Employability at Gower College Swansea
  • Cymuned
  • Dysgwyr
  • Fusnes
  • English
  • Cysylltu
  • Menu Menu

Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe?

Fel rhan o Warant Coleg Gŵyr Abertawe, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig cyngor a chymorth ar opsiynau cyflogaeth a phrentisiaethau, yn ogystal â mynediad at gymorth cyflogadwyedd parhaus i helpu dysgwyr sicrhau eu gyrfa delfrydol. Mae’r cymorth hwn yn rhan o’r Canolfannau Cyflogaeth a Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae capsiynau caeedig ar gael yma.

Cymorth sydd ar gael

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu ystod eang o weithgareddau cymorth cyflogadwyedd i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe:

Academi’r DyfodolHybiau GSGD
PreviousNext

Academi’r Dyfodol

Nod Academi Dyfodol yw helpu myfyrwyr Safon Uwch nad ydynt am symud ymlaen i Addysg Bellach ar ôl cwblhau eu cwrs/cyrsiau. Mae’r Academi yn cynnwys rhaglen o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu llwybr cyflogaeth unigryw i bob myfyriwr, gyda’r nod o symud ymlaen yn syth i fyd gwaith neu brentisiaeth ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau Safon Uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am Academi Dyfodol cysylltwch â’r Hybiau Dyfodol neu gofynnwch i diwtor eich cwrs.

Hybiau Dyfodol

Mae hybiau penodedig Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi’u lleoli ar gampysau’r coleg yn Nhycoch a Gorseinon a gall myfyrwyr y Coleg gyrchu cyngor a chymorth cyflogadwyedd galw heibio.

Nod yr hybiau yw cefnogi dysgwyr i symud yn llwyddiannus mewn i gyflogaeth drwy dderbyn gwybodaeth a sgiliau gyrfa, ynghyd â chymorth a chefnogaeth cyflogadwyedd un-i-un.

Mae’r hybiau hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddod o hyd i gyflogaeth ran-amser i fynd llaw yn llaw i redeg ochr yn ochr â’r astudiaethau yn y coleg. Gall fyfyrwyr alw i mewn i’r hybiau neu gall diwtoriaid eu cyfeirio nhw yno.

“Pan oeddwn yn ansicr ynghylch fy nghamau nesaf, awgrymodd un o fy ffrindiau i mi gysylltu â thîm Dyfodol. Fe wnaeth fy Hyfforddwr Gyrfa fy helpu i archwilio cyflogaeth, addysg ac opsiynau hyfforddiant. Ar ôl penderfynu dilyn llwybr prentisiaeth, cefais fy nghefnogi i ymgeisio am nifer o rolau. Nawr mae gen i Brentisiaeth TG sy’n cyd-fynd yn berffaith â fy sgiliau a fy nghynllun ar gyfer y dyfodol”.

Laurice

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig rhaglen o’r enw Dyfodol, sef adnodd gwych sy’n darparu cymorth un-i-un, gan bobl sydd wedi gweithio ym maes recriwtio. Maen nhw’n eich hyfforddi ac yn teilwra eich cais i’r cyflogwr. Fe wnaethon nhw ddarparu cymorth gwych a chyngor effeithiol ac effeithlon trwy gydol y broses ymgeisio.”

Daniel

“Derbyniais lawer o gymorth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cefais lawer o help gyda fy ngherdyn CSCS ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi derbyn help gan Dyfodol i ddod o hyd i brentisiaeth. Roedd y tîm yn cadw mewn cysylltiad â mi yn rheolaidd, ac nid oeddwn i’n poeni am fy nyfodol o gwbl”.

Alina

“Mae’r cymorth wedi bod yn amhrisiadwy, ac ni fyddwn wedi dod o hyd i swydd heboch chi. Fe dderbyniais hysbysebion am swyddi gennych nad ydynt ar gael i’r cyhoedd ac fe wnaethoch chi fy helpu i greu llythyron eglurhaol a CV ar gyfer fy nghais. Fe ges i hefyd awgrymiadau a chyngor gennych ar sut i ymddwyn mewn cyfweliadau a sut i werthu fy hun.”

Jessica

Mae capsiynau caeedig ar gael hefyd. Ewch i’n sianel YouTube i wylio rhagor o fideos.

Sut i gael gafael ar cymorth 

Mae Hybiau GSGD yn cynnig gwasanaeth yn ystod y tymor yn unig. Y tu allan i’r tymor, gall myfyrwyr gael cymorth yn Hyb Cyflogaeth Ffordd y Brenin y Coleg neu drwy ffonio 01792 284450 / e-bostio info@betterjobsbetterfutures.wales.

Atriwm Tycoch
(wrth ymyl Undeb y Myfyrwyr)

Dydd Llun i ddydd Iau: 9:00am – 4:30pm
Dydd Gwener: 9am – 12:30pm

Get directions
Ardal Derbynfa Gorseinon
(Ystafell B4)

Dydd Llun i ddydd Iau: 9:00am – 4:30pm
Dydd Gwener: 9am – 12:30pm

Get directions

Cysylltu

Contact the team by phone, email or dropping in to our Employment Hub.

Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF

01792 284450

info@betterjobsbetterfutures.wales

Cysylltu â’r tîm
  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Dewiswch Iaith

Y Cyfryngau Cymdeithasol

  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Cyfreithiol

GDPR
Hysbysiad Hygyrchedd

Dolenni cyflym

  • Catref
  • Cymuned
  • Dysgwyr CGA
  • GSGS i Fusnesau
  • Cyfarfod â’r tîm
  • Cysylltu

Gower College Swansea

Scroll to top