Employability at Gower College Swansea
  • Cymuned
  • Dysgwyr
  • Fusnes
  • English
  • Cysylltu
  • Menu Menu

Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe?

Fel rhan o Warant Coleg Gŵyr Abertawe, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig cyngor a chymorth ar opsiynau cyflogaeth a phrentisiaethau, yn ogystal â mynediad at gymorth cyflogadwyedd parhaus i helpu dysgwyr sicrhau eu gyrfa delfrydol.

Cymorth sydd ar gael

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu ystod eang o weithgareddau cymorth cyflogadwyedd i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe:

Academi’r DyfodolHybiau GSGD
PreviousNext

Academi’r Dyfodol

Nod Academi Dyfodol yw helpu myfyrwyr Safon Uwch nad ydynt am symud ymlaen i Addysg Bellach ar ôl cwblhau eu cwrs/cyrsiau. Mae’r Academi yn cynnwys rhaglen o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu llwybr cyflogaeth unigryw i bob myfyriwr, gyda’r nod o symud ymlaen yn syth i fyd gwaith neu brentisiaeth ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau Safon Uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am Academi Dyfodol cysylltwch â’r Hybiau Dyfodol neu gofynnwch i diwtor eich cwrs.

Hybiau Dyfodol

Mae hybiau penodedig Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi’u lleoli ar gampysau’r coleg yn Nhycoch a Gorseinon a gall myfyrwyr y Coleg gyrchu cyngor a chymorth cyflogadwyedd galw heibio.

Nod yr hybiau yw cefnogi dysgwyr i symud yn llwyddiannus mewn i gyflogaeth drwy dderbyn gwybodaeth a sgiliau gyrfa, ynghyd â chymorth a chefnogaeth cyflogadwyedd un-i-un.

Mae’r hybiau hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddod o hyd i gyflogaeth ran-amser i fynd llaw yn llaw i redeg ochr yn ochr â’r astudiaethau yn y coleg. Gall fyfyrwyr alw i mewn i’r hybiau neu gall diwtoriaid eu cyfeirio nhw yno.

“Dw i wrth fy modd o dderbyn y cynnig swydd hwn a hoffwn ddiolch o galon i Zoe! Mae hi – a llawer o staff eraill – wedi darparu cymorth gwych drwy gydol y broses ymgeisio. O brawfddarllen fy CV a rhannu tipiau cyfweliadau amhrisiadwy i ateb cwestiynau ac ymholiadau, mae ei hymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

Rebecca

“Diolch o galon i’r tîm gyrfaoedd am eu cymorth a’u harweiniad wrth fy helpu i sicrhau prentisiaeth. Mae eich ymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac rydw i’n gwerthfawrogi popeth rydych chi wedi ei wneud i fy helpu i gymryd y cam hwn.”

Patryk

“Mae fy amser fel myfyriwr Academi Dyfodol wedi bod yn wych. Derbyniais gymaint o gymorth defnyddiol, yn enwedig o ystyried nad oedd gen i syniad o’r hyn roeddwn i am ei wneud ar ôl gadael y coleg! Rydw i wedi gwireddu breuddwyd trwy dderbyn rôl ym maes cyfrifeg ac rwy’n gyffrous ar gyfer y dyfodol.”

Lana

Mae capsiynau caeedig ar gael hefyd. Ewch i’n sianel YouTube i wylio rhagor o fideos.

  • Gorseinon – ystafell A20
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Mawrth 30 Medi – 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau Cyfweliadau
    Dydd Mawrth 7 Hydref- 12:00 – 1:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Mawrth 14 Hydref- 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau CV
    Dydd Mawrth 4 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Mawrth 11 Tachwedd- 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau Cyfweliadau
    Dydd Mawrth 18 Tachwedd- 12:00 – 1:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Mawrth 25 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Sesiynau Rhithwir
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Mawrth 30 Medi – 12:00 – 1:00pm
  • Ymgeisio am Swyddi (Teams) – Cliciwch yma i ymuno
    Dydd Mercher 8 Hydref – 2:00-3:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Mawrth 14 Hydref- 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau Cyfweliadau (Teams) – Cliciwch yma i ymuno
    Dydd Mercher 5 Tachwedd – 2:00-3:00pm
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Mawrth 11 Tachwedd- 12:00 – 1:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    (Teams) – Cliciwch yma i ymuno
    Dydd Mercher 19 Tachwedd- 2:00-3:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Mawrth 25 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Tycoch – Hyb Dyfodol GSGD
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Iau 2 Hydref – 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau Cyfweliadau
    Dydd Iau 9 Hydref – 12:00 – 1:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Iau 16 Hydref – 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau CV
    Dydd Iau 6 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Ymgeisio am Swyddi
    Dydd Iau 13 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Sgiliau Cyfweliadau
    Dydd Iau 20 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
    Dydd Iau 27 Tachwedd – 12:00 – 1:00pm

Sut i gael gafael ar cymorth 

Mae Hybiau GSGD yn cynnig gwasanaeth yn ystod y tymor yn unig. Y tu allan i’r tymor, gall myfyrwyr gael cymorth yn Hyb Cyflogaeth Ffordd y Brenin y Coleg neu drwy ffonio 01792 284450 / e-bostio info@betterjobsbetterfutures.wales.

Atriwm Tycoch
(wrth ymyl Undeb y Myfyrwyr)
Get directions
Ardal Derbynfa Gorseinon
(Ystafell B4)
Get directions

Cysylltu

Contact the team by phone, email or dropping in to our Employment Hub.

Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF

01792 284450

info@betterjobsbetterfutures.wales

Cysylltu â’r tîm
  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Dewiswch Iaith

Y Cyfryngau Cymdeithasol

  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Cyfreithiol

GDPR
Hysbysiad Hygyrchedd

Dolenni cyflym

  • Catref
  • Cymuned
  • Dysgwyr CGA
  • GSGS i Fusnesau
  • Cyfarfod â’r tîm
  • Cysylltu

Gower College Swansea

Scroll to top