Bwmp, babi a nôl i’r gwaith
Sgwrs agored â’r Ymgynghorydd Gweithlu Zoe, am ei thaith emosiynol i fod yn fam a’i llwybr nerfus nôl mewn i fyd gwaith.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, dwi wedi gweithio’n galed i adeiladu gyrfa i’m hun. Y peth diwethaf roeddwn i eisiau oedd rhoi terfyn ar fomentwm fy ngyrfa ar ôl cymryd absenoldeb mamolaeth.
Penderfynais fod yn hollol agored gyda fy Rheolwr o’r cychwyn cyntaf ynglyn â’m beichiogrwydd. Roedd rhaid imi fynychu apwyntiadau ychwanegol oherwydd rhesymau meddygol blaenorol, ac roedd gofyn imi deithio i Gaerdydd ar gyfer rhai ohonynt. Cefais wybod na fyddai hyn yn peri unrhyw broblem imi. Roedd fy Rheolwr yn gefnogol a gwnaeth imi deimlo’n gartrefol iawn, gan leddfu llawer o’r pryderon a gefais ynglyn â gweithio yn ystod fy meichiogrwydd anrhagweladwy.
Mae’r newidiadau corfforol sy’n digwydd i fenywod yn ystod cyfnodau o feichiogrwydd yn gallu cael effaith sylweddol ar eu gwaith dydd i ddydd. Erbyn diwedd fy meichiogrwydd roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ffitio y tu ôl i ddesg arferol ac roeddwn yn dechrau poeni na fyddwn i’n gallu ymgymryd â’m dyletswyddau mewn modd effeithiol. O ganlyniad, cefais sgwrs gyflym â’m Rheolwr ac unwaith eto diflannodd fy ngofidion: ces i ddesg oedd yn codi a gostwng, galluogodd hyn imi eistedd, neu sefyll yn gyfforddus wrth ymgymryd â’m gwaith. Fe wnaeth hyn hefyd helpu i leddfu rhywfaint o’r boen a’r anesmwythder oedd gennyf i yn fy nghymalau. Anogwyd mi i gymryd seibiannau ychwanegol a chefais gynnig i weithio’n hyblyg, ac o ganlyniad i natur fy rôl galluogoddd hyn imi weithio o adref. Gallaf ddweud yn gwbl onest, na fyddwn i wedi gallu gweithio hyd at ddiwedd fy meichiogrwydd heb yr addasiadau cefnogol hyn, sy’n beth gwych oherwydd roeddwn i’n benderfynol weithio tan funud olaf fy meichiogrwydd.
Roeddwn i’n gwybod o’r cychwyn cyntaf fy mod am gymryd 12 mis i ffwrdd o’r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth, ac roeddwn i’n yn awyddus i ddatblygu cynllun datblygu gyrfa yn barod ar gyfer fy nychweliad, cynllun a oedd yn cynnwys gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn lle’r 5 arferol. Roeddwn i’n ymwybodol o’r ffaith y byddai cymryd 12 mis i ffwrdd o’r gwaith yn debygol o achosi penbleth ariannol i mi, yn enwedig yn ystod misoedd olaf fy meichiogrwydd lle byddwn yn derbyn bach iawn o incwm, felly gwnes i’n siŵr fy mod wedi paratoi’n drylwyr. Fe wnaeth yr Adran AD a’r Gyflogres gyfrifo a gwneud synnwyr o beth fyddwn i’n derbyn fel cyflog dros gyfnod fy meichiogrwydd, a galluogodd hyn imi roi cynlluniau addas ar waith. Roedd y berthynas agored ac onest yr oedd gennyf â’r Coleg ehangach yn golygu nad oeddwn i’n pryderi nac ychwaith yn poeni llawer am gymryd absenoldeb mamolaeth, felly galluogodd hyn imi baratoi ar gyfer pob posibiliad ynghylch fy meichiogrwydd. Teimlais yn ddiogel ac yn hapus pan gymerais absenoldeb mamolaeth gan wybod y byddaf yn dychwelyd i’m swydd ymhen 12 mis gyda phopeth wedi ei drefnu yn ofalus o flaen llaw.
Yna, gweddnewidiodd fy mywyd yn llwyr. Ganed fy merch brydferth Seren, a chipiodd fy nghalon yn syth. Fe wnes i fwynhau pob eiliad o fy nghyfnod i ffwrdd o’r gwaith a hedfannodd 12 mis heibio mewn amrantiad. Ni theimlais ar unhryw adeg fy mod wedi cael fy ngadael allan o’r ‘lŵp’ gan fy nghyflogwr; cefais wybod am bob newid o ran rolau rheolwyr, aelodau newydd o staff yn ogystal â chyfleoedd newydd a allai fod o ddidordeb i mi. Roedd y wybodaeth a dderbyniais wedi lleddfu fy ngofidion ac wedi rhoi syniad imi o beth i ddisgwyl erbyn imi ddychwelyd i’r gwaith.
Mae polisi Absenoldeb Mamolaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn annog unigolion i gymryd rhan mewn hyd at 10 o ddiwrnodau ‘cadw mewn cysylltiad’ (a thâl), er mwyn hwyluso’r broses o ddychwelyd i’r gwaith. Roeddwn i’n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfleoedd hyn, ac er na chymerais ran mewn 10 diwrnod llawn, fe helpodd y diwrnodau imi ail-gyfarwyddo ag amgylchedd y gweithle mewn modd llyfn.
Erbyn diwedd fy nghyfnod mamolaeth fe gyflwynais gais i weithio’n hyblyg er mwyn gallu rhoi’r holl drefniadau gofal plant yn eu lle. Gwnes i gais hefyd i gwtogi fy oriau gwaith er mwyn gweithio 4 diwrnod yr wythnos a chefnogwyd y cais hwn yn llwyr gan y Tîm Rheoli. Anfonwyd diwygiad contract drwy’r post a chadarnheais y newid i’r contract. Roeddwn i’n awyddus iawn i weithio cymaint ag oedd fy mywyd newydd yn ei ganiatâi; rwy’n mwynhau gweithio ac yn hoff o gyfathrebu gyda fy nghydweithwyr a chyflogwyr sy’n gysylltiedig â’m gwaith. Roeddwn i eisiau cadw fy ngyrfa ar y trywydd cywir wrth addasu i’m hymrwymiadau teuluol, a galluogodd hyblygrwydd fy rôl imi gyflawni hyn yn hawdd.
Mewn fflach, dychwelais i’r gwaith; roeddwn i’n nerfus iawn ar gyfer fy niwrnod cyntaf yn ôl ac roedd hi’n teimlo fel diwrnod cyntaf ‘go iawn’! Diflannodd fy mhryderon yn syth ar ôl imi gerdded drwy’r drysau a theimlais fel nad oeddwn i wedi gadael y lle o gwbl – heblaw am y wynebau newydd a’r swyddfa newydd sbon oedd wedi dyblu mewn maint o leiaf!
Dwi wedi bod nôl yn y gwaith ers mis bellach ac rydw i wrth fy modd yma. Mae Seren yn dwlu ar eu diwrnodau gartref gyda’i thad, ei mam-gu a’i thad-cu, ac mae’r feithrinfa wedi bod yn anhygoel yn ogystal.
Rwy’n teimlo’n lwcus iawn fy mod wedi cael y profiad arbennig hwn ac yn ymwybodol iawn o’r ffaith nad oes pawb yn cael profiad tebyg ac yn gweithio i sefydliadau hael a charedig. Oherwydd hyn, rwy’n deall sut y gall y broses fod yn heriol i unigolion eraill. Mae gen i gydbwysedd gwaith/bywyd gwych a chyda cefnogaeth gynhwysfawr Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydw i wedi gallu symud yn nôl i fyd gwaith gan gynnal fy annibyniaeth a’m hunaniaeth broffesiynol.
Rwy’n teimlo’n angerddol dros ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi unigolion a busnesau eraill gyda’u hagwedd, eu dealltwriaeth a’u hymarferion tuag at feichiogrwydd, mamolaeth a symud yn ôl mewn i gyflogaeth. Os hoffech wybodaeth bellach am y cymorth y gall ein tîm arbenigol o Ymgynghorwyr Gweithlu gynnig i’ch busnes, cysylltwch â’r tîm heddiw.