Cymorth i fusnesau
Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig cymorth i fusnesau sy’n ceisio ehangu a datblygu eu gweithlu presennol, gyda’r potensial i recriwtio a datblygu staff o ardal Abertawe.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i gynllunio a datblygu gweithlu gyda’r nod o wella arferion gwaith, gan roi sylw i faterion recriwtio a chadw, gwella ymgysylltu â chyflogeion a chynyddu cynhyrchedd. Mae ein tîm yn gweithio gyda phob busnes yn unigol i ddeall eu heriau penodol eu hunain a gwneud y gorau o’u potensial trwy eu rhaglen wedi’i theilwra eu hunain sy’n cael ei rheoli gan hyfforddwr gyrfaoedd penodedig.
Mae cymorth arbenigol ar gael ar gyfer recriwtio a pharu â swyddi trwy ein harbenigwyr rheoli recriwtio a doniau sy’n gweithio gyda busnesau a’n sylfaen gwsmeriaid eang i baru’r ymgeisydd iawn â’r cyfle gwaith iawn. Gall gweithio gyda ni eich helpu chi a’ch busnes i symud ymlaen a datblygu ac rydym yn hyderus bod gennym yr ateb ar gyfer anghenion eich cwsmeriaid, eich cyflogeion a’ch sefydliad. Gadewch i ni eich helpu i gyflawni rhagoriaeth yn ddieithriad.