Uwch Weithiwr Gofal
Sgeti
£11.05 yr awr
Amser Llawn
30.3.23
Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwyydd gofal rhagorol i ymuno â thîm o Ofalwyr sy’n cynnig gwasanaeth gofal preswyl a gofal dementia rhagorol i unigolion dros 65. Mae gennym enw da iawn ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu gofal cyfannol o’r radd flaenaf, ond mae angen pobl angerddol ac ymroddedig arnom i gynnal safonau uchel ar gyfer ein preswylwyr, drwy’r dydd, bob dydd.Os ydych chi’n ofalgar, gweithgar, angerddol ac yn dymuno gweithio mewn cartref gofal sy’n hybu annibyniaeth, hapusrwydd a hwyl yn hytrach na thasgau ac arferion diflas, cysylltwch â ni i ddechrau eich taith newydd. I gefnogi ein staff, rydym yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd dilyniant i’r rhai sy’n ei geisio.
Mae ein staff yn cael eu recriwtio oherwydd eu natur ystyriol a gofalgar, gan wybod bod pob un ohonynt yn chwarae rhan allweddol yn lles ein preswylwyr. Mae dyletswyddau’n cynnwys: dod i nabod ein preswylwyr, eu diddordebau a’u hanghenion; ymgymryd â dyletswyddau cadw cofnodion yn ddyddiol; helpu gyda gofal personol megis ymolchi, mynd i’r toiled a gwisgo; weini prydau, diodydd a byrbrydau; ymgymryd â thasgau cyffredinol megis gwaith tŷ, golchi dillad a siopa.
Bydd gan ymgeiswyr addas o leiaf 1 blwyddyn o brofiad o weithio fel Cynorthwyydd Gofal a chymhwyster QCF Lefel 2 a pharodrwydd i ymgymryd â chymwysterau QCF Lefel 3. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus parodrwydd i weithio mewn tîm ac ar eich liwt eich hun, yn ogystal â sgiliau arwain da a brwdfrydedd ac angerdd am weithio yn y sector gofal.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales