Staff Hyrwyddo

Canol y Ddinas
£8.50 – £10 yr awr
Dros dro
20.03.2023

Rydym am ehangu ein tîm gwych ac yn chwilio am unigolion i ymuno â’n tîm hyrwyddo. Mae ein tîm hyrwyddo yn cynnwys gweithwyr caled, cyfeillgar, brwdfrydig a chymdeithasol ac maent yn ffynnu wrth weithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd prysur.

Rydym yn chwilio am unigolion hwyliog sy’n medru cynnig llawer o egni a rhaid iddynt fod yn barod i dorchi llewys a gweithio’n galed pan fo angen. Mae ein tîm hyrwyddo yn gyfeillgar a hyderus, ac maent yn broffesiynol iawn. Mae ganddynt hefyd awydd i gyfathrebu ag unigolion i wneud y mwyaf o werthiant, gan ddenu torfeydd prysur Wind Street at ein sefydliad!

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales