedd heintus ac eiddgarwch dros fywyd ac nid oedd yr un amheuaeth gen i y byddai’n dod o hyd i’r cyfle cywir yn gyflym gyda’n cefnogaeth ni” – Matthew, Hyfforddwr Gyrfa
Er gaethaf fod yn aflwyddiannus mewn cyfweliadau i ddechrau, dangosodd Alvin amynedd a dyfalbarhad mawr a chafodd swydd Gweithiwr Warws amser llawn. Mae Alvin yn enghraifft euraidd o’r pethau gwych y gellir llwyddo ynddynt drwy ffocws, ymroddiad a chefnogaeth effeithiol. O ganlyniad i’r penderfyniad a’r ymroddiad hwn, ochr yn ochr â’r sgiliau newydd y mae wedi’u datblygu yn ystod ei amser yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Alvin wedi trawsnewid ei gyfleoedd posib yn y dyfodol ac mae’n parhau i weithio’n agos gyda thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i lwyddo yn ei nod yrfa yn y pen draw, sef cael swydd mewn cynhyrchu trydanol.
“Dw i mor hapus i fod yn ennill arian eto. Rydych chi i gyd wedi fy helpu llawer. Mae bob amser yn bleser i ddod i weld y tîm oherwydd eich bod chi wedi fy nghroesawu i gymaint. Diolch” – Alvin