Staff Bar a Gweini
Abertawe
£4.81 – £9.50 yr awr – dibynnu ar oedran
Amser Llawn a Rhan-Amser
30.03.23
Mae cyfle wedi codi i staff Bar/Blaen Tŷ ymuno â bwyty cyffrous yng nghanol Abertawe. Rydym yn chwilio am unigolion i weithio mewn rolau amser llawn a rhan-amser. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfeillgar, croesawgar a rhaid iddynt ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwych bob amser mewn modd hapus.
Fel aelod o’n tîm blaen tŷ, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rhedeg gwasanaeth didrafferth yn y caffi, bwyty, bar ac mewn digwyddiadau/cynadleddau yn achlysurol. Bydd ymgeiswyr yn fywiog ac egnïol ac yn ddelfrydol bydd ganddynt rywfaint o brofiad ym maes lletygarwch, fodd bynnag, byddwn yn darparu hyfforddiant llawn. Mae angerdd am fwyd a diod gwych yn hanfodol ar gyfer y rôl hon a bydd angen i chi fod yn gyffrous am ein cynnyrch rydych chi’n ei gyflwyno i’n cwsmeriaid!
Os ydych chi’n ddibynadwy, yn frwdfrydig ac yn angerddol am letygarwch – efallai y byddwch chi’n berffaith ar gyfer y rôl, felly cysylltwch â ni! Efallai y bydd cyfleoedd i chi weithio ledled ein lleoliadau eraill. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gorfod gweithio yn ystod y gwyliau.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales