Sarah Kenna

 

“Trin eraill fel yr hoffech chi gael eich trin – y peth gorau y gallwch ei wneud yw bod yn garedig.”

Cawson ni sgwrs â’r Ymgynghorydd Recriwtio Sarah am y ffaith mai ‘newid’ yw’r unig beth cyson mewn bywyd, a sut mae’r gallu i newid yn pennu eich llwyddiant. Canlyniad y sgwrs? Stori sy’n profi nad yw llwybrau gyrfa bob amser yn syml, ond rhaid inni beidio â stopio dysgu, oherwydd mae bywyd yn wers barhaus.

 

A wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu addysg uwch?

Es i i’r coleg i astudio’r Gyfraith, Saesneg ac Astudiaethau Crefyddol a llwyddo yn fy 3 chwrs Safon Uwch. Pan oeddwn i yn y coleg gweithiais i mewn nifer o swyddi rhan-amser o adwerthu i letygarwch, ac wrth edrych yn ôl, dwi’n teimlo bod hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy nhaith yrfa yn y dyfodol; o oedran ifanc, dwi wedi datblygu moeseg waith gref, dysgu pwysigrwydd parchu awdurdod, a dwi wedi ennill amrywiaeth o sgiliau pwysig o gyfathrebu effeithiol i ddatrys problemau yn effeithlon.

Ar ôl gadael y coleg roeddwn i’n siomedig nad oeddwn i wedi cael y graddau sydd eu hangen i ddilyn y gyfraith, felly yn lle hynny penderfynais i ddilyn cwrs gradd mewn Astudiaethau Cymdeithasol yn Swydd Stafford, oherwydd ar y pryd, roedd gwaith y llywodraeth yn apelio ataf yn fawr. Yn ystod fy nghyfnod yn Swydd Stafford, gweithiais i mewn nifer o swyddi rhan-amser yn y sector lletygarwch ac adwerthu; hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o fod oddi cartref, a dysgais i lawer iawn o sgiliau gwerthfawr yn bersonol ac yn broffesiynol.

Pan adawais i’r Brifysgol manteisiais i ar y cyfle i warbacio ledled y byd, ac ymweld â llawer o wledydd gan gynnwys Awstralia, Singapôr, Tahiti a Los Angeles! I mi, roedd hwn yn brofiad mor werthfawr i archwilio gwahanol ddiwylliannau, ymgymryd â heriau newydd, a chael gwybod rhagor am gynifer o alwedigaethau. Roedd y profiad yn anhygoel ac mor werth chweil, ac roeddwn i’n hynod ddiolchgar i fachu ar y cyfle i deithio cyn setlo i lawr a chanolbwyntio ar y daith yrfa o’m blaen.

Sut mae’ch taith yrfa wedi datblygu?

Yn dilyn fy nheithiau dychwelais i i Abertawe a dechrau chwilio am fy ‘swydd go iawn’ gyntaf, a oedd ar y pryd yn golygu ymweld â’m canolfan waith leol. Roeddwn i’n hynod lwcus i gael cynnig gwaith gweinyddol yn y ganolfan, ac er nad oedd hyn yn rhan o’m cynllun gyrfa, roeddwn i mewn sefyllfa wych i ddechrau chwilio am gyfle mwy parhaol. Symudais i swydd Cynorthwyydd AD gyda’r GIG ar gontract chwe mis y gwnes i ei mwynhau’n fawr, gan weithio yn yr adran bersonél i gynorthwyo gyda recriwtio, datblygu staff, a chefnogi pobl yn gyffredinol i wneud yr hyn roedden nhw eisiau ei wneud! Pan ddaeth fy nghontract i ben, penderfynais i gymryd tipyn o risg a symud i Birmingham lle roedd fy ngŵr yn byw ar y pryd. Ymwelais i ag asiantaeth recriwtio a digwyddais i fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn oherwydd ces i gynnig rôl Cynorthwyydd Gweinyddol yn yr asiantaeth yn ystod fy apwyntiad cyntaf! Wnes i fwynhau fy amser gyda’r sefydliad yn fawr, gan symud ymlaen yn y pen draw i Uwch Swyddog Recriwtio, ac ar ôl pum mlynedd yn yr asiantaeth, wnes i symud ymlaen i rôl Swyddog Recriwtio gyda llywodraeth leol, yn helpu unigolion i gael rolau yn y sector gofal. Yn ddiweddarach dychwelais i i Abertawe a sicrhau rôl recriwtio gyda’r sefydliad roeddwn i wedi gweithio iddo yn Birmingham, cyn symud i rôl yn Remploy lle arhosais i am bum mlynedd cyn cymryd absenoldeb mamolaeth i gael fy merch gyntaf.

A wnaeth dy lwybr gyrfa newid cyfeiriad ar ôl i chi gael plant?

Ar ôl dau gyfnod o absenoldeb mamolaeth, penderfynais i adael byd gwaith i ddod yn fam amser llawn. Dwi’n hynod ddiolchgar am fod yn ddigon ffodus i dreulio ychydig flynyddoedd cyntaf bywydau fy mhlant yn eu gwylio nhw yn tyfu i fyny ac yn cyrraedd eu holl gerrig milltir pwysig. Pan ddechreuodd y ddwy ferch yn yr ysgol, roedd yn teimlo fel yr amser perffaith i ddod o hyd i swydd ran-amser. Teimlais i dros amser fy mod i wedi colli rhan o’m hunaniaeth a llawer o hyder, ac roeddwn i’n barod i ymgymryd â rôl ychwanegol yn ogystal â bod yn ‘fam’. Wnes i sicrhau rôl adwerthu ran-amser cyn ceisio gwaith amser llawn trwy’r rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Ar y pryd, roedd y rhaglen yn ei dyddiau cynnar ac roedd fy Hyfforddwr wedi rhoi gwybod i mi am rôl recriwtio yn y sefydliad a oedd o ddiddordeb mawr i mi. Wnes i ymgeisio amdani ac roeddwn i’n llwyddiannus! Roeddwn i fel y gog! Roeddwn i mor barod am her newydd sbon a dwi wedi gwirioni arni byth ers hynny!

Oes un peth yr hoffech chi fod wedi ei wybod pan oeddech chi’n iau?

Wrth edrych yn ôl, hoffwn pe bawn wedi sylweddoli nad oes unrhyw benderfyniadau anghywir mewn bywyd; rydych chi’n dysgu o bob profiad felly does dim difaru! Yn sicr, dwi wedi gweithio mewn rhai rolau nad oedden nhw’n iawn i mi, ond mae’r profiadau hyn yn adeiladu cymeriad ac yn eich helpu i wneud y dewisiadau cywir yn y dyfodol; peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu oherwydd mae bywyd yn parhau i addysgu!

Cyngor gorau ar gyfer ymgeisio am swyddi?

Fy nghyngor gorau yw mentro bod yn wahanol. Mae’n bwysig bod â’r hyder i sefyll allan a chael pobl i sylwi arnoch am yr holl resymau cywir. Mae cyflogwyr wrth eu bodd yn gweld ymgeiswyr sy’n angerddol am y rôl a’r sefydliad, felly dangoswch eich gwybodaeth a dweud wrthynt pam rydych chi’n ffit perffaith ar gyfer eu diwylliant, eu gwerthoedd a’u gweledigaeth! Er ei bod yn bwysig diwallu’r holl feini prawf hanfodol, cofiwch fod cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi profiadau bywyd a pha bersonoliaeth y gallwch ddod â hi i’r rôl – cofleidiwch yr hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw!

Beth yw’ch cyngor yn gyffredinol?

Y cyngor cyffredinol gorau y gallaf ei roi yw bod yn chi’ch hun. Camgymeriad mawr y mae pobl yn ei wneud yn aml yw ceisio bod yn rhywun nad ydyn nhw, a cheisio portreadu’r hyn maen nhw’n meddwl y mae pobl eisiau ei weld. Dim ond man cychwyn yw’r cyfweliad – os ydych chi’n mynd i lwyddo mewn rôl bydd angen i chi ategu’r wybodaeth a roddoch chi a dangos yr holl rinweddau cadarnhaol y gwnaethoch chi dynnu sylw atynt. Byddwch yn hyderus yn eich hun a byddwch yn chi’ch hun – peidiwch â cheisio bod yn rhywun arall. Byddwch yn ostyngedig yn eich hyder ac yn ddewr yn eich cymeriad!