Uwch Ofalwr Nos

Sketty
£11.50 per hour
Part Time
30.3.2023

Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr gofal rhagorol i ymuno â thîm o Ofalwyr sy’n cynnig gwasanaeth gofal preswyl a gofal dementia rhagorol i unigolion dros 65.  Mae gennym enw da iawn ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu gofal cyfannol o’r radd flaenaf, ond mae angen pobl angerddol ac ymroddedig arnom i gynnal safonau uchel ar gyfer ein preswylwyr, drwy’r dydd, bob dydd.

Os ydych chi’n ofalgar, gweithgar, angerddol ac yn dymuno gweithio mewn cartref gofal sy’n hybu annibyniaeth, hapusrwydd a hwyl yn hytrach na thasgau ac arferion diflas, cysylltwch â ni i ddechrau eich taith newydd. I gefnogi ein staff, rydym yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd dilyniant i’r rhai sy’n ei geisio. Mae ein staff yn cael eu recriwtio oherwydd eu natur ystyriol a gofalgar, gan wybod bod pob un ohonynt yn chwarae rhan allweddol yn lles ein preswylwyr.

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster QCF Lefel 2 a pharodrwydd i ymgymryd â chymwysterau QCF Lefel 3. Gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys: dod i nabod ein preswylwyr, eu diddordebau a’u hanghenion; ymgymryd â dyletswyddau cadw cofnodion yn ddyddiol; helpu gyda gofal personol megis ymolchi, mynd i’r toiled a gwisgo; gweini prydau, diodydd a byrbrydau; ymgymryd â thasgau cyffredinol megis gwaith tŷ, golchi dillad a siopa; cefnogi teuluoedd i ddod yn gyfarwydd â chyfrifoldebau gofalu newydd; gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol eraill i gynnig gofal unigol a chynlluniau datblygu.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales